Ymchwilio gwisgoedd ar gyfer cynhyrchiad
URN: SKSQ2
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gwisgoedd
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
2021
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â'ch gallu i ymchwilio gwisgoedd yn ôl eu ffurf, hanes ac agweddau technegol, ynghyd â'ch gwybodaeth gyffredinol am y wisg a fydd yn llywio'r gwaith proffesiynol.
Gallai hyn ymwneud â manteisio ar ffynonellau gwybodaeth dibynadwy, datblygu ymwybyddiaeth cyffredinol o hanes gwisgoedd, adnabod technegau cynhyrchu gwisgoedd a'r defnyddiau a'r deunyddiau priodol er mwyn creu gwahanol steiliau.
Mae'n debyg y byddai'r safon hon yn berthnasol i ddylunwyr gwisgoedd, goruchwylwyr, cynorthwywyr gwisgoedd, gweithwyr gwisgoedd wrth gefn a chynorthwywyr wardrob.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dehongli'r cyfarwyddyd dylunio a chadarnhau ffurf neu gyfnod hanesyddol y cynhyrchiad
- dewis strategaethau ymchwilio effeithiol er mwyn caffael gwybodaeth am wisgoedd
- gwerthuso hygrededd yr wybodaeth byddwch wedi'i chasglu a sicrhau bod y cwmpas ymchwil yn ddigon eang
- pennu ffasiynau gwisgoedd allweddol yn ymwneud â ffurf neu gyfnod hanesyddol y cynhyrchiad
- gwerthuso'r cysyniad dylunio gwisgoedd gwreiddiol o gymharu â'r cywirdeb hanesyddol, swyddogaeth, diben a'r cyfarwyddyd dylunio
- amlygu diwygiadau a fyddai'n cynnal cywirdeb hanesyddol ac yn cydymffurfio gyda rhagdybiaethau cyffredin am y cyfnod hwnnw
- adnabod prif dechnegau cynhyrchu dillad yn berthnasol i ffurf neu gyfnod hanesyddol y cynhyrchiad
- adnabod defnyddiau a deunyddiau priodol sy'n berthnasol i ffurf neu gyfnod hanesyddol y cynhyrchiad
- cydymffurfio gyda rheolau a rheoliadau cyfrinachedd y cynhyrchiad
- cyfathrebu gyda'r tîm cynhyrchi a'r holl adrannau neu unigolion perthnasol
- cydymffurfio gyda'r ddeddfwriaeth a'r canllawiau iechyd a diogelwch bob amser
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- golwg a nodweddion allweddol gwisgoedd drwy'r oesoedd
- ffasiynau gwisgoedd yn ymwneud â gwahanol ffurfiau a chyfnodau hanesyddol
- ffynonellau, methodolegau ac opsiynau ymchwil
- cywirdeb hanesyddol yn ymwneud â cyfnod/ffurf y cynhyrchiad
- technegau a dulliau dichonol ar gyfer creu a chynhyrchu gwisgoedd traddodiadol a modern
- cyllidebau, adnoddau dynol a'r cyfarpar gofynnol i gynhyrchu gwisgoedd
- cyfarwyddiadau dylunio, sgriptiau a dadansoddiadau'r gwisgoedd
- y deunyddiau a'r cyfansoddion priodol i greu gwahanol steiliau
- rheolau a gofynion cyfrinachedd y cynhyrchiad
- yr holl bersonél ynghlwm â'r cynhyrchiad a'r protocol cyfathrebu
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2025
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSQ8
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig a Galwedigaethau Technegol, Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Celfyddydau Perfformio, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â’r Cyfryngau
Cod SOC
3417
Geiriau Allweddol
Gwisg; wardrob; ymchwil; hanes; cynhyrchiad; hanesyddol; technegol; dyluniad; gwybodaeth; cyfnod; cywirdeb; adnoddau; cyfleusterau; dilledyn; sampl