Ysgrifennu sgriptiau ar gyfer radio a sain

URN: SKSRAC10
Sectorau Busnes (Suites): Creu Cynnwys Radio a Sain
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 01 Maw 2017

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn cynnwys ysgrifennu sgriptiau ar gyfer radio a sain - i'w darllen gan newyddiadurwr, cyflwynydd neu berfformiwr ac a gaiff eu clywed gan wrandawyr.

Mae'n mynnu amrywio iaith, cynnwys ac arddull i gyd-fynd â gwahanol genres a fformatau a gwahanol gynulleidfaoedd targed.

Mae'n ymwneud â deall diben yr ysgrifennu, e.e. naratif adrodd stori mewn ffordd greadigol neu sgript ymarferol gyda chiwiau, rhagarweiniad ac ôl-gyhoeddiadau.

Mae'n cynnwys sefydlu a gweithio yn ôl terfynau amser wrth sicrhau cydymffurfiaeth â chyfreithiau perthnasol, rheoliadau a chanllawiau sefydliadol.

Mae'r Safon hon yn berthnasol i bob un sy'n ysgrifennu sgriptiau ar gyfer radio a sain.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ysgrifennu mewn arddull eglur, ar ffurf sgwrs y gellir ei darllen, gan osgoi jargon a cliché
  2. defnyddio atalnodi, gramadeg a sillafu disgwyliedig - gan ddarparu seineg er mwyn ynganu pan fydd angen
  3. amrywio iaith, cynnwys a dull gweithredu i gyd-fynd â gofynion y genre, y fformat a'r gynulleidfa darged neu arddull cyflwynydd y mae sgriptiau radio neu sain yn cael eu cynhyrchu ar ei gyfer/chyfer
  4. sicrhau bod gwybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn y sgript radio neu sain yn gywir
  5. defnyddio'r gosodiad a'r anodiad perthnasol ar gyfer y genre a'r diben
  6. ysgrifennu rhagarweiniadau, ciwiau, cyhoeddiadau diweddglo neu ôl-gyhoeddiadau, gan osgoi dyblygu rhwng y ciw a'r sgript
  7. sicrhau bod cynnwys y sgript radio neu sain yn cydymffurfio â chyfreithiau perthnasol, rheoliadau a chanllawiau sefydliadol
  8. hysbysu cydweithwyr perthnasol yn ddi-oed pan fydd anawsterau'n codi wrth gynhyrchu'r sgript radio neu sain
  9. cyflwyno sgriptiau radio neu sain yn unol â hyd gytunedig a therfynau amser

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. technegau ysgrifennu i'r glust gan ddefnyddio iaith syml, uniongyrchol er mwyn annerch pob gwrandäwr unigol
  2. pwysigrwydd amrywio iaith, cynnwys ac arddull i gyd-fynd â genre, fformat, gwahanol orsafoedd, cynnwys rhaglen neu arddull cyflwynydd, er mwyn ymgysylltu â'r gynulleidfa darged
  3. egwyddorion gramadeg, atalnodi, sillafu a seineg, a'r teclynnau a'r dulliau i wirio'r rhain
  4. diben a defnydd bwriadedig y sgript radio neu sain neu'r deunydd ysgrifenedig a sut i ddefnyddio gosodiad neu anodiadau perthnasol
  5. sut i adrodd stori, cyflwyno dadleuon, crynhoi gwybodaeth gymhleth, adnabod a chyfathrebu pwyntiau allweddol drwy ysgrifennu sydd wedi'i strwythuro'n dda
  6. y gwahaniaeth rhwng ffaith a sylw
  7. pryd i ychwanegu sgript i sain naturiol i ddwysáu'r ffordd o adrodd y stori
  8. sut i ysgrifennu sgriptiau radio neu sain sy'n briodol i arddull lleisiol cyflwynydd neu berfformiwr
  9. cyfreithiau perthnasol, rheoliadau'r diwydiant a chanllawiau sefydliadol
  10. amserlenni, terfynau amser a hyd y sgript radio neu sain ofynnol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative Skillset

URN gwreiddiol

SKSRC10

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Cyfryngau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Radio, Sain, Cynnwys, Gramadeg, Sillafu, Arddull, Sgriptiau