Gwerthuso llwyddiant cynyrchiadau, rhaglenni a phrosiectau radio a sain
URN: SKSRAC27
Sectorau Busnes (Suites): Creu Cynnwys Radio a Sain
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
01 Maw 2017
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud รข gwerthuso llwyddiant cynyrchiadau, rhaglenni a phrosiectau radio a sain, cyfrannu at adolygiadau cynhyrchu, rhaglenni a phrosiectau a chynnig a derbyn adborth adeiladol.
Mae'n cynnwys bod yn eglur am y meini prawf llwyddiant y caiff y cynhyrchiad, y rhaglen neu'r prosiect radio neu sain ei farnu yn eu herbyn, a dysgu o'r broses adolygu.
Mae'r Safon hon yn berthnasol i bob un sy'n gwerthuso llwyddiant cynyrchiadau, rhaglenni neu brosiectau radio neu sain.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwerthuso cynyrchiadau, rhaglenni neu brosiectau radio neu sain yn erbyn meini prawf llwyddiant a sefydlwyd
- sicrhau bod rhesymau dros eich barnau'n eglur a bod modd eu cyfiawnhau
- defnyddio data meintiol ac ansoddol perthnasol i gynorthwyo yn y broses adolygu
- annog adolygiadau gonest ac agored o gynyrchiadau, rhaglenni neu brosiectau radio neu sain, a chyfrannu atynt
- rhoi adborth i eraill am eu cyfraniad sy'n briodol i'r cyd-destun ac sy'n cynnal eu cymhelliant i gyfrannu at yr orsaf, y cynhyrchiad radio neu sain neu'r allbwn rhaglenni
- sefydlu a chyfrannu mewn prosesau adolygu ar gyfer cynyrchiadau, rhaglenni neu brosiectau radio neu sain sy'n darparu gwybodaeth y gellir ei defnyddio er mwyn gwella yn y dyfodol
- cymhwyso gwybodaeth a gafwyd yn sgil adolygiadau sy'n gwella perfformiadau ac sy'n osgoi ailadrodd camgymeriadau mewn gwaith yn y dyfodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gofynion y gynulleidfa a'r orsaf y caiff unrhyw gynhyrchiad neu raglenni radio neu sain eu hasesu yn eu herbyn
- sut i ddatblygu meini prawf ar gyfer barnu llwyddiant cynyrchiadau, rhaglenni neu brosiectau radio neu sain
- dulliau darparu adborth - a sut i gynnig a derbyn adborth adeiladol
- sut i adnabod data meintiol am gynulleidfaoedd, marchnata a gwerthiannau
- ffynonellau adborth meintiol gan gynulleidfaoedd, hysbysebwyr neu randdeiliaid allweddol eraill sy'n berthnasol i'r cynhyrchiad, rhaglenni neu brosiect radio neu sain
- sut i gasglu a lledaenu gwybodaeth a gafwyd yn sgil adolygiadau cynyrchiadau, rhaglenni neu brosiectau radio neu sain
- cyfreithiau perthnasol, rheoliadau'r diwydiant a chanllawiau golygyddol perthnasol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2020
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Creative Skillset
URN gwreiddiol
SKSRC27
Galwedigaethau Perthnasol
Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Cyfryngau
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Radio, Sain, Llwyddiant, Cynhyrchu, Adolygiadau