Cynhyrchu brandio ar gyfer gorsaf, trêls a hysbysebion radio a sain
URN: SKSRAC26
Sectorau Busnes (Suites): Creu Cynnwys Radio a Sain
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
2017
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â chynhyrchu brandio ar gyfer gorsaf, trêls a hysbysebion radio a sain.
Mae'n cynnwys deall y brand a'r orsaf a'i chynulleidfa ac yna creu cynnwys marchnata a hysbysebu addas ar gyfer brandio’r radio-orsaf, trêls a hysbysebion radio a sain, a briffio eraill i greu cynnwys o'r fath.
Mae'n cynnwys recordio sain; gan gynnwys trosleisiadau, cerddoriaeth, digwyddiadau go iawn ac effeithiau sain, i'w defnyddio mewn hysbysebion neu drêls radio a sain, a phrosesau ôl-gynhyrchu wedi hynny.
Mae'n ymwneud â defnyddio golygu digidol i baratoi mewnosodiadau unigol, ac aml-drac digidol ar gyfer cymysgu terfynol.
Mae'n cynnwys sicrhau bod pob cymysgedd terfynol yn bodloni gofynion cynhyrchu, yn arbennig yr hyd - a chadw dogfennaeth gywir. Mae hefyd yn ymwneud â sicrhau, lle bo angen, bod cynnyrch terfynol yn ateb disgwyliadau cleientiaid.
Mae'r Safon hon yn berthnasol i bob un sy'n cynhyrchu brandio, trêls a hysbysebion radio a sain ar gyfer gorsafoedd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 egluro a chadarnhau gofynion pob brîff i ddatblygu brandio, trêls a hysbysebion radio a sain gyda phobl berthnasol
P2 adnabod y gynulleidfa darged ar gyfer yr ymgyrch a sicrhau bod y trêl neu'r hysbyseb arfaethedig yn addas i frand yr orsaf
P3 sicrhau bod costau trêls neu hysbysebion radio a sain o fewn cyllidebau a gytunwyd gyda gorsafoedd neu gleientiaid
P4 dethol cerddoriaeth ac effeithiau sain priodol sy'n cynhyrchu'r effaith ddymunol ar gyfer y trêl neu'r hysbyseb radio neu sain
P5 cael trwyddedau er mwyn defnyddio cerddoriaeth ac effeithiau sain priodol
P6 comisiynu cerddoriaeth sydd wedi'i recordio sy'n cyd-fynd â gofynion a chyllideb pob cleient
P7 cynhyrchu a recordio trosleisiadau sydd o ansawdd technegol da ac sy'n effeithiol yn artistig
P8 trosglwyddo ffynonellau sain wedi'u recordio i raglenni golygu a chymysgu digidol gan storio ffeiliau yn unol â gofynion
P9 golygu lleisiau, effeithiau sain a cherddoriaeth i ateb gofynion pob brîff, sgript ac amseriadau
P10 creu cymysgeddau sain sy'n cyfleu'r hwyl neu'r neges briodol i hyrwyddo pob gorsaf, pob cynhyrchiad neu bob rhaglen radio neu sain, neu gynnyrch a/neu wasanaethau cleientiaid
P11 creu cymysgeddau sain gyda thrawsgyweiriadau cywir a chyfuniad o ffynonellau sain
P12 cwblhau cymysgeddau terfynol o fewn terfynau amser penodedig
P13 cynnal fersiynau priodol wrth gefn o'r cydrannau a'r cynnyrch terfynol
P14 cynnal dogfennaeth gywir, gan gynnwys ffurflenni hawlfraint
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1 sut i ddehongli'r brîff ar gyfer y trêls a'r hysbysebion radio neu sain sy'n cael eu cynhyrchu
K2 sut i adnabod y gynulleidfa darged ar gyfer y trêl neu'r hysbyseb radio neu sain sy'n cael ei chynhyrchu
K3 pwysigrwydd deall nodweddion brandiau a gorsafoedd wrth ddatblygu trêls neu hysbysebion radio neu sain addas
K4 y sain a'r effeithiau artistig gofynnol
K5 y gerddoriaeth a'r effeithiau sain priodol, a sut i'w dethol
K6 sut i gael hyd i drwyddedau ar gyfer y defnydd o gerddoriaeth briodol, a chyfyngiadau ar y defnydd o gerddoriaeth benodol
K7 sut i gael hyd i drwyddedau ar gyfer y defnydd o effeithiau sain a recordiwyd ymlaen llaw
K8 sut i gomisiynu cerddoriaeth a recordiwyd yn arbennig
K9 sut i weithio gydag artistiaid dethol i recordio trosleisiadau
K10 sut i ddefnyddio technegau golygu ar gyfer lleisiau, effeithiau sain a cherddoriaeth, er mwyn cadw o fewn cyfnodau hyd gofynnol
K11 y trefniadau cydymffurfio sy'n berthnasol i gynhyrchu trêls neu hysbysebion radio neu sain
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2017
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Creative Skillset
URN gwreiddiol
SKSRC26
Galwedigaethau Perthnasol
Cyfryngau a chyfathrebu, Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Cyfryngau
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Radio, Sain, Brandio, Trosglwyddo, Cerddoriaeth, Hysbysebion