Llunio dadansoddiad o’r gwisgoedd ar gyfer cynhyrchiad

URN: SKSQ3
Sectorau Busnes (Suites): Gwisgoedd
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â'ch gallu i ddadansoddi sgriptiau fel rhan o ddadansoddiad gwisgoedd neu gynllun gwisgoedd. Mae'n ymwneud ag uniaethu gyda'r cymeriadau a deall eu 'gwedd' gofynnol.

Gallai hyn ymwneud â chadarnhau dyluniadau gwisgoedd, defnyddio pecynnau meddalwedd ar gyfer dadansoddiadau / cynlluniau gwisgoedd, adnabod gofynion gwisgoedd ar gyfer y cynhyrchiad, cynllunio amser ac adnoddau, trin a thrafod a gweithio gan gadw at gyllideb a chyfathrebu gyda'r holl adrannau.

Mae'n debyg y byddai'r safon hon yn berthnasol i oruchwylwyr a rheolwyr gwisgoedd / wardrob.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​asesu sgriptiau ac adnabod gofynion gwisgoedd  
  2. pennu sut byddai'r stori a'r llinell amser yn effeithio ar wedd pob cymeriad
  3. adnabod y nifer o gymeriadau yn y cynhyrchiad
  4. trafod a chytuno ar y gymeriadaeth gyda'r tîm cynhyrchu
  5. adnabod pwyntiau gweithredu yn y stori sy'n galw am wisgoedd arbennig
  6. ystyried a chynnwys gofynion dilyniant
  7. tynnu lluniau o'r gwisgoedd a'u hatodi i'r dadansoddiad
  8. cadarnhau'r amserlen derfynol o ran gwisgoedd a goblygiadau'r gyllideb gyda'r person / pobl berthnasol
  9. trin a thrafod cyllidebau, adnoddau a'r graddfeydd amser fel sy'n briodol
  10. llunio dadansoddiad gwisgoedd sy'n adnabod ac yn cadarnhau'r canlynol
    1. y gwisgoedd gofynnol
    2. y dyddiad a'r amser gofynnol
    3. hyd disgwyliedig y cynhyrchiad
    4. y gyllideb
  1. cydymffurfio gyda rheolau a gofynion cyfrinachedd y cynhyrchiad  
  2. cyfathrebu gyda staff y cynhyrchiad, artistiaid gweledol ac adrannau neu unigolion perthnasol eraill
  3. cydymffurfio gyda'r ddeddfwriaeth a'r canllawiau iechyd a diogelwch bob amser 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​dehongliad o'r sgript
  2. dadansoddiad o'r stori a'r amseriadau
  3. amcangyfrif costau a'r cyfyngiadau cyllidebol  
  4. y person / pobl berthnasol i gytuno'r gofynion o ran y gwisgoedd a'r gyllideb gyda nhw 
  5. sut i adnabod anghenion gwisgoedd llawn y cynhyrchiad
  6. cyfyngiadau amser ynghlwm ag amserlen y cynhyrchiad
  7. dadansoddiad o'r cymeriadau
  8. sut mae gweithgareddau'r cymeriadau'n effeithio ar ddyluniad y gwisgoedd a'r cynhyrchiad
  9. deunyddiau a dulliau cynhyrchu'r gwisgoedd
  10. sut i gofnodi'r gwisgoedd a'r gweithrediadau y cytunwyd arnyn nhw
  11. gofynion dilyniant
  12. rheolau a gofynion cyfrinachedd y cynhyrchiad  
  13. technegau trin a thrafod
  14. yr holl adrannau / personél ynghlwm â'r cynhyrchiad a'r protocol cyfathrebu
  15. cyfrifoldebau statudol ynghlwm â'r deddfwriaethiau a'r rheoliadau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSQ4

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig a Galwedigaethau Technegol, Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Celfyddydau Perfformio, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â’r Cyfryngau

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

Gwisg; wardrob; cynllun; sgript; dyluniadau; meddalwedd; cynhyrchiad; manylyn; paratoi; adnoddau; cyllideb; cyfarwyddwr; cynhyrchydd; trin a thrafod