Cynorthwyo perfformwyr gyda’u gwisgoedd a’u gwisgo
URN: SKSQ9
Sectorau Busnes (Suites): Gwisgoedd
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
2021
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â'ch gallu i wisgo perfformwyr, cynnig cyngor am wisgoedd, a helpu i dynnu gwisgoedd. Gallai hyn ymwneud ag egluro'r gwisgoedd i'r perfformwyr, cynorthwyo perfformwyr i wisgo a thynnu eu gwisgoedd, mynd i'r afael â phroblemau'n ymwneud â'r gwisgoedd, sicrhau bod perfformwyr yn gyfforddus yn eu gwisgoedd a datblygu cydberthynas broffesiynol gyda'r perfformwyr.
Mae'n debyg y byddai'r safon hon yn berthnasol i oruchwylwyr gwisgoedd, cynorthwywyr gwisgoedd, gweithwyr gwisgoedd wrth gefn a chynorthwywyr wardrob.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- adnabod gwisgoedd a chadarnhau gofynion gwisgo a gwisgoedd penodol
- gwirio newidiadau gwisgoedd gofynnol y perfformiwr a phennu faint o amser sydd gan y perfformwyr i newid
- lleihau amseroedd gwisgo ac atal unrhyw oedi i amserlenni
- trin a thrafod a chytuno ar amser ychwanegol pan fo'n briodol
- gwirio bod y gwisgoedd y bydd angen i'r perfformwyr newid iddyn nhw yn barod i'w defnyddio
- adnabod a lleihau trafferthion gwisgo a all beri i'r perfformiwr deimlo'n anghyfforddus ac oedi amserlen y cynhyrchiad
- cynorthwyo'r prif artistiaid a'r artistiaid cefndirol gyda gwisgo a dadwisgo
- gosod a gwirio gwaith rigio ar wisgoedd ar gyfer effeithiau arbennig pan fyddwch yn gwisgo'r perfformiwr a'u tynnu pan fyddwch yn tynnu'r wisg oddi ar y perfformiwr
- cynghori'r perfformiwr ynghylch atal unrhyw ddifrod i'r wisg
- cydymffurfio gydag arferion yr ystafell wisgo a dangos cwrteisi
- datblygu a chynnal perthynas waith broffesiynol gyda'r perfformwyr gan arddangos doethineb a sensitifrwydd
- hysbysu'r person / pobl berthnasol ar unwaith os oes yna unrhyw eitemau neu ategolion ar goll
- sicrhau bod gwisgoedd yn ddiogel ac wedi'u gwarchod yn ystod egwylion y cynhyrchiad
- adnabod a chofnodi'r gwaith gwasanaethu neu drwsio angenrheidiol cyn defnydd nesaf y wisg a rhoi gwybod i'r person / pobl berthnasol
- sicrhau caiff eitemau personol y perfformwyr eu cadw mewn man diogel a hysbysu'r person / pobl berthnasol
- rheolau a gofynion cyfrinachedd y cynhyrchiad
- cyfathrebu gyda'r tîm cynhyrchu, y perfformwyr a'r holl adrannau perthnasol
- cydymffurfio gyda'r ddeddfwriaeth a'r canllawiau iechyd a diogelwch bob amser
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gofynion y cynhyrchiad o ran gwisgoedd
- amserlen gwisgoedd y cynhyrchiad a'r cyfyngiadau amser
- nifer a threfn y newidiadau gwisgoedd gofynnol
- y person perthnasol y dylech chi drafod trafferthion yn ymwneud â'r gwisgoedd gyda nhw a chytuno ar ddatrysiadau
- ategolion gwisgoedd gofynnol a'u gweithrediad
- difrod posibl i wisgoedd a'r gweithrediadau priodol os caiff gwisgoedd eu difrodi
- prosesau trwsio a chynnal a chadw gwisgoedd
- storio a diogelu gwisgoedd
- gofynion gwisgo a thynnu gwisgoedd, gan gynnwys gwisgoedd arbenigol fel gwisgoedd gwamal, gwisgoedd anifeiliaid neu wisgoedd animatronics
- sut i ddatblygu cydberthynas proffesiynol gyda'r perfformwyr
- yr arferion, y moesau a'r ymddygiad personol gofynnol wrth wisgo perfformwyr
- gofynion paratoi er mwyn dychwelyd y gwisgoedd i'w storio
- gofynion a gweithdrefnau diogelwch
- rheolau a gofynion cyfrinachedd y cynhyrchiad
- rôl holl staff y cynhyrchiad, ac adrannau neu unigolion perthnasol
- cyfrifoldebau statudol ynghlwm â'r deddfwriaethau a'r rheoliadau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2025
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSQ10
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig a Galwedigaethau Technegol, Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â’r Cyfryngau
Cod SOC
3417
Geiriau Allweddol
Gwisg; wardrob; cynorthwyo; perfformwyr; gwisgo; cyfforddus; cynhyrchiad; proffesiynol; cydberthynas