Recordio sain
URN: SKSRAC14
Sectorau Busnes (Suites): Creu Cynnwys Radio a Sain
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
01 Maw 2017
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn cynnwys recordio sain, ar leoliad gan ddefnyddio dyfeisiau recordio cludadwy, ac mewn stiwdios. Mae'n ymwneud â phrofi a gwirio cyfarpar a recordio sain o amrywiol ffynonellau.
Mae'n cynnwys monitro ac adnabod problemau gyda'r recordiad a llunio datrysiadau os bydd problemau technegol yn codi neu os bydd gofynion yn newid. Mae'n ymwneud â meddu ar ddealltwriaeth sylfaenol o acwsteg er mwyn adnabod a recordio sain o ansawdd darlledu.
Mae hefyd yn golygu sicrhau bod recordiadau wedi'u henwi'n briodol, eu labelu a'u storio'n ddiogel.
Mae'r Safon hon yn berthnasol i bob un sy'n recordio sain ar leoliad neu mewn stiwdio yn y diwydiannau radio a sain.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- profi cyfarpar yn ofalus i sicrhau ei fod yn gweithio'n gywir
- dethol meicroffonau priodol ar gyfer amodau penodol neu ganiatáu am nodweddion arbennig meicroffonau unigol wrth recordio
- gwirio lefelau recordio a monitro mewnbynnau i sicrhau bod uchder y sain yn briodol
- recordio sain i'r cyfrwng a'r fformat priodol
- bod yn ddetholgar am yr hyn a gaiff ei recordio, gan ystyried faint o'r deunydd a recordiwyd yn wreiddiol sy'n debygol o gael ei ddefnyddio yn y cynnyrch terfynol
- sicrhau bod gennych y deunydd sain angenrheidiol i wneud y broses olygu mor syml â phosibl, gan ystyried unrhyw faterion sy'n codi yn ystod y recordio
- asesu lleoliad o ran ei addasrwydd, ac os bydd angen, gwneud darpariaeth i leihau problemau sŵn ymwthiol neu annisgwyl
- adnabod unrhyw ddiffygion yn y sain, methiannau yn y system neu achosion mecanyddol o dorri i lawr, eu hunioni'n brydlon lle bo modd neu geisio cymorth priodol
- enwi a labelu deunyddiau sain yn gywir yn unol â phrotocolau priodol, a'u harbed a'u storio'n ddiogel
- sicrhau nad yw eich gweithredoedd yn peri risg ddiogelwch i eraill
- cwblhau'r recordiad o fewn amserlenni penodedig
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- egwyddorion sylfaenol sain ac acwsteg
- mathau o feicroffonau a'u nodweddion
- cyfyngiadau allweddol wrth recordio sain
- nodweddion gweithredu recordwyr digidol cludadwy a chyfarpar recordio stiwdio a chyfyngiadau'r cyfarpar sydd ar gael i chi
- y gwahaniaeth rhwng rheoli lefelau'n awtomatig ac â llaw a'u goblygiadau mewn gwahanol sefyllfaoedd
- sut i brofi a gwirio cyfarpar
- sut i adnabod problemau gyda chyfarpar recordio, a beth i'w wneud i'w cywiro
- nodweddion acwstig unrhyw stiwdio neu leoliadau a gaiff ei ddefnyddio
- y problemau'n gysylltiedig â sŵn gwynt, seiniau annisgwyl a sŵn amgylchynol ar leoliad
- y gwahanol ystyriaethau dan sylw wrth recordio sain o wahanol ffynonellau – gan gynnwys cyfweliadau, perfformiadau byw, digwyddiadau go iawn neu awyrgylch
- goblygiadau recordio deunydd i'w olygu neu ei recordio ar gyfer darllediad fel petai'n fyw
- y math ac amrywiaeth o ddeunydd y bydd angen i chi ei recordio er mwyn hwyluso golygu
- yr amserlen a'r terfynau amser ar gyfer y gwaith recordio
- y protocolau perthnasol ar gyfer labelu a storio deunydd sain
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2020
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Creative Skillset
URN gwreiddiol
SKSRC14
Galwedigaethau Perthnasol
Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Cyfryngau
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Radio, Sain, Recordiad, Cynnwys, Acwsteg