Dethol a chyfarwyddo cyflwynwyr radio a sain, perfformwyr ac artistiaid trosleisio

URN: SKSRAC16
Sectorau Busnes (Suites): Creu Cynnwys Radio a Sain
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 01 Maw 2017

Trosolwg

Mae'r Safon hon ymwneud â dethol cyflwynwyr, perfformwyr neu artistiaid trosleisio ar gyfer amrywiaeth o rolau fel sy'n ofynnol ar gyfer cynyrchiadau radio a sain.

Mae'n cynnwys asesu eu haddasrwydd ar gyfer y rôl arbennig a'r allbwn bwriadedig, a'u cynghori ynghylch yr hyn sy'n ofynnol neu a ddisgwylir ganddynt.

Mae'n ymwneud â'u cyfarwyddo er mwyn sicrhau'r perfformiad mwyaf ffafriol yn unol â gofynion cynhyrchu, a rhoi adborth eglur, cywir ac adeiladol iddynt.

Mae'r Safon hon yn berthnasol i bob un sy'n dethol ac yn cyfarwyddo cyflwynwyr, perfformwyr neu artistiaid trosleisio ar gyfer radio a sain.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. sefydlu'r fanyleb ar gyfer y gofynion cyflwyno gan ddefnyddio gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy
  2. canfod a gweithio o fewn ffiniau cyllidebol a chytundebol
  3. adnabod a chyrchu ffynonellau gwybodaeth dibynadwy am gyflwynwyr, perfformwyr neu artistiaid trosleisio posibl
  4. adnabod a dethol cyflwynwyr, perfformwyr neu artistiaid trosleisio y mae eu nodweddion yn cyd-fynd â'r fanyleb ar gyfer y cynhyrchiad radio neu sain
  5. canfod argaeledd cyflwynwyr, perfformwyr neu artistiaid trosleisio posibl drwy gysylltu â phobl briodol
  6. dethol cyflwynwyr, artistiaid trosleisio neu berfformwyr sy'n arddangos y potensial mwyaf i ateb gofynion y cynhyrchiad radio neu sain
  7. sicrhau bod pobl berthnasol yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch dethol artistiaid trosleisio, cyflwynwyr neu berfformwyr
  8. briffio artistiaid trosleisio, cyflwynwyr neu berfformwyr gyda'r wybodaeth sydd ei hangen arnynt cyn recordio 
  9. cyfarwyddo artistiaid trosleisio, cyflwynwyr neu berfformwyr yn ystod y recordio er mwyn cyflawni'r gofynion cynhyrchu radio neu sain
  10. rhoi adborth eglur a chywir i gyflwynwyr, perfformwyr ac artistiaid trosleisio pan gwblheir pob perfformiad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. gofynion yr orsaf neu'r rhaglen ar gyfer defnyddio cyflwynwyr, perfformwyr neu artistiaid trosleisio mewn cynyrchiadau radio neu sain
  2. ffynonellau gwybodaeth am gyflwynwyr, perfformwyr neu artistiaid trosleisio a sut i'w cyrchu
  3. sut i gysylltu â chyflwynwyr, perfformwyr neu artistiaid trosleisio a'u hasiantau
  4. ffiniau cyllidebol a chytundebol
  5. gofynion a rhwymedigaethau cyfreithiol a moesegol yn ymwneud â chytundebu ag artistiaid trosleisio, cyflwynwyr a pherfformwyr
  6. sut i gynnig adborth adeiladol ac annog gwella perfformiad
  7. sut i ymdrin yn effeithiol â chyflwynwyr, perfformwyr ac artistiaid trosleisio o wahanol anian ac ysbryd
  8. natur a graddau'r gefnogaeth a allai fod yn briodol i wahanol bobl, a sut gellir cynnig hyn orau
  9. sut i adnabod, cyd-drafod a datrys achosion o wrthdaro creadigol
  10. y gwahaniaeth rhwng cyfarwyddo cyflwynwyr, perfformwyr ac artistiaid trosleisio, wyneb yn wyneb neu o bell

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative Skillset

URN gwreiddiol

SKSRC16

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Cyfryngau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Radio, Sain, Cyflwynwr, Trosglwyddo, Perfformwyr, Dethol, Briffio