Sefydlu a datgymalu gweithle gwisgoedd dros dro
URN: SKSQ21
Sectorau Busnes (Suites): Gwisgoedd
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
30 Maw 2021
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â'ch gallu i sefydlu man penodol ar gyfer gwisgoedd wrth ffilmio ar leoliad, defnyddio'r man drwy gydol y cynhyrchiad ar gyfer gwaith yn ymwneud â'r gwisgoedd a datgymalu'r man ar ddiwedd y cynhyrchiad. Gallai ymwneud ag asesu a dewis man addas, creu gweithle gweithredol, derbyn gwisgoedd wedi'u danfon a'u storio'n briodol ynghyd â phacio eitemau i'w cludo.
Mae'n debyg y byddai'r safon hon yn berthnasol i oruchwylwyr gwisgoedd, rheolwyr gwisgoedd a chynorthwywyr gwisgoedd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu gofynion gwisgoedd y cynhyrchiad ac amcangyfrif y cyfleusterau angenrheidiol
- asesu'r mannau sydd ar gael a dewis y man mwyaf addas gan ddwyn i ystyriaeth y lleoliad, y mynediad a'r adnoddau
- ystyried y materion ynghlwm â diogelwch, cyfrinachedd a risgiau
- derbyn caniatâd i ddefnyddio'r gweithle dewisol
- adnabod y cyfarpar a'r offer angenrheidiol i gynnal a chadw gwisgoedd
- gweithio gan gadw at gyllideb y cynhyrchiad
- rhoi gwybod i'r tîm cynhyrchu am union safle'r gweithle dewisol
- cydosod a threfnu cyfarpar yn y man dewisol gan ddwyn i ystyriaeth y rhwystrau, y mynediad, y peryglon a'r amodau diogelwch
- cyd-drefnu gwaith cynnal a chadw ar y gwisgoedd yn y gweithle fel glanhau, trwsio, heneiddio a rhoi ôl traul
- rheoli a chynnal y gweithle
- trefnu cludiant addas ar gyfer gwisgoedd, offer a chyfarpar
- datgymalu'r gweithle a pharatoi'r offer, y gwisgoedd a'r cyfarpar yn barod i'w cludo
- cydymffurfio gyda rheolau cyfrinachedd y cynhyrchiad
- cyfathrebu'n effeithiol gyda staff y cynhyrchiad ac adrannau neu unigolion perthnasol eraill
- cydymffurfio gyda'r ddeddfwriaeth a'r canllawiau iechyd a diogelwch bob amser
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gofynion ac amserlen y cynhyrchiad
- lleoliadau'r set ffilmio a'r golygfeydd
- y gyllideb a'r graddfeydd amser gallwch fanteisio arnyn nhw
- y man / gofod sydd ar gael
- y risgiau ynghlwm â diogelwch a chyfrinachedd a sut i sicrhau bod cyn lleied â phosib
- sut i adnabod a chyfathrebu gydag adrannau eraill
- nifer ac ansawdd y gwisgoedd gofynnol a lle i ganfod gwybodaeth am y cynhyrchiad
- y drefn saethu a'r raddfa amser sy'n gysylltiedig â gofynion y gwisgoedd a'r amser gwisgo
- y cyfarpar angenrheidiol i gyflawni tasgau'n ymwneud â'r gwisgoedd
- sut i drefnu, sefydlu, lleoli a gosod cyfarpar
- gofynion paratoi cyn cludo'r gwisgoedd a'r cyfarpar
- sut i ofalu am a chynnal a chadw gwisgoedd
- amseriadau yn ymwneud â datgymalu'r gweithle
- sut a lle i gael gwared ar wastraff
- sut i gaffael a threfnu cludiant ar gyfer cyfarpar a'r gwisgoedd
- y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol ynghlwm â thrin a storio deunyddiau peryglus
- rheolau cyfrinachedd y cynhyrchiad
- y protocol cyfathrebu gyda staff y cynhyrchiad ac adrannau neu unigolion perthnasol eraill
- cyfrifoldebau statudol ynghlwm â'r deddfwriaethau a'r rheoliadau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2025
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSQ29
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig a Galwedigaethau Technegol, Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â’r Cyfryngau
Cod SOC
3417
Geiriau Allweddol
Gwisg; wardrob; datgymalu; sefydlu; gweithle; cynnal a chadw