Cyflwyno rhaglen neu bodlediad radio neu sain
URN: SKSRAC29
Sectorau Busnes (Suites): Creu Cynnwys Radio a Sain
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
01 Maw 2017
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â bod yn gyflwynydd radio a sain effeithiol - drwy adeiladu hygrededd a pherthynas, a thrwy gyfathrebu'n gryno, yn wybodus ac yn ddengar gyda chynulleidfaoedd.
Mae'n cynnwys deall amrywiol rolau cyflwynwyr radio a sain ym maes radio a sain cerddoriaeth a llais.
Mae'n golygu deall cynulleidfaoedd targed a datblygu perthnasau gyda nhw.
Mae hefyd yn gofyn ymwybyddiaeth o rym, dylanwad a chyfrifoldebau cyflwynwyr.
Mae'r Safon hon yn berthnasol i bob un sy'n cyflwyno rhaglen neu bodlediad radio neu sain.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- defnyddio gwybodaeth ddibynadwy i ganfod cyd-destun a diben eich rôl fel cyflwynydd y rhaglen neu bodlediad radio neu sain
- datblygu perthynas gyda'ch cynulleidfa ar sail yr wybodaeth sydd gennych am eu nodweddion, eu diddordebau a'u disgwyliadau
- paratoi, ymchwilio a chynnal sylwebaeth ar ddigwyddiadau mewn arddull priodol ar gyfer y rhaglen/podlediad radio neu sain, ei gynulleidfa a'r pwnc
- dangos ymgysylltiad gyda'r pwnc, a gwybodaeth amdano, a chyd-destun y rhaglen radio neu sain mewn ffyrdd sy'n adeiladu eich hygrededd gyda'r gynulleidfa fyw neu'r gynulleidfa sy'n gwrando
- gweithredu stiwdios, cyfarpar recordio a chyfarpar technegol arall yn unol â chyfarwyddiadau gan weithgynhyrchwyr a chydweithwyr technegol
- gweithio o fewn gofynion cynhyrchu radio neu sain, ac arsylwi disgyblaethau'r broses gynhyrchu, gan gynnwys amseriadau
- cydymffurfio â'r cyfreithiau a'r rheoliadau perthnasol a chodau ymddygiad sefydliadol
- sicrhau bod eich ymddangosiad personol a'ch edrychiad yn gweddu i'r achlysur a'r lleoliad wrth weithio wyneb yn wyneb gyda chynulleidfaoedd neu'r cyhoedd
- adolygu adborth y gwrandäwr/cynulleidfa a chyfrannu at unrhyw ymatebion yn unol â gofynion sefydliadol ar gyfer y rhaglen/podlediad
- gwrando ar yr allbwn ac adolygu eich perfformiad eich hun yn barhaus
- ceisio a derbyn adborth am eich perfformiad gan eich rheolwr a'ch cydweithwyr cynhyrchu'n rheolaidd
- adnabod cyfleoedd ymarferol i ddatblygu a gwella'ch perfformiad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- yr ystod o arddulliau gorsafoedd, genres a fformatau rhaglenni a phodlediadau ym maes radio a sain, a'r gwahanol rolau cyflwyno maen nhw'n eu mynnu
- y disgyblaethau cyflwyno sy'n berthnasol i'r gwahanol genres gan gynnwys cerddoriaeth, newyddion neu raglenni dogfen
- ffynonellau gwybodaeth am y gynulleidfa, yn arbennig y rhai sy'n benodol i bob cynulleidfa gwrandäwr/targed
- sut i ddatblygu arddull cyflwyno naturiol sy'n briodol i bob cynulleidfa gwrandäwr/targed
- sut i addasu eich arddull yn dibynnu ar y pwnc ac ar fformat allbwn y rhaglen neu bodlediad
- pwysigrwydd iaith briodol - gan gynnwys deall ethnigrwydd, rhywedd, oedran a gogwydd rhywiol
- y grym a'r dylanwad y gall cyflwynwyr eu cael dros gynulleidfaoedd/gwrandawyr a chyfrifoldebau cyflwynwyr o ran rheoli'r rhain
- y cyfreithiau perthnasol, y rheoliadau a'r codau ymarfer sefydliadol sy'n berthnasol, a'ch cyfrifoldebau arbennig chi fel cyflwynydd
- y broses dechnegol o recordio sain a nodweddion arwyddocaol amrywiol fathau o gyfarpar recordio
- sut i asesu eich perfformiad eich hun yn erbyn meini prawf cynhyrchu radio neu sain a dysgu o brofiad a chamgymeriadau
- pwysigrwydd adolygu eich perfformiad yn barhaus er mwyn datblygu eich sgiliau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2020
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Creative Skillset
URN gwreiddiol
SKSRC29
Galwedigaethau Perthnasol
Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Cyfryngau
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Radio, Arddull, Rhaglen, Cynulleidfa