Llifo a phrintio deunyddiau ar gyfer gwisgoedd

URN: SKSQ23
Sectorau Busnes (Suites): Gwisgoedd
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 2021

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â'ch gallu i lifo neu brintio deunyddiau a gwisgoedd er mwyn bodloni gofynion y cynhyrchiad. Gallai hyn ymwneud â pharatoi gwisgoedd neu ddeunyddiau ar gyfer eu llifo neu eu printio, gweithredu gwahanol dechnegau llifo a phrintio, asesu'r canlyniadau, bodloni safonau drwy gydol y broses, gwybod sut y byddai'r eitemau wedi'u llifo / eu printio yn ymddangos ar gamera a chynnig y gwaith yn allanol pan fo'n briodol.

Mae'n debyg y byddai'r safon hon yn berthnasol i ddylunwyr gwisgoedd, goruchwylwyr gwisgoedd, cynorthwywyr gwisgoedd, gweithwyr gwisgoedd wrth gefn, cynorthwywyr wardrob a gwneuthurwyr gwisgoedd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ystyried cyfnod amser, ffurf ac unrhyw ofynion penodol y cynhyrchiad o ran gwisgoedd cyn llifo neu brintio'r deunyddiau
  2. cadarnhau'r cyfarwyddyd ar gyfer unrhyw waith llifo a phrintio gan gynnwys y gyllideb
  3. derbyn caniatâd gan yr isgontractwyr gwisgoedd neu'r unigolion perthnasol cyn llifo neu brintio'r deunyddiau
  4. adnabod, caffael a defnyddio'r llifyn neu'r inc mwyaf priodol ar gyfer yr eitem dan sylw
  5. creu a dadansoddi samplau cyn llifo a phrintio'r deunyddiau
  6. adnabod alergeddau neu sensitifrwydd y perfformwyr a'r tîm gwisgoedd tuag at gynnyrch llifo a phrintio
  7. sicrhau bod y gweithle'n addas, yn lân ac nad oes unrhyw risgiau a pheryglon
  8. defnyddio dillad a chyfarpar diogelu pan fyddwch yn cyflawni'r broses llifo a phrintio
  9. cyflawni a monitro'r broses llifo a phrintio
  10. llifo a phrintio deunyddiau gan fodloni'r safon ansawdd gofynnol
  11. archwilio'r cynnyrch wedi'u llifo a rhoi gwybod i'r personél priodol am unrhyw broblemau mewn dull amserol a phroffesiynol 
  12. glanhau'r gweithle a'r cyfarpar ar ôl llifo a phrintio
  13. cael gwared ar wastraff gan gydymffurfio gyda'r gweithdrefnau amgylcheddol
  14. caffael isgontractwyr priodol i gyflawni'r gwaith llifo a phrintio arbenigol sy'n ofynnol gan yr adran wisgoedd
  15. sicrhau bod y technegau llifo a phrintio byddwch yn eu defnyddio'n briodol ar gyfer y cynhyrchiad a'r ffurfiau camera dewisol 
  16. cydymffurfio gyda rheolau a gofynion cyfrinachedd y cynhyrchiad
  17. cyfathrebu gyda staff y cynhyrchiad ac adrannau neu unigolion perthnasol eraill
  18. cydymffurfio gyda'r deddfwriaethau a'r canllawiau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol bob amser

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. graddfeydd amser a chyllideb y cynhyrchiad
  2. cyfnod amser / ffurfiau a 'gwedd' y cynhyrchiad
  3. alergeddau neu sensitifrwydd cyffredin at gynnyrch llifo a phrintio
  4. gwahanol lifynnau / inciau a'u defnydd
  5. lle i gaffael llifynnau ac inciau gan gadw at y gyllideb
  6. y caniatâd perthnasol sy'n ofynnol cyn llifo neu brintio'r deunyddiau
  7. sut i greu, dadansoddi ac asesu samplau
  8. gwahanol dechnegau llifo a phrintio
  9. rheolaeth risg gofynnol wrth lifo a phrintio eitemau
  10. y safon ansawdd gofynnol
  11. pwy i drafod problemau printio neu lifo gyda nhw
  12. lle i gaffael lliwyddion / argraffwyr allanol priodol gan gadw at y gyllideb a'r raddfa amser
  13. sut fyddai'r llifynnau a'r printiau'n ymddangos ar y llwyfan/camera
  14. rheolau a gofynion cyfrinachedd y cynhyrchiad
  15. y protocol cyfathrebu
  16. cyfrifoldebau statudol ynghlwm â'r deddfwriaethau a'r rheoliadau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSQ20

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig a Galwedigaethau Technegol, Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â’r Cyfryngau

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

Gwisg; wardrob; llifyn; printio; deunyddiau; llifo; printio; monitro; ansawdd; cynnig gwaith yn allanol; technegau