Defnyddio a datblygu'r llais ar gyfer cyflwyno radio a sain
URN: SKSRAC28
Sectorau Busnes (Suites): Creu Cynnwys Radio a Sain
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
01 Maw 2017
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â defnyddio a datblygu'r llais fel teclyn allweddol cyflwynwyr radio a sain.
Mae'n cynnwys dealltwriaeth o sut mae'r llais dynol yn gweithio, sut i ofalu amdano a sut i'w ddefnyddio'n effeithiol ar gyfer radio a sain.
Mae'r Safon hon yn berthnasol i bob un sy'n cyflwyno neu'n gohebu ar gyfer radio neu sain; gan gynnwys y rhai hynny sydd mewn rolau cynhyrchu sy'n cynhyrchu cyflwynwyr neu ohebwyr, ac y gallai fod gofyn iddynt gyflwyno neu ohebu eu hunain o bryd i'w gilydd yn rhan o'u rôl.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- rheoli'r anadl wrth gyflwyno ar lafar fel bod yr anadlu'n digwydd ar adegau priodol ac nad yw'n ymwthgar ac mae'r llais yn llifo'n rhydd
- mabwysiadu ystum hawdd, cytbwys a diogel ar gyfer darllen a siarad
- mabwysiadu tôn llais ac arddull cyflwyno sy'n briodol i'r pwnc, fformat y rhaglen, amser y dydd a'r gynulleidfa darged ar gyfer y cyflwyniad radio a sain
- ynganu geiriau'n eglur a chydag egni a chyflymder, traw, uchder, grym a hwyl amrywiol wrth gyfathrebu'r bwriad i wrandawyr
- darllen ar goedd wrth weld rhywbeth, a hynny gyda sicrwydd ac eglurder
- addasu'r cyflwyno i ganiatáu ar gyfer yr amgylchedd acwstig a'r math o ddarlledu a chyfarpar recordio sy'n cael ei ddefnyddio
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i gynnal ystum hawdd, cytbwys a diogel, a manteision gwneud hynny
- y berthynas rhwng anadlu a chynhyrchu llais
- sut i reoli'r anadl yn effeithlon wrth gyflwyno ar lafar ar gyfer cyflwyniadau radio a sain
- sut i ddatblygu medrusrwydd lleisiol; megis rheoli cyflymdra, oedi, geirio, goslef, tôn a hwyl, er mwyn cynnal sylw
- effeithiau gwahanol donau ac arddulliau cyflwyno, a'u heffaith ar wrandawyr cyflwyniadau radio a sain
- sut i ofalu am y llais a'i gadw'n iach; sut i adnabod arwyddion sy'n rhybuddio am broblemau neu niwed a sut i'w rheoli
- arwyddocâd arddull lleisiol a dull cyflwyno mewn perthynas â'r broses recordio a meicroffonau, yr amgylchedd acwstig a'r lleoliad
- sut i addasu'r llais ar gyfer gwahanol amgylcheddau acwstig a'r gwahanol fathau o gyfarpar darlledu a recordio ym maes radio a sain
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2020
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Creative Skillset
URN gwreiddiol
SKSRC28
Galwedigaethau Perthnasol
Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Cyfryngau
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Radio, Sain, Llais, Anadlu, Darllen, Tôn, Arddull