Llogi a dychwelyd gwisgoedd
URN: SKSQ6
Sectorau Busnes (Suites): Gwisgoedd
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
30 Maw 2021
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag eich gallu i ddewis a llogi gwisgoedd gan gyflenwr neu ystafell stoc ar gyfer cynhyrchiad ynghyd â dychwelyd y gwisgoedd ar ôl y cynhyrchiad.
Gallai hyn ymwneud â benthyg a dychwelyd gwisgoedd, archwilio a chofnodi unrhyw ddifrod, mynd i'r afael ag eitemau coll, storio gwisgoedd yn briodol a rheoli'r cyllidebau a'r goblygiadau cost.
Mae'n debyg y byddai'r safon hon yn berthnasol i oruchwylwyr gwisgoedd neu wardrob, rheolwyr gwisgoedd a chynorthwywyr gwisgoedd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dehongli dadansoddiad y gwisgoedd a gofynion y cynhyrchiad
- cadarnhau cyfyngiadau'r gyllideb a rheoli'r gyllideb yn unol â hynny
- cydweithio gyda'r cyflenwr i adnabod a dewis y gwisgoedd gofynnol
- adnabod y dechnoleg gaiff ei ddefnyddio yn y cynhyrchiad a allai effeithio ar y gwisgoedd
- cadarnhau'r raddfa amser a'r amserlen yn gysylltiedig gyda gofynion y gwisgoedd
- adolygu a chytuno ar amodau a thelerau'r cyflenwyr
- cadarnhau'r dewis o wisgoedd a threfnu'r taliadau gofynnol
- cydymffurfio â'r broses llogi gan gadarnhau'r niferoedd, y meintiau a'r manylion danfon a dychwelyd
- cofnodi pan fyddwch yn derbyn y gwisgoedd a gwirio eu bod yn bodloni'r gofynion y cytunwyd arnyn nhw
- archwilio'r gwisgoedd a chofnodi unrhyw eitemau coll, wedi'u difrodi neu sy'n fudr
- sicrhau caiff y gwaith trwsio, gwelliannau, glanhau neu addasu y cytunwyd arnyn nhw eu cyflawni
- goruchwylio defnydd y gwisgoedd a rhoi gwybod i'r staff perthnasol am ddirwyon difrod arfaethedig a'r goblygiadau ariannol eraill
- storio gwisgoedd mewn amodau priodol
- sicrhau caiff gwisgoedd eu labelu, eu pacio a'u bod mewn cyflwr digonol pan gân nhw eu dychwelyd
- dychwelyd eitemau ymhen y raddfa amser gofynnol neu drin a thrafod a chytuno ar raddfeydd amser wedi'u hadolygu
- adolygu a mynd i'r afael gydag unrhyw dor-amodau a thelerau arfaethedig
- cyfathrebu gyda'r tîm cynhyrchu ac adrannau neu unigolion perthnasol eraill
- cydymffurfio gyda'r ddeddfwriaeth a'r canllawiau iechyd a diogelwch bob amser
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- amodau a thelerau'r cyflenwr
- cost llogi'r gwisgoedd gan gynnwys costau difrod / trwsio, dirwyon a'r goblygiadau ariannol eraill
- rheoli'r gyllideb
- gofynion, graddfeydd amser a dadansoddiadau gwisgoedd y cynhyrchiad
- y proses a'r gofynion derbyn / dychwelyd y gwisgoedd
- pacio, labelu a dychwelyd gwisgoedd
- cofnodion a dogfennau
- cytuno ar weithrediadau pan na chaiff y gwisgoedd eu danfon / dychwelyd neu os byddan nhw wedi'u difrodi
- tasgau gwnïo ac addasu sylfaenol
- prosesau golchi / glanhau'r gwisgoedd
- amodau storio priodol
- protocol cyfathrebu gyda chleientiaid a chyd-weithwyr
- cyfrifoldebau statudol ynghlwm â'r deddfwriaethau a'r rheoliadau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2025
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSQ16
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig a Galwedigaethau Technegol, Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Celfyddydau Perfformio, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â’r Cyfryngau
Cod SOC
3417
Geiriau Allweddol
Gwisg; wardrob; dychweliadau; proses; trefnu; monitro; archwilio; adrodd; difrod; amod; storio; cost; goblygiadau