Cynhyrchu darllediadau radio a sain allanol
URN: SKSRAC25
Sectorau Busnes (Suites): Creu Cynnwys Radio a Sain
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
01 Maw 2017
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â chynhyrchu darllediadau radio neu sain allanol. Mae'n cynnwys pennu'r hyn sy'n ofynnol i adnabod, dethol a pharatoi lleoliadau i'w defnyddio ar gyfer darllediadau allanol.
Mae'n ymwneud ag adnabod a chadarnhau a yw cyfarpar a gwasanaethau ar gael ac yn gweithredu'n llawn, a phennu'r cynnwys ar gyfer pob cynhyrchiad neu raglen.
Mae'n ymwneud â chyfarwyddo a monitro darllediadau gan ddefnyddio gwahanol systemau cyfathrebu. Mae'n ymwneud â monitro ansawdd yr allbwn darlledu, a sicrhau bod y cyfarpar a ddefnyddir yn cael ei ddefnyddio'n ddiogel.
Mae'r Safon hon yn berthnasol i bob un sy'n cynhyrchu darllediadau allanol ar gyfer radio neu sain.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cydlynu paratoadau ar gyfer darllediadau allanol yn unol â gofynion cynhyrchu radio neu sain neu ofynion rhaglenni
- cyfathrebu manylion y lleoliadau a gaiff eu defnyddio i'r personél perthnasol
- cadarnhau bod yr holl drefniadau ar gyfer y cynhyrchiad radio neu sain yn bodloni rheoliadau iechyd a diogelwch statudol
- profi a chadarnhau bod dulliau cyfathrebu gyda stiwdios cartref yn weithredol ac yn eglur
- gwirio a chadarnhau argaeledd cyfranwyr ar yr amser ac yn y lleoliad gofynnol
- gwirio a chadarnhau y bydd trefniadau 'bod wrth law' yn ymdrin ag anawsterau o ran cael gafael ar gyfranogwyr yn ystod rhaglenni
- cadarnhau bod yr holl gyfranogwyr yn deall y gweithdrefnau i'w dilyn os bydd methiant cylched
- gwirio a chadarnhau bod trefniadau digonol yn eu lle i gynnal diogelwch personél cynhyrchu a'r cyhoedd
- sicrhau bod arwyddion a hysbysiadau sy'n esbonio ac yn pennu gofynion a chyfyngiadau mynediad yn eglur, yn gyfoes ac wedi'u lleoli fel y byddant yn denu sylw pobl
- cadw cofnodion cywir a chyfoes o awdurdodau, gofynion a chyfyngiadau mynediad a symudiadau pobl ar y safle
- dethol cynnwys sy'n cynnig y cyfle gorau i ateb gofynion cynhyrchu neu raglen radio neu sain o fewn cyfyngiadau pob cynhyrchiad o ran amser, fformat, cyllideb a chyfyngiadau cyfreithiol
- strwythuro'r cynnwys i fwyafu'r effaith ar y gynulleidfa a gwireddu syniad pob cynhyrchiad neu raglen
- darparu gwybodaeth eglur a chryno i gyfranwyr am eu rolau a'u cyfrifoldebau yn ymwneud â'r cynhyrchiad neu'r rhaglen radio neu sain
- sicrhau bod cryfderau a gwendidau cyfranwyr yn cael eu hasesu'n gywir
- sicrhau bod cefnogaeth briodol yn cael ei chynnig i gyfranwyr pan fydd angen, a hynny mewn ffordd sensitif a chwrtais
- esbonio newidiadau i drefn gynhyrchu, amser a chynnwys y cynhyrchiad, mewn da bryd i unigolion ymaddasu i'r newid
- cyflwyno ciwiau sy'n eglur, yn fanwl ac ar amser
- cytuno manylion trosglwyddo rhwng stiwdios cartref a chyflwynwyr ymlaen llaw - gan eu dogfennu'n unol â gofynion sefydliadol perthnasol
- monitro ansawdd technegol allbwn radio neu sain yn barhaus, gan adnabod ac adrodd unrhyw achos o golli ansawdd
- sicrhau bod y defnydd o unrhyw gerddoriaeth neu ddeunydd hawlfraint yn cael ei gofnodi yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- cynnwys a strwythur pob cynhyrchiad neu raglen radio neu sain, gan gynnwys ei ddiben a'i ddeilliannau bwriadedig
- y cynllun cynhyrchu a gofynion yswiriant
- nodweddion y lleoliadau a gaiff eu defnyddio a sut i asesu eu hymarferoldeb
- gofynion darlledu neu ofynion ac amserlenni dosbarthu eraill
- pa gysylltiadau stiwdio sydd eu hangen â'r darllediad allanol
- y cyfleusterau 'bod wrth law' sydd ar gael
- y tywydd tebygol ac unrhyw amodau eraill a allai effeithio ar ddiogelwch a/neu ddiogeledd a'r angen am drefniadau 'bod wrth law'
- pa ofynion cyfreithiol ac ystyriaethau moesegol perthnasol sy'n effeithio ar y defnydd o wybodaeth mewn cynyrchiadau a rhaglenni radio neu sain
- y gweithdrefnau ar gyfer cysylltu â'r heddlu, cwmnïau diogeledd preifat ac asiantaethau eraill mewn perthynas â mynediad
- y gweithdrefnau a'r systemau ar gyfer awdurdodi mynediad i safleoedd darlledu allanol
- rôl fwriadedig pob cyfrannwr
- dyddiad, amser a lleoliad cyfranogiad pob cyfrannwr
- cynnwys y drefn: ciwiau, cysylltiadau ac amseriadau cysylltiedig
- y cyfathrebiadau sy'n ofynnol gyda stiwdios cartref
- y rheoliadau a'r gweithdrefnau iechyd a diogelwch sy'n berthnasol i'r defnydd o gyfarpar ar ddarllediadau allanol
- cyfrifoldebau'r cyflogwyr, y cyflogeion a'r contractwyr ar gyfer iechyd a diogelwch o dan y rheoliadau iechyd a diogelwch perthnasol
- pa drwyddedau, cliriadau a chaniatadau sy'n ofynnol, a sut i gael hyd iddynt
- gofynion adrodd ar gyfer y defnydd o gerddoriaeth a deunyddiau hawlfraint
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2020
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Creative Skillset
URN gwreiddiol
SKSRC25
Galwedigaethau Perthnasol
Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Cyfryngau
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Radio, Sain, Cynnwys, Allanol, Darlledu, Cyhoeddus, Cynhyrchu