Cytuno ar ddyluniad y gwisgoedd a chynllunio cynhyrchiad y gwisgoedd
URN: SKSQ4
Sectorau Busnes (Suites): Gwisgoedd
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
30 Maw 2021
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chyflwyno, cytuno ar a chadarnhau dyluniad terfynol y gwisgoedd ynghyd â chynllunio cynhyrchiad y gwisgoedd y cytunwyd arnyn nhw gan gadw at y gyllideb.
Gallai hyn ymwneud â chyflwyno'r dyluniad gwisgoedd arfaethedig i'r tîm cynhyrchu, trin a thrafod a chytuno ar y dyluniad a'r gyllideb, cynllunio caffael a chynhyrchu dyluniad y gwisgoedd, adnabod cyflenwyr / gwneuthurwyr, cyfathrebu gyda chyd-weithwyr ar y cynhyrchiad i ddatrys problemau a chwblhau dyluniad y gwisgoedd gan gydymffurfio gyda'r amserlen.
Mae'n debyg y byddai'r safon hon yn berthnasol i ddylunwyr gwisgoedd, goruchwylwyr gwisgoedd a rheolwyr gwisgoedd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dehongli sgript y cynhyrchiad ac adnabod graddfa, cymeriadau ac arddull gweledol cyffredinol y cynhyrchiad
- asesu'r gofynion creadigol a thechnegol angenrheidiol er mwyn llunio dyluniad y gwisgoedd
- dylunio gwisgoedd a fyddai'n bodloni gofynion y cynhyrchiad
- trin a thrafod, cytuno ar a chadarnhau dyluniad, cyllideb ac amserlen y gwisgoedd
- cynllunio'r broses i lunio dyluniad y gwisgoedd
- adnabod a chadarnhau'r nifer o wisgoedd lluosog
- dynodi'r nifer a'r mathau o ddeunyddiau crai gofynnol i gynhyrchu'r dyluniad
- cadarnhau'r sgiliau a'r adnoddau gofynnol i gynhyrchu'r dyluniad
- adnabod lleoliad y cyfleusterau gofynnol a chanfod ydyn nhw ar gael
- goruchwylio a monitro cynnydd y gwaith cynhyrchu'r dyluniad gan ddwyn i ystyriaeth yr amserlen a'r gyllideb
- trin a thrafod a chytuno ar newidiadau i'r amserlen gydag adrannau perthnasol eraill
- cydymffurfio gyda rheolau a gofynion cyfrinachedd y cynhyrchiad
- adnabod a chadarnhau gofynion y gwisgoedd styntiau
- cyfathrebu gyda'r tîm cynhyrchu a'r holl unigolion ac adrannau perthnasol
- cydymffurfio gyda'r ddeddfwriaeth a'r canllawiau iechyd a diogelwch bob amser
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- stori a chynnwys y sgript
- arddull gweledol, math a graddfa'r cynhyrchiad
- amserlenni'r cynhyrchiad a'r cyfyngiadau amser cysylltiedig
- effaith gweithgareddau'r stori / cynhyrchiad ar y gwisgoedd
- cyfyngiadau cyllidebol
- gofynion a chyfyngiadau'r dyluniad
- gofynion dilyniant
- sut i gynllunio amserlenni dylunio hirdymor yn ogystal ag amserlenni o ddydd i ddydd
- gofynion a gweithrediad gwisgoedd styntiau
- yr adnoddau gofynnol ar gyfer gwneud y gwisgoedd
- gofynion gwisgoedd lluosog
- prosesau gwneud y gwisgoedd
- rheolau a gofynion cyfrinachedd y cynhyrchiad
- amserlen a gofynion adrannau eraill sydd ynghlwm â'r cynhyrchiad
- y person / pobl berthnasol y dylech chi gytuno ar newidiadau i'r amserlen dylunio gyda nhw
- cyfrifoldebau statudol ynghlwm â'r deddfwriaethau a'r rheoliadau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol
- yr holl adrannau / personél ynghlwm â'r cynhyrchiad a'r protocol cyfathrebu
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2025
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSQ5
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig a Galwedigaethau Technegol, Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Celfyddydau Perfformio, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â’r Cyfryngau
Cod SOC
3417
Geiriau Allweddol
Gwisg; wardrob; cynllun; gweithredu; dylunio; amserlen; dilyniant; cynhyrchiad; cyfathrebu