Caffael yr adnoddau angenrheidiol i gynhyrchu dyluniad y gwisgoedd
URN: SKSQ5
Sectorau Busnes (Suites): Gwisgoedd
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
30 Maw 2021
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â'ch gallu i gynorthwyo gyda chaffael a sicrhau ar adnoddau i fodloni'r gofynion ynghlwm â dyluniad y gwisgoedd gan gadw at gyllideb benodol.
Gallai hyn ymwneud ag ymchwilio a dewis gwasanaethau, gweithio gan gadw at gyfyngiadau amser, cyfathrebu gyda chyflenwyr, rheoli pobl ac adnoddau, rheoli cyllidebau a chyfrifon a llunio dogfennau a chadw cofnodion.
Mae'n debyg y byddai'r safon hon yn berthnasol i oruchwylwyr gwisgoedd, cynorthwywyr gwisgoedd a chynorthwywyr wardrob.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- ymchwilio a dewis cyflenwyr sy'n gallu bodloni'r gofynion o ran creadigrwydd, y gyllideb a logisteg sy'n berthnasol i gynhyrchu dyluniad y gwisgoedd
- cadarnhau unrhyw anghenion penodol, o ran yr adnoddau gofynnol, gyda'r cyflenwyr
- asesu anghenion corfforol neu ddewisiadau personol o ran cyfforddusrwydd y perfformwyr a gofalu eich bod yn diwallu'r rhain lle'n bosib
- adnabod a chynllunio'r broses ymgysylltu a chyflogi staff gwisgoedd
- ystyried y gofynion creadigol a thechnegol ynghlwm â chynhyrchu dyluniad y gwisgoedd
- dewis cyflenwyr sy'n meddu ar y sgiliau arbenigol a thechnegol angenrheidiol i gyflawni'r cysyniad dylunio gan gadw at gyllideb a therfynau amser y cynhyrchiad
- trin a thrafod a chytuno ar amodau a thelerau gyda'r cyflenwyr
- cynnal perthnasau gyda chyflenwyr sy'n sicrhau'r deilliannau mwyaf effeithiol
- dewis adnoddau priodol a chadarnhau bod y nifer gofynnol o adnoddau, a'r adnoddau o safon, ar gael
- cytuno ar ddyddiadau cyflawni sy'n cyd-fynd gydag amserlen y cynhyrchiad
- dadansoddi a datrys problemau'n ymwneud ag adnoddau'r gwisgoedd, o ran ydyn nhw ar gael, y nifer gofynnol a'r ansawdd gofynnol
- cadw cofnod o'r archebion a'r gwariant cyffredinol
- monitro cydymffurfiad gyda'r gyllideb y cytunwyd arni'n rheolaidd
- cadw at y gyllideb, rhoi gwybod i'r person / pobl berthnasol ynghylch unrhyw gynnydd i'r gyllideb ac argymell datrysiadau addas
- cydymffurfio gyda rheolau a rheoliadau cyfrinachedd y cynhyrchiad
- cyfathrebu gyda'r tîm cynhyrchu a'r holl adrannau/unigolion perthnasol
- cydymffurfio gyda'r ddeddfwriaeth a'r canllawiau iechyd a diogelwch bob amser
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- cyflenwyr arfaethedig a allai gyflenwi adnoddau yn unol â gofynion y cynhyrchiad
- gofynion creadigol, cyllidebol a logisteg y cyfarwyddyd dylunio
- cyfyngiadau amser o fewn amserlen y cynhyrchiad
- dewisiadau creadigol y cyfarwyddwr a'r perfformwyr
- y nifer a’r mathau o adnoddau sy’n ofynnoll / sydd ar gael
- gofynion creadigol a thechnegol y dyluniad gwisgoedd
- prosesau a'r graddfeydd amser ar gyfer gwneud y gwisgoedd
- sut i drin a thrafod gyda chyflenwyr a chytuno ar amodau a thelerau
- cadw cofnodion manwl gywir o'r adnoddau sydd wedi'u harchebu a'r gwariant
cyfyngiadau'r gyllideb a sgiliau trin a thrafod
rheolau a rheoliadau cyfrinachedd y cynhyrchiad
- yr holl adrannau / personél ynghlwm â'r cynhyrchiad a'r protocol cyfathrebu
- cyfrifoldebau statudol ynghlwm â'r deddfwriaethau a'r rheoliadau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2025
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSQ6
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig a Galwedigaethau Technegol, Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Celfyddydau Perfformio, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â’r Cyfryngau
Cod SOC
3417
Geiriau Allweddol
Gwisg; wardrob; caffael; adnoddau; dylunio; cynorthwyo; y gyllideb; amser; cyflenwyr; cyfrif; rheoli; cyfyngiadau; llunio dogfennau; cadw cofnodion