Cynhyrchu cynnwys llafar ar gyfer radio a sain
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â phenderfynu pa gynnwys llafar sydd ei angen i ateb gofynion cynhyrchu, a briffio eraill er mwyn cael hyd i'r cynnwys, naill ai drwy ei greu fel deunydd gwreiddiol neu drwy gyrchu deunydd sy'n bodoli eisoes.
Mae'n ymwneud â chael hyd i gynnwys llafar a'i asesu am ei addasrwydd a gwneud unrhyw newidiadau neu ychwanegiadau sydd eu hangen i ateb gofynion y rhaglen.
Mae'n cynnwys llunio trefn rhaglen neu lunio rhaglen o'r cynnwys llafar hwn.
Mae hefyd yn gofyn dealltwriaeth o botensial rhyngweithiol cynnwys llafar ym maes radio a sain.
Mae'r Safon hon yn berthnasol i bob un sy'n cynhyrchu cynnwys llafar ar gyfer radio a sain.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- adnabod diben bwriadedig cynyrchiadau radio a sain, nodweddion cynulleidfaoedd targed, a hyd ac amserlenni pob cynhyrchiad gan ddefnyddio gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy
- adnabod math a fformat cynnwys llafar sydd ei angen i ateb gofynion cynhyrchu radio a sain; gan gynnwys cynnwys aml-lwyfan ac aml-gyfrwng rhyngweithiol posibl
- dethol opsiynau ar gyfer y cynnwys llafar a'i driniaeth sydd â'r potensial mwyaf i ateb gofynion cynhyrchu
- cadarnhau argaeledd deunydd cynnwys llafar sy'n bodoli eisoes sy'n cyd-fynd â'r opsiynau a ddetholwyd
- adnabod yr angen i unrhyw gynnwys llafar gwreiddiol sy'n ofynnol ateb gofynion cynhyrchu
- esbonio'r gofyniad am gynnwys llafar i gydweithwyr cynhyrchu perthnasol neu gyflenwyr eraill
- adnabod cynnwys amgen sy'n cyflawni'r un diben a safonau â'r detholiad gwreiddiol pan nad oes modd cael hyd i'r detholiad gwreiddiol
- gwneud trefniadau digonol i gael hyd i'r holl gliriadau a chaniatadau gofynnol er mwyn diogelu buddiannau cynyrchiadau a'r comisiynwyr
- gwirio cynnwys llafar adeg ei gyflwyno a chadarnhau ei fod yn ateb safonau cyfreithiol a safonau darlledu a gofynion cynhyrchu
- gwrthod unrhyw ddeunydd sy'n methu ag ateb gofynion neu safonau, ac na ellir eu newid
- gwirio bod costau cynnwys llafar o fewn cyllidebau sydd ar gael
gweithredu camau prydlon i unioni unrhyw achosion o redeg dros gyllidebau
cadarnhau bod y defnydd o unrhyw ddeunydd a allai fod yn sensitif neu'n ddadleuol o fewn polisi golygyddol perthnasol, safonau darlledu a chyfyngiadau cyfreithiol
- trefnu cynnwys llafar yn ei drefn derfynol, gan sicrhau ei fod yn ateb gofynion cynhyrchu radio a sain
- cadarnhau bod y drefn derfynol yn cynnig y potensial mwyaf i ateb gofynion cynhyrchu radio a sain
- annog cydweithwyr perthnasol i werthuso'r cynnwys llafar a ddetholwyd, a rhoi adborth arno
- sicrhau bod y defnydd o unrhyw gerddoriaeth neu ddeunydd hawlfraint yn cael ei gofnodi'n gywir
- sicrhau bod ymlyniad wrth unrhyw gytundebau cytundebol, yn unol â gofynion darlledwyr
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- diben a gofynion pob cynhyrchiad radio a sain, a nodweddion cynulleidfaoedd targed
- fformat y cynnwys llafar sy'n ofynnol
- y cyfleoedd creadigol a thechnegol ar gyfer creu cynnwys rhyngweithiol
- y cyllidebau sydd ar gael ar gyfer cynnwys llafar
- ffynonellau cynnwys llafar a sut i'w cyrchu
- addasrwydd y cynnwys llafar a gynhyrchir, a sut i gael hyd i gynnwys amgen os nad yw hyn yn ateb anghenion y cynhyrchiad radio a sain
- pa drwyddedau, cliriadau a chaniatadau sy'n ofynnol, a sut i gael hyd iddynt
- gofynion adrodd ar gyfer defnyddio cerddoriaeth a deunyddiau hawlfraint
- polisi golygyddol yr orsaf radio, y darlledwr, y comisiynydd arall neu gynhyrchydd y cynnwys - a sut mae hyn yn gysylltiedig â chynyrchiadau radio a sain
- sut i drefnu cynnwys llafar ar gyfer cynyrchiadau radio a sain
- unrhyw gytundebau cytundebol sydd yn eu lle yn rhan o ofynion darlledwyr
- gofynion perthnasol y gyfraith a rheoleiddio, safonau darlledu presennol a chodau ymarfer y diwydiant - mewn perthynas â'ch cynhyrchiad
- sut i werthuso'r cynnwys llafar a phwy i'w gynnwys yn y broses