Cynnal a chadw a gwasanaethu gwisgoedd
URN: SKSQ16
Sectorau Busnes (Suites): Gwisgoedd
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
30 Maw 2021
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â'ch gallu i gynnal a chadw a gwasanaethu gwisgoedd a gofalu eu bod yn lân ac mewn cyflwr da cyn ac yn ystod cynyrchiadau.
Gallai hyn ymwneud ag adnabod y technegau cynnal a chadw cywir, gwirio a thrwsio gwisgoedd, cadw cofnodion manwl gywir a pherthnasol, labelu'r gwisgoedd a storio a diogelu'r gwisgoedd rhag unrhyw ddifrod.
Mae'n debyg y byddai'r safon hon yn berthnasol i oruchwylwyr gwisgoedd, cynorthwywyr gwisgoedd, gweithwyr gwisgoedd wrth gefn a chynorthwywyr wardrob.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- archwilio gwisgoedd ac asesu eu cyflwr
- adnabod unrhyw waith trwsio, addasu neu welliannau gofynnol a chytuno arnyn nhw gyda'r person / pobl berthnasol
- cynnal gwaith gwnïo ac addasu sylfaenol a chofnodi trwsiadau ac addasiadau sy'n fwy cymhleth
- labelu a chyflwyno'r gwisgoedd a'r cyfarwyddiadau gwaith gofynnol i'r person perthnasol
- archwilio eitemau caiff eu dychwelyd wedi iddyn nhw gael eu haddasu/eu trwsio a sicrhau eu bod yn bodloni'r safon a'r cyfarwyddiadau gofynnol
- dewis dulliau cynnal a chadw sy'n addas ar gyfer deunyddiau ac addurniadau'r gwisgoedd
- pennu a chytuno ar y dewis mwyaf addas ar gyfer ymdrin â gwisgoedd sy'n anymarferol i'w gwasanaethu
- gwirio'r cyfarwyddyd dylunio ar gyfer gofynion gwasanaethu datganedig y gwisgoedd a gwasanaethu'r gwisgoedd yn unol â hynny
- gwirio telerau'r cytundeb os ydych chi'n llogi gwisgoedd gan gwmni arall a gwasanaethu'r gwisgoedd yn unol â hynny
- nodi a chofnodi unrhyw ddifrod damweiniol i wisgoedd pan fyddwch yn cyflawni gwaith gwasanaethu
- gofyn am gyngor person / pobl berthnasol os caiff gwisgoedd eu difrodi yn ystod gwaith gwasanaethu
- ail-labelu gwisgoedd wedi'u gwasanaethu gyda'r wybodaeth berthnasol
- storio'r eitemau wedi'u gwasanaethu a sicrhau eu bod yn barod er mwyn bodloni gofynion y cynhyrchiad
- sicrhau bod y gwisgoedd yn ddiogel, wedi'u cadw o dan amodau priodol ac wedi'u diogelu pan na fyddwch chi'n eu defnyddio
- cydymffurfio gyda rheolau a gofynion cyfrinachedd y cynhyrchiad
- cyfathrebu gyda staff y cynhyrchiad ac adrannau neu unigolion perthnasol eraill
- cydymffurfio gyda'r ddeddfwriaeth a'r canllawiau iechyd a diogelwch bob
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gofynion gwisgoedd y cynhyrchiad, y cyfyngiadau amser ac amserlen y cynhyrchiad
- gweithrediadau a gweithdrefnau'r ystafell stoc
- amodau storio a diogelu gwisgoedd a'r technegau storio
- tasgau gwnïo, cynnal a chadw a gwasanaethu sylfaenol
- gweithdrefnau ar gyfer gwaith trwsio neu addasu cymhleth
- y mathau o ddeunyddiau gaiff eu defnyddio'n gyffredin i greu ac addurno gwisgoedd ynghyd ag eiddilwch pob deunydd yn berthnasol i driniaethau gwasanaethu
- gofynion dilyniant y cynhyrchiad
- cofnodion a labeli'r gwisgoedd, yr wybodaeth ofynnol o ran cytundebau pan fyddwch yn llogi gan gwmnïau
- gofynion deddfwriaethol, rheoleiddiol a chyfundrefnol o ran defnyddio a thrin cyfarpar a chyfryngau gwasanaethu'n ddiogel
- rheolau a gofynion cyfrinachedd y cynhyrchiad
- staff y cynhyrchiad ac adrannau perthnasol eraill ynghlwm â'r cynhyrchiad a'r protocol cyfathrebu
- cyfrifoldebau statudol ynghlwm â'r deddfwriaethau a'r rheoliadau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2025
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSQ11
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig a Galwedigaethau Technegol, Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â’r Cyfryngau
Cod SOC
3417
Geiriau Allweddol
Gwisg; wardrob; cynnal; gwasanaethu; cyflwr; cynhyrchiad; trwsio; cofnodion; labelu; storio; diogelu; difrod