Heneiddio a rhoi ôl traul ar wisgoedd

URN: SKSQ24
Sectorau Busnes (Suites): Gwisgoedd
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â'ch gallu i heneiddio a rhoi ôl traul ar wisgoedd ac ategolion. Gallai hyn ymwneud â thynnu dilledyn yn ddarnau er mwyn bodloni gofynion y cynhyrchiad, defnyddio'ch gwybodaeth o gyfeirnodau hanesyddol ac arddull weledol y cynhyrchiad, adnabod lleoliadau diogel i gyflawni'r gwaith, sicrhau bod cyflenwad trydan a dŵr digonol ynghyd â system awyru da, ail-adrodd gwaith a dyblygu effeithiau. 

Mae'n debyg y byddai'r safon hon yn berthnasol i oruchwylwyr gwisgoedd, cynorthwywyr gwisgoedd, gweithwyr gwisgoedd wrth gefn, cynorthwywyr wardrob a gwneuthurwyr gwisgoedd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. adolygu gofynion y cynhyrchiad, cyfarwyddyd y dylunydd gwisgoedd a'r sgript gan adnabod y gofynion ynghlwm â rhoi ôl traul ar y gwisgoedd
  2. cadarnhau amserlen, cyllideb a chynllun dilyniant y cynhyrchiad
  3. cadarnhau'r gofynion dilyniant o ran y gwisgoedd
  4. cyfarwyddo'r tîm gwisgoedd ynghylch gofynion y gwisgoedd
  5. adnabod a chaffael adnoddau i dynnu gwisgoedd yn ddarnau a rhoi ôl traul arnyn nhw
  6. adnabod alergeddau a lefelau sensitifrwydd perfformwyr a'r tîm gwisgoedd a sicrhau caiff cynnyrch priodol eu defnyddio
  7. defnyddio'r prosesau priodol i dynnu deunydd, dillad, esgidiau ac ategolion yn ddarnau
  8. adnabod y gwaith tynnu gwisgoedd yn ddarnau a rhoi ôl traul arnyn nhw sydd angen ei gynnig yn allanol 
  9. caffael a chyfathrebu gydag is-gontractwr priodol pan fo'n ofynnol a thrafod a chytuno ar y gwaith, y gyllideb a'r amserlen
  10. adnabod a thrafod faint o'r wisg fydd yn ymddangos mewn saethiadau a chadarnhau oes yna saethiadau agos neu gefndirol 
  11. monitro a rheoli isgontractwyr gan sicrhau caiff y safon ansawdd, y gyllideb a'r amserlenni eu bodloni  
  12. gwisgo dillad diogelu priodol i gyflawni'r gwaith 'rhoi ôl traul ar wisgoedd'
  13. adnabod a gweithio mewn lleoliad diogel
  14. cadw cofnodion a storio manylion unrhyw waith heneiddio neu roi ôl traul ar wisgoedd sydd wedi'i gwblhau
  15. cydymffurfio gyda rheolau cyfrinachedd y cynhyrchiad
  16. sicrhau bod pawb yn cydymffurfio gyda'r rheoliadau COSHH (Rheoli Sylweddau sy'n Beryglus i Iechyd)
  17. cyfathrebu'n eglur gyda staff y cynhyrchiad ac adrannau neu unigolion perthnasol eraill
  18. cydymffurfio gyda'r deddfwriaethau, polisïau a'r canllawiau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ffurf neu gyfnod amser y cynhyrchiad
  2. gofynion y cynhyrchiad a chyfarwyddyd y dylunydd gwisgoedd
  3. y graddfeydd amser, yr amserlen a'r cynllun dilyniant
  4. cyllidebau'r cynhyrchiad
  5. gofynion dilyniant y cynhyrchiad
  6. y technegau a'r prosesau er mwyn tynnu gwisgoedd yn ddarnau a rhoi ôl traul arnyn nhw  
  7. yr adnoddau a'r cynnyrch gofynnol er mwyn tynnu gwisgoedd yn ddarnau
  8. alergeddau a lefelau sensitifrwydd perfformwyr a'r tîm gwisgoedd a sut i fynd i'r afael gyda nhw
  9. sut i asesu'r llwyth gwaith ac amcangyfrif y gofynion o ran cynnig y gwaith yn allanol
  10. sut i gynnig gwaith yn allanol / is-gontractio gwaith i fodloni'r gyllideb a'r amserlen  
  11. faint o'r gwisgoedd fydd yn ymddangos yn y saethiadau ac effaith hynny ar y gwaith tynnu gwisgoedd yn ddarnau a rhoi ôl traul arnyn nhw sy'n ofynnol
  12. y dillad a'r cyfarpar diogelu gofynnol pan fyddwch yn cyflawni'r gwaith tynnu'r gwisgoedd yn ddarnau a rhoi ôl traul arnyn nhw
  13. sut i asesu lleoliadau o ran eu haddasrwydd yn ymwneud â thynnu gwisgoedd yn ddarnau a rhoi ôl traul arnyn nhw
  14. y cofnodion a'r manylion o ran tynnu'r gwisgoedd yn ddarnau sy'n ofynnol
  15. staff ac adrannau'r cynhyrchiad ynghlwm a'r protocol cyfathrebu
  16. rheolau cyfrinachedd y cynhyrchiad
  17. cyfrifoldebau statudol ynghlwm â'r deddfwriaethau a'r rheoliadau iechyd, diogelwch, COSHH ac amgylcheddol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSQ21

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig a Galwedigaethau Technegol, Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â’r Cyfryngau

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

Gwisg; wardrob; tynnu’n ddarnau; rhoi ôl traul; dillad; ategolion; sgript; cynhyrchiad; hanesyddol; cyfeirnodau; gweledol; arddull; sgript; lleoliadau; trydan; dŵr; cyflenwadau; awyru