Ysgrifennu deunydd testun ar gyfer defnydd aml-lwyfan i gefnogi, ategu a hyrwyddo radio a sain

URN: SKSRAC11
Sectorau Busnes (Suites): Creu Cynnwys Radio a Sain
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 01 Maw 2017

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn ymwneud ag ysgrifennu deunydd testun i'w ddefnyddio ar draws ystod o lwyfannau cyfryngol i gefnogi, ategu a hyrwyddo cynnwys radio a sain.

Gall hyn gynnwys ysgrifennu cynnwys ar gyfer gwefan neu i'w bostio ar y cyfryngau cymdeithasol - a gallai gynnwys ysgrifennu deunydd hyrwyddo ar gyfer gorsaf neu gynnwys rhaglen, at ddibenion marchnata, neu ar gyfer canllawiau rhaglenni a rhestrau.

Mae'n gofyn amrywio iaith, cynnwys ac arddull i gyd-fynd â'r llwyfan neu'r cyfrwng cyflwyno rydych yn ysgrifennu ar ei gyfer, a'r gynulleidfa darged.

Mae'n cynnwys deall y llwyfan neu'r cyfrwng, ei gonfensiynau a diben y testun.

Mae'n ymwneud â gosod terfynau amser a gweithio iddynt wrth sicrhau cydymffurfiaeth â chyfreithiau perthnasol, rheoliadau a chanllawiau sefydliadol.

Mae'r Safon hon yn berthnasol i bob un sy'n ysgrifennu deunydd at ddefnydd aml-lwyfan ym maes radio a sain.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ysgrifennu mewn arddull sy'n addas ar gyfer cynulleidfa darged y cynnwys radio neu sain ac at ddiben y cyfathrebu
  2. cynnal arddull cyson o fewn testunau a rhwng testunau cysylltiedig
  3. dilyn confensiynau ysgrifennu perthnasol, canllawiau arddull a pholisïau sefydliadol
  4. strwythuro cynnwys testun fel ei fod yn hawdd ei ddarllen a'i ddilyn
  5. cynhyrchu capsiynau neu ddisgrifiadau priodol i atodi asedau gweledol neu glipiau radio, sain a fideo
  6. darparu geiriad eglur, cyson a hygyrch ar gyfer unrhyw hyperddolenni
  7. gwneud defnydd o dechnegau optimeiddio peiriannau chwilio yn eich ysgrifennu
  8. prawf ddarllen eich copi a chywiro unrhyw wallau teipio, gramadeg, teipio a gwallau eraill
  9. sicrhau bod gwybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn y deunydd testun yn gywir
  10. sicrhau bod cynnwys y deunydd testun yn cydymffurfio â'r cyfreithiau perthnasol, rheoliadau'r diwydiant a chanllawiau sefydliadol
  11. cyflwyno deunydd testun yn unol â hyd a therfynau amser cytunedig
  12. hysbysu cydweithwyr perthnasol yn ddi-oed os bydd anawsterau'n codi

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y confensiynau a'r cyfyngiadau perthnasol, posibiliadau a chyfleoedd a gyflwynir gan y cyfrwng neu'r llwyfan targed ar gyfer cyfathrebu gyda deunydd testun
  2. sut i egluro diben y deunydd testun, y llwyfan neu aml-lwyfan er mwyn ei ddosbarthu a'r gynulleidfa darged ar gyfer y cynnwys radio neu sain
  3. egwyddorion gramadeg, atalnodi a sillafu, a'r teclynnau a'r dulliau ar gyfer gwirio'r rhain
  4. pwysigrwydd amrywio iaith, cynnwys ac arddull ysgrifennu er mwyn ymgysylltu â gwahanol gynulleidfaoedd targed
  5. sut i adrodd stori, cyflwyno dadleuon, crynhoi gwybodaeth gymhleth, ac adnabod a chyfathrebu pwyntiau allweddol drwy ysgrifennu sydd wedi'i strwythuro'n dda
  6. y gwahaniaeth rhwng ffaith a sylw
  7. sut i strwythuro deunydd testun a chynnwys yn effeithiol ar gyfer y gynulleidfa darged a chonfensiynau'r cyfrwng cyflwyno
  8. sut i ysgrifennu a strwythuro testun ar gyfer cyfrwng anlinellol
  9. sut i gyflawni optimeiddio peiriannau chwilio yn arbennig drwy ddefnyddio geiriau allweddol wrth ddefnyddio'r deunydd testun ar gyfer llwyfannau ar-lein
  10. argaeledd asedau eraill e.e. clipiau gweledol, radio, sain neu fideo i ategu'r deunydd testun
  11. cyfreithiau perthnasol, rheoliadau'r diwydiant a chanllawiau sefydliadol
  12. amserlenni, terfynau amser a faint o destun sy'n ofynnol at ddefnydd aml-lwyfan

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative Skillset

URN gwreiddiol

SKSRC11

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Cyfryngau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Radio, Sain, Cynnwys, Aml-lwyfan, Arddull, Gynulleidfa, Gramadeg, Testun, Asedau