Presio Gwisgoedd
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â'ch gallu i bresio gwisgoedd gan ddefnyddio gwahanol dechnegau, dyfeisiau ac ategolion. Gallai hyn ymwneud â chyflawni gwaith mewn ystod o leoliadau saethu, ymwybyddiaeth o wneuthuriad deunyddiau a phriodweddau ffibrau, cymryd rhagofalon i atal difrod, gwybodaeth am ddefnydd arfaethedig y wisg, fformat y camera a ddewiswyd ac agweddau o ddilyniant.
Mae'n debyg y byddai'r safon hon yn berthnasol i oruchwylwyr gwisgoedd, cynorthwywyr gwisgoedd, gweithwyr gwisgoedd wrth gefn, cynorthwywyr wardrob a gwneuthurwyr gwisgoedd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- adnabod a chadarnhau gofynion y gwisgoedd
- cadarnhau'r gofynion dilyniant
- caffael y cyfarpar presio cywir i fodloni gofynion y cynhyrchiad
- gosod y cyfarpar presio yn ddiogel heb fod yn y ffordd
- sicrhau bod gosodiadau'r cyfarpar yn briodol ar gyfer yr eitem rydych yn ei bresio
- adnabod y technegau gofynnol ar gyfer y wisg a gofynion y cynhyrchiad
- dewis a defnyddio gwahanol ategolion presio fel byrddau smwddio llewys a phadiau
- ystyried y fformat camera gaiff ei ddefnyddio a dyluniad y saethiad
- dewis a defnyddio cynnyrch i gynorthwyo gyda phresio fel chwistrellau startsh
- cydymffurfio gyda'r rheoliadau COSHH (Rheoli Sylweddau sy'n Beryglus i Iechyd) pan fyddwch yn defnyddio cyfarpar a/neu gynnyrch presio
- cydymffurfio gyda rheolau cyfrinachedd y cynhyrchiad
- cyfathrebu'n effeithiol gyda staff y cynhyrchiad ac adrannau neu unigolion perthnasol eraill
- cydymffurfio gyda'r deddfwriaethau, y polisïau a'r canllawiau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gofynion y cynhyrchiad a'r gwisgoedd
- sut i osod, dodi a gweithredu cyfarpar yn ddiogel
- technegau smwddio a phresio
- sut i ddefnyddio gosodiadau presio neu thermostat cywir
- ystyr labeli a symbolau gofal
- y gwahanol ddyfeisiau sydd ar gael i bresio a smwddio gwisgoedd
- effaith gwahanol dechnegau presio ar yr eitemau gaiff eu presio
- pryd i beidio â phresio / smwddio oherwydd 'edrychiad' y cyfnod/ffurf
- y gwahanol ategolion a'r cynnyrch sydd ar gael a phryd i'w defnyddio nhw h.y. byrddau smwddio llewys, padiau, chwistrellau startsh ac ati.
yr unigolyn perthnasol i gyfathrebu ag ef/hi er mwyn sicrhau bod y gofynion yn cael eu bodloni
rheolau cyfrinachedd y cynhyrchiad
- staff y cynhyrchiad a'r adrannau ynghlwm ynghyd â'r protocol cyfathrebu
- cyfrifoldebau statudol ynghlwm â'r deddfwriaethau iechyd, diogelwch, COSHH ac amgylcheddol