Creu cynnwys aml-gyfrwng ar gyfer radio a sain
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â chreu cynnwys aml-gyfrwng ar gyfer y rhyngrwyd, cyfryngau cymdeithasol a llwyfannau dosbarthu eraill, a briffio eraill i wneud hynny.
Mae'n ymwneud â dylunio a chreu cynnwys, gan gyfuno testun a sain gydag asedau digidol eraill megis fideo, lluniau neu raffeg i gyflwyno gwasanaeth aml-gyfrwng i ymgysylltu â chynulleidfaoedd ar draws pob llwyfan a dyfais - i ategu, cefnogi a hyrwyddo cynnwys radio a sain.
Mae'n cynnwys adnabod cynulleidfaoedd targed - a'r llwyfannau a'r dyfeisiau y gellid eu defnyddio i ddefnyddio'r cynnwys.
Mae'n ymwneud â phenodi adnoddau, a gweithio o fewn cyllidebau ac amserlenni cytunedig.
Mae'r Safon hon yn berthnasol i bob un sy'n cynhyrchu cynnwys aml-gyfrwng ar gyfer radio neu sain.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- adnabod y mathau o lwyfan a dyfais sydd ar gael i gyflwyno cynnwys aml-gyfrwng a'u pwysigrwydd cymharol o wybodaeth cynhyrchu radio neu sain berthnasol
- adnabod nodweddion, ymddygiad a disgwyliadau cynulleidfaoedd targed o wybodaeth cynhyrchu radio neu sain berthnasol
- pennu adnoddau digonol i gynnal y cynnwys aml-gyfrwng drwy gydol ei gyfnod
- gweithio o fewn cyllidebau ac amserlenni cytunedig
- darparu cynnwys ar gyfer defnydd ar-lein, cyfryngau cymdeithasol a defnydd arall mewn fformat sy'n hawdd ei ddeall sy'n ateb anghenion cynulleidfaoedd targed
- defnyddio meddalwedd priodol i baratoi cynnwys radio neu sain at ddefnyddiau ar-lein neu ar lwyfannau cyfryngol eraill
- uwchlwytho cynnwys radio neu sain a sicrhau ei fod ar gael i bobl berthnasol
- cael hyd i ddeunydd gweledol perthnasol, ei ddethol neu ei gomisiynu i ategu cynnwys ar-lein
- paratoi delweddau gweledol a fideo fel eu bod yn barod i'w defnyddio ar-lein
- monitro gwaith eraill i sicrhau bod unrhyw gynnwys aml-gyfrwng a gynhyrchir yn ateb gofynion cynhyrchu
- sicrhau bod y defnydd o unrhyw gerddoriaeth neu ddeunydd hawlfraint yn cael ei recordio yn unol â gofynion
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y dechnoleg berthnasol sydd ar gael, ei defnyddiau ymarferol a'i photensial creadigol
- cyd-destun a diben y cynnwys aml-gyfrwng at ddefnydd aml-lwyfan
- sut i ganfod a gwerthuso gwahanol gynulleidfaoedd ar gyfer cynnwys aml-gyfrwng, a'u disgwyliadau
- sut i ysgrifennu cynnwys at ddefnydd ar-lein
- sut i ddefnyddio meddalwedd amgodio sain, ac uwchlwytho cynnwys radio neu sain
- y technegau ar gyfer delweddu radio a sain; asedau ychwanegol a allai ffurfio rhan o'r cynnwys gan gynnwys clipiau fideo, lluniau neu raffeg i ategu sain a thestun
- sut y ceir hyd i gynnwys; p'un a gaiff cynnwys sy'n bodoli eisoes ei addasu neu ddeunydd newydd ei greu
- pa drwyddedau, cliriadau a chaniatadau sy'n ofynnol, a sut i gael hyd iddynt
- gofynion adrodd ar gyfer defnyddio cerddoriaeth a deunydd hawlfraint
- ategu deunydd gweledol gan gynnwys lluniau, graffeg a fideo