Storio, diogelu, pacio ac olrhain gwisgoedd

URN: SKSQ15
Sectorau Busnes (Suites): Gwisgoedd
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â'ch gallu i drefnu a rheoli storio, cludo a symud gwisgoedd.

Gallai hyn ymwneud â nodi'r gofynion ar gyfer mannau storio a gwasanaethu gwisgoedd, derbyn gwisgoedd, neilltuo mannau storio dynodedig, nodi anghenion cludo, gofalu bod y gwisgoedd yn ddiogel pan gân nhw eu cludo a chadw cofnodion. 

Mae'n debyg y byddai'r safon hon yn berthnasol i reolwr gwisgoedd, staff ystafelloedd stoc, cynorthwywyr gwisgoedd, goruchwylwyr gwisgoedd neu gynorthwywyr wardrob.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. adnabod a chynnal amodau priodol ar gyfer storio gwisgoedd
  2. sicrhau caiff gwisgoedd eu diogelu rhag difrod drwy ddefnyddio gorchuddion amddiffyn a'r cyfleusterau storio priodol
  3. archwilio gwisgoedd wedi'u dychwelyd ac adrodd am broblemau cyn storio'r eitem unwaith eto  
  4. labelu a chofnodi gwisgoedd gyda'r wybodaeth berthnasol
  5. gosod labeli neu dagiau yn sownd ac yn y mannau cywir
  6. archwilio gwisgoedd wedi'u storio'n rheolaidd er arwyddion o ddirywiadau neu eitemau coll a diweddaru'r dogfennau yn unol â hynny
  7. cyfathrebu gyda'r personél perthnasol a chytuno ar ddatrysiadau addas pan fo diffygion o ran mannau storio neu ddiogelwch
  8. adnabod a chyd-gasglu gwisgoedd yn barod i'w hanfon
  9. adnabod y lleoliad danfon a phroblemau danfon arfaethedig 
  10. pacio gwisgoedd yn ddiogel a sicrhau eu bod yn ddiogel pan gân nhw eu cludo
  11. trefnu cludiant addas i'r gwisgoedd o ran maint a math
  12. labelu'r pecynnau gyda'r cyfeiriad danfon a gwybodaeth yr anfonwr
  13. cwblhau'r dogfennau anfon perthnasol
  14. llunio a chynnal cofnodion ynghylch cludo, danfon a dychwelyd gwisgoedd
  15. sicrhau bod y polisïau yswiriant perthnasol ar waith
  16. cydnabod, cofnodi ac archwilio problemau wnaeth godi yn ystod cludo'r gwisgoedd, nodi a chofnodi'r gweithrediadau y cytunwyd arnyn nhw  
  17. cyfathrebu gyda'r staff cynhyrchu ac adrannau neu unigolion perthnasol eraill
  18. cydymffurfio gyda'r ddeddfwriaeth a'r canllawiau iechyd a diogelwch bob amser

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. cyfyngiadau amser amserlen y cynhyrchiad
  2. gofynion y gwisgoedd a'r lleoliad a'r raddfa amser perthnasol
  3. gofynion storio'r gwisgoedd a'r cyfleusterau sydd ar gael  
  4. y person perthnasol i gytuno ar welliannau a datrysiadau addas gyda nhw pan fo cyfleusterau storio a diogelwch yn annigonol
  5. gofynion labelu gwisgoedd a'r canlyniadau yn sgil labelu anghywir
  6. problemau diogelwch arfaethedig a'r gweithrediadau atal
  7. sut i lunio cofnodion eglur ynghylch storio a chludo gwisgoedd
  8. pacio a pharatoi gwisgoedd i'w cludo
  9. gofynion logisteg a chludo ar gyfer gwisgoedd
  10. gweithdrefnau dychwelyd gwisgoedd
  11. problemau posib cyn, yn ystod ac wedi cludo gwisgoedd
  12. gofynion yswiriant
  13. y protocol cyfathrebu gyda staff y cynhyrchiad ac adrannau neu unigolion perthnasol eraill
  14. y ddeddfwriaeth a’r
    rheoliadau iechyd a diogelwch ynghyd â chodau ymarfer

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSQ13

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig a Galwedigaethau Technegol, Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â’r Cyfryngau

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

Gwisg; wardrob; rheoli; storio; olrhain; storio; diogelu; cynhyrchiad; gofynion; deddfwriaethol; rheoleiddiol; cludiant; amserlen; diogelwch; cludo; cofnodion