Glanhau gwisgoedd sydd wedi’u defnyddio mewn cynhyrchiad
URN: SKSQ19
Sectorau Busnes (Suites): Gwisgoedd
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
2021
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â'ch gallu i lanhau gwisgoedd unigol sydd wedi'u defnyddio mewn cynhyrchiad. Gallai hyn ymwneud ag asesu dulliau glanhau priodol, ymdrin â dillad arbenigol a main, ymwybyddiaeth o'r lleoliad saethu ac amserlenni'r cynhyrchiad, gwybodaeth am effaith y dewis glanhau ar ddeunyddiau a ffibrau, cynnal dilyniant pan fyddwch yn golchi a sychu gwisgoedd ac asesu a gweithio gydag adnoddau a chyfleusterau cyfyngedig.
Mae'n debyg y byddai'r safon hon yn berthnasol i oruchwylwyr gwisgoedd, cynorthwywyr gwisgoedd, gweithwyr gwisgoedd wrth gefn neu gynorthwywyr wardrob.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r eitem ac adnabod y dull glanhau mwyaf priodol
- argymell dulliau glanhau ar gyfer eitemau na ellir eu golchi'n wlyb neu eu sychlanhau
- adnabod ac asesu alergeddau a sensitifrwydd y perfformwyr a'r tîm gwisgoedd at gynnyrch glanhau
- asesu a dewis y cynnyrch glanhau priodol
- caffael a defnyddio arbenigwyr sychlanhau pan fo'n briodol
- cyfathrebu gyda sychlanhawyr er mwyn cadarnhau'r raddfa amser a'r gyllideb
- glanhau gwisgoedd gan ddilyn y cyfarwyddiadau gofal
- glanhau a rhoi sglein ar esgidiau ac ategolion gan ddilyn y cyfarwyddiadau gofal
- cadarnhau'r gofynion dilyniant a glanhau'r eitemau'n unol â hynny
- adnabod, asesu a chael gwared ar staeniau
- adnabod staeniau ac aroglau nad oes modd cael gwared arnyn nhw'n defnyddio dulliau safonol a chynnig argymhellion o ran glanhau
- adnabod trafferthion glanhau wrth iddyn nhw godi a chyfathrebu gyda'r personél priodol
- ystyried faint fydd gwisg yn ymddangos ym mhob golygfa
- amserlen glanhau yn unol ag amserlen a threfn y cynhyrchiad
- adnabod a chaffael y cyfleusterau golchi a sychu angenrheidiol gan gadw at y gyllideb
- cydymffurfio gyda'r rheoliadau COSHH (Rheoli Sylweddau sy'n Beryglus i Iechyd) wrth lanhau cynnyrch
- cydymffurfio gyda rheolau cyfrinachedd y cynhyrchiad
- cyfathrebu'n effeithiol gyda staff y cynhyrchiad ac adrannau perthnasol eraill
- cydymffurfio gyda'r deddfwriaethau, polisïau a'r canllawiau iechyd a diogelwch
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gofynion, cyllideb ac amserlen y cynhyrchiad
- y gwisgoedd i'w glanhau gan ddwyn i ystyriaeth dilyniant a'r rheswm dros eu glanhau
- alergeddau neu sensitifrwydd at gynnyrch glanhau (y perfformwyr a'r tîm gwisgoedd)
- cyllideb y cynhyrchiad
- gwahanol ddulliau a chynnyrch glanhau
- sut i asesu eitemau a dewis dulliau a thechnegau glanhau priodol
- sut i drin a glanhau hen eitemau / eitemau bregus
- sut i ddehongli labeli a symbolau gofal
- tymereddau dŵr a'u heffaith
- sut i ddefnyddio gwahanol gynnyrch glanhau
- dulliau glanhau ar gyfer aroglau neu staeniau anhydrin fel cabinet ozone, dileuwyr aroglau a gwaredwyr staeniau
- sut i lanhau / rhoi sglein ar esgidiau ac ategolion
- sut i adnabod problemau cyn neu yn ystod glanhau a sychu
- technegau glanhau rhannau penodol a chael gwared ar staeniau
- y technegau a'r cyfarpar golchi a smwddio ar gyfer hen wisgoedd a gwisgoedd main ac arbenigol
- y technegau a'r cyfarpar sychu ar gyfer hen wisgoedd a gwisgoedd main ac arbenigol
- arbenigwyr sychlanhau priodol a'r costau ynghlwm
- gofynion dilyniant a sut i gynnal dilyniant
- yr amser mwyaf priodol i lanhau eitemau yn unol ag amserlen y cynhyrchiad
- y cyfleusterau glanhau priodol a digonol a sut i'w caffael a'u trefnu
- rheolau cyfrinachedd y cynhyrchiad
- staff y cynhyrchiad a'r adrannau ynghlwm ynghyd â'r protocol cyfathrebu
- cyfrifoldebau statudol ynghlwm â'r deddfwriaethau iechyd, diogelwch, COSHH ac amgylcheddol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2025
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSQ22
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig a Galwedigaethau Technegol, Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â’r Cyfryngau
Cod SOC
3417
Geiriau Allweddol
Gwisg; wardrob; glanhau; cynhyrchiad; dillad; dull; arbenigol; main; saethu; lleoliad; gweithredu; cyfarpar; deunyddiau; ffibrau; golchi; sychu; adnoddau; cyfleusterau