Gweithredu stiwdio radio a sain
URN: SKSRAC13
Sectorau Busnes (Suites): Creu Cynnwys Radio a Sain
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
01 Maw 2017
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn cynnwys defnyddio stiwdios hunanweithredu (self-op yn Saesneg) a stiwdios a weithredir gan dechnegwyr (tech-op yn Saesneg) - bod yn ymwybodol o'u hystod cyfarpar a'u technegau cynhyrchu.
Mae'n ymwneud nid yn unig â gallu defnyddio darnau unigol o gyfarpar ond hefyd gallu cydlynu eu defnydd o dan bwysau.
Mae'n gofyn dealltwriaeth o egwyddorion sylfaenol gweithredu stiwdio a'r gallu i ymaddasu i wahanol gyfluniadau, fformatau a chyfuniadau cyfarpar.
Mae'r Safon hon yn berthnasol i bob un sy'n gweithredu stiwdio yn y diwydiannau radio a sain.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gweithredu cyfarpar stiwdio i ateb gofynion rhaglen radio neu sain mewn modd proffesiynol
- dethol ffynonellau sain a gweithredu teclynnau rheoli stiwdio, desg gymysgu a system all-chwarae ddigidol ar yr un pryd, i ateb gofynion rhaglen radio neu sain
- gweithio gydag eraill yn nhîm cynhyrchu'r stiwdio mewn ffordd gydweithredol a chymwynasgar
- datblygu atebion ymarferol wrth gefn i leihau risgiau i weithredu effeithiol
- ymdrin â gwybodaeth neu gyfarwyddyd a roddir drwy glustffonau a meic cyswllt (talkback) heb dorri ar draws llif darllediad byw
- defnyddio gwybodaeth ddibynadwy i ddiagnosio ffynhonnell debygol problemau darlledu technegol neu fethiant cyfarpar yn ystod y broses ddarlledu
- unioni methiant cyfarpar neu broblemau darlledu technegol sydd o fewn eich maes arbenigedd
- ceisio cymorth gan bobl briodol pan fydd problemau darlledu y tu hwnt i'ch arbenigedd eich hun
- cydymffurfio â gweithdrefnau iechyd a diogelwch perthnasol i leihau'r risg i chi'ch hun ac eraill
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gwahaniaethau rhwng stiwdios hunan-weithredu a rhai a weithredir gan dechnegwyr
- rolau, cyfrifoldebau a hierarchaeth timau cynhyrchu stiwdios
- y gwahaniaethau rhwng gweithrediadau stiwdio ar gyfer rhaglenni radio neu sain byw neu rai a recordiwyd
- y gwahanol fformatau technegol a thechnolegau a ddefnyddir i gysylltu stiwdios
- egwyddorion sylfaenol gweithredu desg gymysgu, ei chyfarpar ymylol, caledwedd a meddalwedd
- yr ystod o ffynonellau posibl sain o bell
- nodweddion a chyfyngiadau gwahanol systemau all-chwarae digidol a sut i'w defnyddio
- defnydd cywir a diogel o glustffonau a meic cyswllt (talkback), lleoliadau meicroffonau a llinell welediad
- gosodiad, cyfarpar a thechnoleg sydd ar gael, a chyfluniad unrhyw stiwdio benodol a gaiff ei defnyddio
- pwysigrwydd disgyblaeth dda mewn stiwdio
- amrywiol gamau'r broses ddarlledu radio a sain
- i adnabod pryd yn y broses y gallai problem dechnegol benodol fod wedi codi
- sut i ymdrin â phroblemau yn ystod darllediadau byw heb dynnu sylw'r gynulleidfa
- gyda phwy i gysylltu am help gyda phroblemau technegol sydd y tu hwnt i'ch arbenigedd
- y rheoliadau a'r gweithdrefnau iechyd a diogelwch perthnasol sy'n berthnasol i'r defnydd o bob math o gyfarpar stiwdio
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2020
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Creative Skillset
URN gwreiddiol
SKSRC13
Galwedigaethau Perthnasol
Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Cyfryngau
Cod SOC
Geiriau Allweddol
Radio, Sain, Stiwdio, Darlledu, Problemau, Cyfarpar, Technegol