Trwsio ac addasu ategolion i’w defnyddio mewn cynhyrchiad

URN: SKSQ26
Sectorau Busnes (Suites): Gwisgoedd
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â'ch gallu i drwsio ac addasu ategolion caiff eu defnyddio fel propiau mewn cynhyrchiad. Mae'n ymdrin â'r ystod gyflawn o ategolion gan gynnwys gemwaith a'r propiau gweithredu lle bydd angen talu sylw dyledus i'r ddeddfwriaeth hylendid a diogelwch. Mae'n bosib y bydd gofyn ichi asesu ategolion, rigio a phrofi ategolion, dilyniant ategolion a chynnal a chadw eitemau.

Mae'n debyg y byddai'r safon hon yn berthnasol i oruchwylwyr gwisgoedd, staff sy'n gyfrifol am drwsio gemwaith ac ategolion, cynorthwywyr gwisgoedd a chynorthwywyr wardrob.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. adnabod gofynion gwisgoedd y cynhyrchiad
  2. asesu'r ategolion a phenderfynu ar y gweithrediadau i'w cyflawni, gan ystyried y cyfyngiadau o ran amser a swyddogaeth
  3. cydymffurfio gyda'r manylebau dylunio o ran addasu ategolion blaenorol
  4. cytuno ar swyddogaeth ofynnol yr ategolyn ac unrhyw ofynion rigio  
  5. defnyddio deunyddiau, offer a chyfarpar i drwsio ac addasu ategolion
  6. cyflawni gwaith trwsio / addasu mewn da bryd er mwyn sicrhau bod yr ategolion yn y cyflwr gofynnol pan fo'u hangen
  7. hysbysu'r staff gwisgoedd am unrhyw waith trwsio neu addasu i ategolion gan amlygu unrhyw ofynion gwisgo a allai effeithio ar olwg neu berfformiad yr eitem sydd wedi'i thrwsio neu ei haddasu
  8. rhoi gwybod i'r awdurdod perthnasol ar unwaith am unrhyw broblemau yn ymwneud â thrwsio ac addasu ategolion a gweithredu'n briodol i sicrhau bod modd i'r cynhyrchiad barhau
  9. cymryd cyfrifoldeb dros yr eitemau yn eich gofal a'u cadw'n ddiogel
  10. sicrhau bod y lefelau storio a diogelwch yn unol â gofynion y polisi yswiriant
  11. sicrhau bod pawb yn cydymffurfio gyda'r rheolau a'r gweithdrefnau cyfrinachedd
  12. cyfathrebu'n effeithiol gyda staff y cynhyrchiad ac adrannau neu unigolion perthnasol eraill
  13. cydymffurfio gyda'r deddfwriaethau a'r canllawiau iechyd, diogelwch a COSHH bob amser

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​cyfnod, ffurf, gofynion gwisgoedd a graddfeydd amser y cynhyrchiad
  2. sut i asesu eitemau ar gyfer eu trwsio neu eu haddasu  
  3. y polisi cyfundrefnol ar gyfer trwsio neu addasu ategolion
  4. technegau creu gemwaith ynghyd â sut i osod cerrig yn sownd i ystod o osodiadau
  5. y deunyddiau a'r gorffeniadau arbenigol
  6. sut i ddefnyddio a dewis yr offer a'r cyfarpar cywir ar gyfer trwsio ac addasu ategolion
  7. namau nodweddiadol a allai ddigwydd yn sgil y technegau, prosesau a'r offer byddwch chi'n eu defnyddio a'r gweithdrefnau i'w rhoi ar waith os caiff nam ei adnabod
  8. y bobl mae’n rhaid eu hysbysu ynghylch problemau gyda thrwsio neu addasu eitemau a'r gweithdrefnau ar gyfer gwneud hynny
  9. y polisïau yswiriant a'r gweithdrefnau diogelwch perthnasol  
  10. y rheolau a'r gweithdrefnau cyfrinachedd
  11. staff y cynhyrchiad a'r adrannau ynghlwm ynghyd â'r protocol cyfathrebu
  12. cyfrifoldebau statudol ynghlwm â'r deddfwriaethau a'r rheoliadau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Teilwra

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

CCSWHM12

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig a Galwedigaethau Technegol, Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt y Cyfryngau

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

gwisgoedd, cynhyrchiad , ategolion, gemwaith, trwsio, addasu