Caffael gwisgoedd ar gyfer cynhyrchiad
URN: SKSQ7
Sectorau Busnes (Suites): Gwisgoedd
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
30 Maw 2021
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â'ch gallu i ddewis, llogi neu brynu gwisgoedd ar gyfer cynhyrchiad o dŷ gwisgoedd, gwneuthurwr neu gyflenwr.
Gallai hyn ymwneud â chanfod a chysylltu gyda chyflenwyr, prynu neu logi gwisgoedd, bodloni'r gofynion o ran ansawdd, nifer, math a maint, cynnal a chadw gwisgoedd er mwyn osgoi ffioedd yn sgil difrod ac archwilio a dychwelyd gwisgoedd i gyflenwyr.
Mae'n debyg y byddai'r safon hon yn berthnasol i oruchwylwyr gwisgoedd, cynorthwywyr gwisgoedd neu gynorthwywyr wardrob.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dehongli a chadarnhau'r cyfarwyddyd dylunio, gofynion y cynhyrchiad ac amserlen y cynhyrchiad
- cadarnhau a gweithio gan gadw at gyfyngiadau'r gyllideb
- caffael a chadarnhau dadansoddiad y gwisgoedd
- adnabod gwisgoedd priodol a chynllunio caffael gwisgoedd
- adnabod cyflenwyr addas a allai gynnig gwisgoedd sy'n cyd-fynd â'r gyllideb a'r raddfa amser
- cynnig manylebau cywir a chyflawn i gyflenwyr ynghylch pob eitem sydd eu hangen
- gofyn am samplau o wisgoedd dichonol
- trefnu amser prynu / llogi i ofalu eich bod yn bodloni amserlenni'r cynhyrchiad
- cytuno ar yr amodau, telerau a'r dogfennau ar gyfer cyflenwi a dychwelyd gwisgoedd/deunyddiau/ategolion gyda'r cyflenwyr
- cofnodi manylion y gwisgoedd/deunyddiau/ategolion a ddewiswyd
- trefnu eich bod yn derbyn y gwisgoedd ynghyd â threfnu man storio priodol
- gwirio'r gwisgoedd o gymharu gyda disgrifiadau'r archeb ac adrodd am unrhyw anghysonderau
- adnabod ac adrodd am unrhyw nwyddau coll neu sydd wedi'u difrodi a ffioedd arfaethedig am etiemau coll neu sydd wedi'u difrodi
- dychwelyd eitemau diangen, heb eu defnyddio gan sicrhau nad oes unrhyw golled i'r cynhyrchiad
- llunio a phrosesu dogfennau cyflawn ac eglur i gofnodi derbyn a dychwelyd eitemau
- dychwelyd gwisgoedd wedi'u llogi i gyflenwyr gan gydymffurfio gyda'r gweithdrefnau dychwelyd y cytunwyd arnyn nhw a'r dulliau sy'n lleihau'r peryg o unrhyw ddifrod pan gân nhw eu cludo
- cydymffurfio gyda rheolau a gofynion cyfrinachedd y cynhyrchiad
- cyfathrebu gyda gweddill staff y cynhyrchiad ac adrannau neu unigolion perthnasol eraill
- cydymffurfio gyda'r ddeddfwriaeth a'r canllawiau iechyd a diogelwch bob amser
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
gofynion y cynhyrchiad, amserlenni a dadansoddiadau'r gwisgoedd
gofynion o ran ansawdd, nifer, maint ac ymarferoldeb y gwisgoedd
- asesu'r gwisgoedd o ran eu haddasrwydd yn ymwneud â steil, ymarferoldeb, math, deunyddiau a maint
- cyfyngiadau amser a chyllidebol
- pwy ydy'r person / pobl berthnasol i gytuno ar ddewis y gwisgoedd gyda nhw
- ffioedd a dirwyon arfaethedig ar gyfer eitemau coll neu sydd wedi'u difrodi
- cyflenwyr dibynadwy arfaethedig
- technegau trin a thrafod effeithiol i'w rhoi ar waith gyda chyflenwyr
- gweithdrefnau labelu a chofnodi gwisgoedd
- dulliau effeithiol ar gyfer gwarchod a storio gwisgoedd
- y dogfennau gofynnol ar gyfer prynu, llogi, derbyn a dychwelyd gwisgoedd
- rheolau a gofynion cyfrinachedd y cynhyrchiad
- protocol cyfathrebu gyda'r tîm cynhyrchu ac adrannau neu unigolion perthnasol eraill
- cyfrifoldebau statudol ynghlwm â'r deddfwriaethau a'r rheoliadau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2025
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSQ12
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig a Galwedigaethau Technegol, Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Celfyddydau Perfformio, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â’r Cyfryngau
Cod SOC
3417
Geiriau Allweddol
Gwisg; wardrob; adnabod; llogi; cynhyrchiad; tai; gofynion; ansawdd; nifer; math; maint; amserlen; difrod; ffioedd; archwilio; cyflenwyr; dychwelyd; dogfennau