Trwsio ac addasu gwisgoedd ar y set

URN: SKSQ17
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gwisgoedd
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 2021

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â'ch gallu i addasu a thrwsio gwisgoedd ar y set. Caiff y gwaith ei gyflawni gyda llaw gan amlaf ac mae fel arfer yn ddull "trwsio cyflym" dros dro. Gallai ymwneud ag adnabod gwaith addasu gofynnol, cadarnhau tarddiad a chaniatâd y gwisgoedd, cyflawni'r gwaith addasu ar y set a chydymffurfio gyda'r arferion a'r moesau ar y set.

Mae'n debyg y byddai'r safon hon yn berthnasol i oruchwylwyr gwisgoedd, cynorthwywyr gwisgoedd, gweithwyr gwisgoedd wrth gefn a chynorthwywyr wardrob.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. adnabod y gwaith trwsio neu addasu gofynnol
  2. gwirio a chadarnhau tarddiad / cyflenwr y wisg
  3. cadarnhau bod y cyflenwr yn caniatáu'r gwaith addasu/trwsio  
  4. pennu natur a graddfa'r gwaith addasu/trwsio  
  5. dewis a defnyddio'r technegau priodol i gyflawni'r gwaith addasu/trwsio
  6. cyflawni'r gwaith addasu/trwsio ar y set gan ddwyn i ystyriaeth ansawdd,  dilyniant a'r cyfyngiadau amser
  7. cadarnhau bod y gwaith addasu/trwsio wedi'i gyflawni a rhoi gwybod am unrhyw gyfarwyddiadau penodol
  8. cydymffurfio gyda'r arferion ar y set
  9. cofnodi'r gwaith addasu/trwsio a chwblhau'r dogfennau angenrheidiol
  10. dychwelyd y wisg wedi'i haddasu/ei thrwsio fel sy'n ofynnol
  11. cydymffurfio gyda rheolau cyfrinachedd y cynhyrchiad
  12. cyfathrebu'n effeithiol gyda staff y cynhyrchiad ac adrannau neu unigolion perthnasol eraill
  13. cydymffurfio gyda'r ddeddfwriaeth a'r canllawiau iechyd a diogelwch bob amser

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. gofynion ac amserlen y cynhyrchiad
  2. tarddiad y gwisgoedd ac unrhyw ganiatâd angenrheidiol
  3. sut i asesu'r difrod i wisgoedd a phennu'r gwaith addasu / trwsio gofynnol
  4. gwahanol ddulliau o drwsio ac addasu h.y. gludo, pinio a gwnïo
  5. dulliau a thechnegau addasu/trwsio ar frys
  6. sut i gyflawni gwaith addasu/trwsio'n gyflym gyda chyn lleied o amhariad â phosib
  7. diffygion gwisgoedd a ffitiau ynghyd â'r dulliau cywiro
  8. sut i ddefnyddio offer, cyfarpar a deunyddiau'n ddiogel
  9. sut i gael gwared ar ddeunyddiau peryglus
  10. y cofnodion a'r union fanylion gofynnol
  11. lle i storio'r wybodaeth rydych wedi'i chofnodi
  12. rheolau cyfrinachedd y cynhyrchiad
  13. y protocol cyfathrebu gyda staff y cynhyrchiad ac adrannau neu unigolion perthnasol eraill
  14. cyfrifoldebau statudol ynghlwm â'r deddfwriaethau a'r rheoliadau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSQ27

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig a Galwedigaethau Technegol, Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â’r Cyfryngau

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

Gwisg; wardrob; addasiadau; trwsio; gwnïo; wedi’u llogi