Cynhyrchu cerddoriaeth ar gyfer radio a sain

URN: SKSRAC22
Sectorau Busnes (Cyfresi): Creu Cynnwys Radio a Sain
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 2017

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn ymwneud â chynhyrchu pob math o gerddoriaeth ar gyfer radio a sain.

Mae'n cynnwys penderfynu pa gerddoriaeth sy'n ofynnol ar gyfer gwahanol fathau o orsaf, rhaglen neu gynhyrchiad - dod o hyd iddi, a'i chael.

Mae'n ymwneud ag adolygu detholiadau, eu haddasu i ateb gofynion, a chael y cliriadau a'r caniatadau priodol.

Mae'n ymwneud â gosod cynnwys cerddoriaeth yn ei drefn gynhyrchu.

Mae'n ymwneud â chymharu costau gyda chyllidebau sydd ar gael, adnabod unrhyw achosion o redeg dros gyllidebau, a'u hunioni.

Mae'r Safon hon yn berthnasol i bob un sy'n cynhyrchu cerddoriaeth ar gyfer radio a sain.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1 adnabod y gofynion ar gyfer cynnwys cerddoriaeth a recordiwyd o'r wybodaeth gynhyrchu berthnasol
P2 adnabod a chyrchu ffynonellau perthnasol ar gyfer y cynnwys cerddoriaeth gofynnol
P3 gwirio a chadarnhau argaeledd y cynnwys cerddoriaeth gofynnol gyda'r ffynonellau cyflenwi
P4 adnabod cynnwys cerddoriaeth amgen sy'n cyflawni'r un diben a safonau â'r detholiad gwreiddiol pan nad yw'r ffynonellau a adnabuwyd yn wreiddiol ar gael
P5 sefydlu'r angen am unrhyw drwyddedau, cliriadau, caniatadau a ffioedd perfformio
P6 sicrhau bod trefniadau ar gyfer cael trwyddedau, cliriadau a chaniatadau'n ddigonol i ddiogelu buddiannau cynyrchiadau neu gomisiynwyr
P7 gwirio cynnwys cerddoriaeth adeg ei gyflwyno a chadarnhau ei fod yn ateb safonau a gofynion
P8 adnabod gofynion fformatau, a dyfeisio categorïau cerddoriaeth a chlociau addas i'w mewnbynnu i systemau amserlenni safonol
P9 gosod y cynnwys cerddoriaeth a recordiwyd yn ei drefn a chadarnhau ei fod yn barod i'w ddarlledu
P10 cadarnhau bod cerddoriaeth yn ateb y gofynion o ran cynnwys a hyd
P11 cynnal profion perthnasol a dilys i gadarnhau bod y gerddoriaeth yn ateb y safonau gofynnol a'u bod yn gyson â'i gilydd o ran eu hansawdd
P12 gwrthod cerddoriaeth nad yw'n ateb gofynion neu safonau, ac na ellir ei haddasu
P13 sicrhau bod costau'r cynnwys o fewn cyllidebau sydd ar gael
P14 gweithredu camau prydlon i unioni unrhyw achosion o redeg dros gyllidebau
P15 cadarnhau bod y defnydd o ddeunydd a allai fod yn sensitif neu'n ddadleuol o fewn polisi golygyddol a safonau darlledu
P16 cadarnhau bod y drefn derfynol yn cynnig y potensial mwyaf i ateb gofynion cynhyrchu
P17 annog cydweithwyr perthnasol i werthuso'r cynnwys a ddetholwyd a rhoi adborth arno
P18 sicrhau bod cofnodion manylion a hyd y gerddoriaeth sy'n cael eu cadw at ddibenion clirio yn eglur ac yn gywir


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

K1 diben a gofynion fformat pob cynhyrchiad neu orsaf radio
K2 nodweddion cynulleidfaoedd targed
K3 y fformatau ar gyfer cynnwys cerddoriaeth gofynnol
K4 y cyllidebau sydd ar gael ar gyfer cynnwys cerddoriaeth
K5 ffynonellau cynnwys cerddoriaeth, a sut i'w cyrchu
K6 pa drwyddedau, cliriadau a chaniatadau sy'n ofynnol, a sut i gael hyd iddynt
K7 nodweddion systemau amserlenni cerddoriaeth â llaw neu rai safonol, ac egwyddorion rheoli ffeiliau, gwerthuso traciau ac amserlenni
K8 y gwahaniaethau rhwng rhaglenni byw, rhai a recordiwyd ymlaen llaw neu rai awtomataidd a'u goblygiadau
K9 polisi golygyddol yr orsaf radio, y darlledwr, y comisiynydd arall neu gynhyrchydd y cynnwys - a sut mae hyn yn gysylltiedig â'ch cynhyrchiad
K10 gofynion perthnasol y gyfraith a rheoleiddio, safonau darlledu presennol a chodau ymarfer y diwydiant - mewn perthynas â'ch cynhyrchiad


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative Skillset

URN gwreiddiol

SKSRC22

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfryngau a chyfathrebu, Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Cyfryngau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Radio, Sain, Cerddoriaeth, Darlledu, Drwyddedau