Cynhyrchu radio neu sain fyw
URN: SKSRAC24
Sectorau Busnes (Suites): Creu Cynnwys Radio a Sain
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
2017
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â chynhyrchu radio neu sain fyw. Mae'n cynnwys cyfarwyddo a chefnogi cyflwynwyr, cyfranwyr a thimau stiwdio, o fewn amgylcheddau cynhyrchu byw.
Mae'n ymwneud â briffio a rhoi cyfarwyddyd i gyflwynwyr a chyfranwyr, cydlynu gweithgareddau timau stiwdio a monitro cynnydd yn erbyn cynlluniau cynhyrchu.
Mae'n cynnwys cyfrifo a monitro amseriadau yn erbyn trefnau neu amserlenni ar gyfer eitemau rhaglen neu ar gyfer rhaglenni a chynyrchiadau cyfan, a sicrhau bod trefn y gweithgareddau o dan reolaeth.
Mae'r Safon hon yn berthnasol i bob un sy'n cynhyrchu radio neu sain fyw.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cyfarwyddo timau stiwdio i gyflawni cynlluniau cynhyrchu, gan roi cyfarwyddiadau eglur, cywir a chryno i aelodau'r tîm cynhyrchu
- briffio cyflwynwyr fel eu bod yn deall gofynion eu rôl, gan roi cyfleoedd digonol iddynt ofyn cwestiynau a cheisio eglurhad
- monitro'r cynhyrchiad byw mewn digon o fanylder i adnabod unrhyw wyriadau gwirioneddol a/neu rai posibl o'r amserlenni, y safonau a'r cynlluniau
- adrodd i'r holl bobl berthnasol yn ddi-oed am unrhyw newidiadau i gynlluniau a gytunwyd yn flaenorol
- monitro a gwirio trefnau, a hyd eitemau, yn erbyn amserlenni a chynlluniau'n barhaus
- adnabod amrywiaethau i drefnau ac amseriadau sy'n effeithio ar y drefn a hyd bob rhaglen
- gwneud addasiadau sy'n angenrheidiol i gynnal uniondeb y cynhyrchiad neu'r rhaglen
- adnabod a chymryd camau'n syth i ymdrin ag achosion o dorri'r gyfraith neu godau ymarfer, gan gynnwys rhai gan gyfranwyr
- rhoi adborth adeiladol i gyflwynwyr, gan awgrymu newidiadau sy'n gwella ansawdd cynyrchiadau radio neu sain byw
- darparu gwybodaeth eglur a chryno i gyfranwyr am eu rolau a'u cyfrifoldebau, gan gynnwys esboniad o'r deilliannau bwriadedig a strwythur pob cynhyrchiad neu raglen radio neu sain
- adnabod cryfderau a gwendidau cyfranwyr i ateb anghenion y cynhyrchiad radio neu sain
- cynnig cefnogaeth sensitif a chwrtais i gyfranwyr pan fydd gofyn
- cyfrifo hyd cynyrchiadau a rhaglenni radio neu sain byw a phob trefn yn gywir
- cymharu amseriadau trefn gwirioneddol ag amcangyfrifon drwy gydol y cynhyrchiad neu'r rhaglen radio neu sain
- nodi amseriadau ymarfer, a lle bo angen unioni unrhyw anghysonderau sylweddol
- ail-gyfrifo amseriadau i ystyried newidiadau i gynnwys y cynhyrchiad neu'r rhaglen a'r drefn
- cyfrifo mewnosodiadau a recordiwyd ymlaen llaw i mewn ac allan ar amserau priodol
- monitro perfformiad yn erbyn y sgript, gan nodi unhyw anghysonderau rhwng y perfformiad gwirioneddol a'r sgript yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- cymryd camau priodol i gynnal uniondeb golygyddol pob cynhyrchiad neu raglen radio neu sain
- sicrhau bod y defnydd o unrhyw gerddoriaeth neu ddeunydd hawlfraint yn cael ei recordio yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- cynnwys a strwythur y cynhyrchiad neu'r rhaglen radio neu sain fyw, gan gynnwys ei diben a'i deilliannau bwriadedig
- sut i roi adborth adeiladol i'r tîm ac i unigolion
- y drefn, ciwiau, cysylltiadau ac amseriadau ar gyfer cynhyrchiad byw
- agweddau perthnasol y gyfraith a safonau darlledu presennol a chodau ymarfer y diwydiant
- y materion cyfreithiol neu foesegol perthnasol sy'n gysylltiedig â'r pwnc neu'r driniaeth, a chamau priodol i'w gymryd i osgoi problemau yn eu cylch
- nodweddion a hoffterau'r cyflwynwyr a'r cyfranwyr i lywio'r briffio a'r adborth
- rôl fwriadedig pob cyfrannwr
- dyddiad, amser a lleoliad cyfranogiad pob cyfrannwr
- sut i ymdrin ag ymddygiad anfoesol, enllibus neu annerbyniol gan gyfranwyr
- pa fewnosodiadau a gaiff eu defnyddio, eu trefn a'u hamseriad
- sut i gadw cynyrchiadau neu raglenni radio neu sain byw ar amser, rheoli cynnwys ac ateb amcanion a therfynau amser
- pa drwyddedau, cliriadau a chaniatadau sy'n ofynnol a sut i gael hyd iddynt
- gofynion adrodd ar gyfer y defnydd o gerddoriaeth a deunyddiau hawlfraint
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2020
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Creative Skillset
URN gwreiddiol
SKSRC24
Galwedigaethau Perthnasol
Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Cyfryngau
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Radio, Sain, Byw, Cyflwynwr, Darlledu, Amseriadau, Cyfreithiol, Moesegol