Paratoi gwisgoedd i fodloni gofynion y cynhyrchiad

URN: SKSQ8
Sectorau Busnes (Suites): Gwisgoedd
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â'ch gallu i baratoi gwisgoedd ar gyfer perfformwyr, trefnu gwisgoedd a chyd-drefnu ategolion gan fodloni gofynion y cynhyrchiad a'r amserlen.

Mae'n ymwneud â pharatoi gwisgoedd yn unol ag amserlen y cynhyrchiad, cydosod a gosod gwisgoedd i berfformwyr, adnabod a labelu gwisgoedd, rhoi gwybod ydy'r gwisgoedd ar gael a chynnal a chadw gwisgoedd. 

Mae'n debyg y byddai'r safon hon yn berthnasol i oruchwylwyr gwisgoedd, gweithwyr gwisgoedd wrth gefn, cynorthwywyr wardrob a gwisgwyr.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​egluro a chytuno ar ofynion y gwisgoedd ac amserlen y cynhyrchiad
  2. dewis gwisgoedd ac ategolion yn unol â'r wybodaeth am y cynhyrchiad
  3. cadarnhau bod y gwisgoedd a'r ategolion yn gywir ac mewn cyflwr sy'n briodol i fodloni gofynion y cynhyrchiad
  4. derbyn caniatâd gan y person / pobl berthnasol cyn cymryd y gwisgoedd gofynnol
  5. cyd-drefnu gwisgoedd yn unol ag amserlen y cynhyrchiad / trefn y golygfeydd / y daflen alwad
  6. rhoi gwybod i'r person perthnasol ar unwaith pan nad ydy'r gwisgoedd ar gael neu pan fo nhw mewn cyflwr annerbyniol
  7. labelu gwisgoedd a threfnu bod ffordd i gael mynediad at y gwisgoedd a
    fydd yn lleihau amser gwisgo, y weithred o wisgo ac unrhyw ddryswch
  8. cynnal gwaith trwsio a gofal cyffredinol ar y gwisgoedd
  9. cydymffurfio gyda rheolau a gweithdrefnau cyfrinachedd y cynhyrchiad
  10. cydymffurfio gyda'r rheoliadau Rheoli Sylweddau sy'n Beryglus i Iechyd (COSHH) pan fyddwch yn defnyddio sylweddau peryglus h.y. trin chwistrellau, alcohol, startsh neu erosolau
  11. sicrhau bod yr eitemau hanfodol ar gael er mwyn cynorthwyo gyda gwisgo, trwsio a gofal cyffredinol y gwisgoedd
  12. sicrhau caiff y gwisgoedd eu storio'n ddiogel a rhoi gwybod i'r perfformwyr am unrhyw afreoleidd-dra
  13. pacio a pharatoi gwisgoedd i'w cludo'n ddiogel pan fo'i angen
  14. cyfathrebu gyda staff y cynhyrchiad ac adrannau neu unigolion perthnasol eraill
  15. cydymffurfio gyda'r ddeddfwriaeth a'r rheoliadau iechyd a diogelwch bob amser

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​ble i ganfod yr wybodaeth am y cynhyrchiad a'r gwisgoedd
  2. yr amserlen yn ymwneud â gofynion y gwisgoedd
  3. sut i ddehongli a chydymffurfio gyda gwybodaeth y cynhyrchiad / y daflen alwad / y drefn saethu yn ymwneud â gofynion y gwisgoedd
  4. ffactorau a allai darfu ar neu amharu ar berfformwyr a sut i'w hosgoi
  5. sut i sicrhaufy bod y gwisgoedd yn ddiogel
  6. rheolau a gweithdrefnau cyfrinachedd y cynhyrchiad
  7. gweithdrefnau gwnïo a gwneud gwisgoedd sylfaenol
  8. sut i baratoi gwisgoedd yn barod i'w cludo  
  9. sut i storio, gofalu am a chynnal a chadw gwisgoedd
  10. yr holl adrannau / personél sydd ynghlwm â'r cynhyrchiad a'r protocol cyfathrebu
  11. cyfrifoldebau statudol ynghlwm â'r deddfwriaethau a'r rheoliadau iechyd, diogelwch, COSHH ac amgylcheddol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSQ1

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig a Galwedigaethau Technegol, Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Celfyddydau Perfformio, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â’r Cyfryngau

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

Gwisg; wardrob; cynorthwyo; perfformwyr; amserlen; caffael; cydosod; labelu