Addurno dillad ac ategolion i’w defnyddio mewn cynhyrchiad
URN: SKSQ25
Sectorau Busnes (Suites): Gwisgoedd
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
30 Maw 2021
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â'ch gallu i addurno eitemau i fodloni gofynion cynhyrchiad. Bydd unigolion yn paratoi'r deunyddiau a'r gofynion gosod ynghyd â gosod addurniadau yn unol â'r cysyniad a'r fanyleb dyluniad gwisgoedd. Gallai ymwneud â chaffael deunyddiau, siapio, creu, gosod a rhwymo addurniadau.
Mae'n debyg y byddai'r safon hon yn berthnasol i oruchwylwyr gwisgoedd, cynorthwywyr gwisgoedd, cynorthwywyr wardrob a gwneuthurwyr gwisgoedd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- adnabod gofynion, dyluniadau gwisgoedd a graddfeydd amser y cynhyrchiad
- caffael deunyddiau addas ar gyfer creu a gosod addurniadau
- adnabod a pharatoi'r eitem yn barod i'w addurno a'r deunyddiau gofynnol ar gyfer creu a gosod addurniadau
- dewis a gosod yr offer a'r cyfarpar cywir i gyflawni'r gwaith
- creu ac atodi addurniadau i'r eitem gan gydymffurfio gyda'r rheoliadau COSHH wrth ddefnyddio sylweddau peryglus h.y. glud, chwistrellau, erosolau
- cynnal technegau siapio gan ddwyn i ystyriaeth nodweddion y deunydd rydych yn ei ddefnyddio
- adnabod problemau ac unrhyw ddeunyddiau, offer a chyfarpar diffygiol gan gymryd camau adferol priodol hyd eithaf eich cyfrifoldeb
- trefnu a sicrhau bod y gweithle yn lân, taclus a diogel
- cadarnhau bod y gwaith sydd wedi'i gyflawni yn bodloni gofynion y cynhyrchiad
- cyflawni unrhyw addasiadau gofynnol
- cydymffurfio gyda rheolau cyfrinachedd y cynhyrchiad
- cyfathrebu'n effeithiol gyda staff y cynhyrchiad ac adrannau neu unigolion perthnasol eraill
- cydymffurfio gyda'r deddfwriaethau a'r canllawiau iechyd, diogelwch, COSHH ac amgylcheddol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- cyfnod, ffurf, gwedd a graddfeydd amser y cynhyrchiad
- sut i asesu eitemau ac adnabod eu haddasrwydd ar gyfer addurno
- nodweddion a'r technegau trin gwahanol ddeunyddiau
- pwysigrwydd gwirio lliw, gwead, goddefiant ac ansawdd y deunyddiau
- yr offer a'r cyfarpar priodol i gyflawni'r gwaith a’r lle maen nhw’n cael eu cadw
- namau posib y deunyddiau, yr offer a'r cyfarpar ynghyd â'r datrysiadau arfaethedig
- pwy ddylech chi eu hysbysu am drafferthion a phroblemau
- technegau siapio ar gyfer gwahanol ddeunyddiau ac addurniadau
- dulliau creu addurniadau'n defnyddio deunyddiau sylfaenol
- dulliau cydweddu addurniadau gydag eitem
- gweithdrefnau ar gyfer mynd i'r afael gyda phroblemau
- y rheolau a'r gweithdrefnau cyfrinachedd
- staff y cynhyrchiad a'r adrannau ynghlwm ynghyd â'r protocol cyfathrebu
- cyfrifoldebau statudol ynghlwm â'r deddfwriaethau a'r rheoliadau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2025
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Teilwra
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
CCSWHM11
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig a Galwedigaethau Technegol, Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Y Celfyddydau Perfformio, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â’r Cyfryngau
Cod SOC
3417
Geiriau Allweddol
Gwisg, cynhyrchu, cynhyrchiad, gemwaith, tocio, addurno; addasu