Dethol a chyfarwyddo cerddorion perfformio ar gyfer radio a sain
URN: SKSRAC17
Sectorau Busnes (Suites): Creu Cynnwys Radio a Sain
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
01 Maw 2017
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud ag adnabod a dethol cerddorion sydd â'r potensial i ateb gofynion cynhyrchiad radio a sain, a chyfarwyddo'u perfformiad.
Mae'n cynnwys trefnu a chynnal clyweliadau, dethol perfformwyr, a goruchwylio ymarferion a pherfformiadau wedi'u recordio a rhai byw.
Mae'n ymwneud â deall y cyfyngiadau cyfreithiol a moesegol yn ymwneud â chytundebu â cherddorion, a sicrhau bod cefnogaeth briodol yn cael ei darparu lle bo angen.
Mae'r Safon hon yn berthnasol i bob un sy'n dethol ac yn cyfarwyddo cerddorion sy'n perfformio ar gyfer radio a sain.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r mathau o gerddorion a'r sgiliau sy'n ofynnol ganddynt gan ddefnyddio gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy
- sefydlu meini prawf dethol priodol ar gyfer y perfformiad drwy ymgynghori â chydweithwyr
- adnabod a chyrchu ffynonellau gwybodaeth perthnasol a dibynadwy am gerddorion
- gwahodd cerddorion dethol i fynychu clyweliad a'u hysbysu o natur eu cyfraniad yn ogystal ag unrhyw ofynion arbennig
- adnabod cymhwysedd cerddorion posibl, eu profiad, eu cymwysterau ac unrhyw drwydded sy'n ofynnol i ymarfer
- adnabod argaeledd cerddorion posibl a chostau yn erbyn gofynion
- dethol cerddorion sydd ar gael o fewn ffiniau amser cynhyrchu, ac sy'n cynnig y potensial mwyaf i ateb gofynion pob cynhyrchiad radio neu sain
- darparu gwybodaeth gywir i gerddorion dethol am eu cyfraniad a'u cyfrifoldebau disgwyliedig, gan gynnwys dyddiad, amser a lleoliad eu cyfranogiad
- ceisio datrysiadau ymarferol a hysbysu aelodau perthnasol o'r tîm cynhyrchu o unrhyw newidiadau pan fydd cerddorion yn anghytuno gyda natur ac amseriad eu mewnbwn
- rhoi cyfarwyddyd eglur a chywir i gerddorion am ddeilliannau bwriadedig a strwythur pob cynhyrchiad radio neu sain
- cynnig adborth adeiladol a chyd-drafod unrhyw newidiadau gofynnol i agweddau ar y perfformiad
- adnabod y gofynion technegol ar gyfer setiau byw, gan gysylltu ag aelodau priodol o'r tîm technegol i gadarnhau'r gofynion
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adnabod a dethol cerddorion sydd â'r potensial i ateb gwahanol ofynion cynhyrchu ar gyfer radio a sain
- sut i gyrchu ffynonellau gwybodaeth am gerddorion
- pryd a sut i gysylltu â cherddorion a'u hasiantau
- trefniadau a gweithdrefnau cytundebol, a'r cyllidebau sydd ar gael
- gofynion a rhwymedigaethau cyfreithiol a moesegol yn ymwneud â chytundebu â cherddorion
- genres cerddoriaeth a sut i ddarllen a dehongli sgôr cerddorol
- pwy mae'n rhaid ei hysbysu am unrhyw newidiadau i natur ac amseru cytunedig cyfraniadau cerddorion i'r cynhyrchiad radio neu sain
- sut i farnu perfformiad cerddorol ac adnabod cryfderau a gwendidau cerddorion
- sut i gynnig beirniadaeth wybodus am berfformiadau cerddorol
- sut i ymdrin yn effeithiol â cherddorion o wahanol anian ac ysbryd
- natur a graddau'r gefnogaeth a allai fod yn briodol i wahanol bobl, a sut gellir cynnig hyn orau
- sut i adnabod, cyd-drafod a datrys achosion o wrthdaro creadigol
- agweddau perthnasol Rheoliadau Undeb y Cerddorion a sut i weithio oddi mewn iddynt
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2020
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Creative Skillset
URN gwreiddiol
SKSRC17
Galwedigaethau Perthnasol
Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Cyfryngau
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Radio, Sain, Cerddorion, Perfformwyr, Cyfeiriad, Sgiliau, Rheoli