Dethol a monitro eraill i greu cynnwys ar gyfer radio a sain
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â dethol a monitro pobl eraill i greu cynnwys radio a sain. Mae'n cynnwys cyfarwyddo gwaith timau cynhyrchu a thechnegwyr stiwdio yn ogystal â chomisiynu gwaith gan weithwyr llawrydd a chynhyrchwyr annibynnol.
Mae'n cynnwys cynnig brîff eglur i'r rhai y gofynnir iddynt greu cynnwys, cydweithredu gyda nhw a darparu cyngor pan fydd angen.
Mae'n ymwneud â sicrhau bod yr adnoddau angenrheidiol ar gael i grewyr cynnwys, a monitro'u cynnydd. Mae'n cynnwys cynghori ar ffyrdd o oresgyn rhwystrau ac ymaddasu i amgylchiadau cyfnewidiol; a hysbysu cydweithwyr cynhyrchu am newidiadau perthnasol.
Mae'r Safon hon yn berthnasol i bob un sy'n dethol ac yn cyfarwyddo eraill i greu cynnwys radio neu sain.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dethol crewyr cynnwys sy'n cynnig y potensial mwyaf i gynhyrchu'r cynnwys radio neu sain gofynnol, i'r safon sydd ei hangen o fewn y gyllideb sydd ar gael
- darparu briffiau i grewyr y cynnwys sy'n adlewyrchu canfyddiadau'r ymchwil a'r driniaeth gytunedig
- esbonio unrhyw ofynion cyfreithiol ac ystyriaethau moesegol sy'n berthnasol i'r cynhyrchiad radio neu sain i grewyr y cynnwys
- cynnig gwybodaeth a chyngor perthnasol mewn da bryd i'r cynnwys gael ei gyflwyno o fewn terfynau amser cytunedig i grewyr y cynnwys
- sicrhau bod yr adnoddau angenrheidiol ar gael
- hwyluso'r gallu i gymryd risgiau creadigol derbyniol gyda'r nod o wella ansawdd y cynnwys radio a sain
- awgrymu opsiynau amgen realistig lle mae anghytuno ynghylch triniaeth greadigol a fformat y cynnwys radio a sain
- sicrhau bod monitro'n ddigonol i adnabod yr angen am ymyriad a chefnogaeth
- adnabod a chytuno addasiadau addas pan fydd ymchwil yn datgelu datblygiadau sylweddol newydd sy'n effeithio ar syniadau gwreiddiol
- cadarnhau unrhyw newidiadau i'r dull gweithredu neu ddatblygiad newydd gyda chydweithwyr cynhyrchu perthnasol
- darparu adborth adeiladol am waith sydd ar y gweill ar adegau priodol
- egluro a datrys anghytundebau am yr angen am addasiadau neu welliannau er mwyn cynhyrchu deunydd radio neu sain addas o fewn terfynau amser cynhyrchu
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y meini prawf ar gyfer dethol pobl i greu cynnwys radio a sain benodol
- y trefniadau cytundebol perthnasol i weithwyr llawrydd neu gynhyrchwyr annibynnol - gan gynnwys materion hawlfraint a hawliau eiddo deallusol
- yr hyn sy'n ofynnol gan grewyr cynnwys, gan ystyried y ffiniau cynhyrchu
- pa wybodaeth a chyngor i'w cynnig i grewyr cynnwys er mwyn sicrhau cwblhau'r cynnwys yn unol â gofynion cynhyrchu
- y dulliau o fonitro datblygiad cynnwys er mwyn sicrhau ei fod yn ateb y brîff a sut i sicrhau bod yr angen am unrhyw welliannau neu ymyriad yn cael ei adnabod yn brydlon
- sut i ddarparu adborth adeiladol
- sut i gydbwyso risg greadigol gyda chyfyngiadau amser a chyllidebol
- y materion cyfreithiol neu foesegol perthnasol sy'n gysylltiedig â'r pwnc neu'r driniaeth a sut i gymryd camau priodol i osgoi problemau yn eu cylch