Derbyn a chyflawni archebion am wisgoedd
URN: SKSQ14
Sectorau Busnes (Suites): Gwisgoedd
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
2021
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â'ch gallu i dderbyn a chyflawni archebion am wisgoedd mewn tŷ gwisgoedd neu ystafell stoc fewnol. Gallai ymwneud â dewis gwisgoedd ac ategolion i gyflawni archebion, gwneud cofnod pan fo rhywun yn archebu ac yn dychwelyd y gwisgoedd, cynllunio archebion a chadw cofnodion, defnyddio'r stoc sydd ar gael mewn ffordd effeithlon a labelu a phacio'r gwisgoedd.
Mae'n debyg y byddai'r safon hon yn berthnasol i reolwyr ystafelloedd stoc gwisgoedd, cynorthwywyr gwisgoedd neu staff ystafelloedd stoc.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cydweithio gyda'r dylunydd, y goruchwyliwr gwisgoedd neu'r tîm cynhyrchu i adnabod y gwisgoedd gofynnol
- adnabod y dechnoleg gaiff ei defnyddio yn y cynhyrchiad a allai effeithio ar y gwisgoedd
- cynllunio a chadarnhau'r cyllidebau a'r graddfeydd amser yn ymwneud â gofynion y gwisgoedd
- dewis a chydosod gwisgoedd ac ategolion priodol i gyflawni gofynion yr archeb
- cadarnhau bod y gwisgoedd a'r ategolion sydd wedi'u cydosod yn bodloni gofynion yr archeb
- adnabod a chofnodi trwsiadau, gwelliannau neu addasiadau gofynnol
- adnabod gofynion ynghlwm â lluosrifau o'r un gwisgoedd
- cadarnhau'r costau ynghlwm â llogi gwisgoedd, gan gynnwys costau difrod a thrwsio a dirwyon
- asesu a chofnodi cyflwr gwisgoedd ac ategolion cyn i bobl eu llogi
- cydymffurfio gydag amodau a thelerau pan fyddwch yn anfon neu'n derbyn nwyddau
- cofnodi, labelu a phacio gwisgoedd i'w llogi a'u hanfon
- derbyn eitemau wedi'u dychwelyd a gwirio'r eitemau hynny o gymharu â'r cofnodion
- gosod a rhoi nwyddau tagio Kimble yn gywir ac yn ddiogel yn y mannau priodol
- archwilio gwisgoedd wedi'u dychwelyd am unrhyw ddifrod
- cyflawni'r gweithrediadau y cytunwyd arnyn nhw pan gaiff eitemau eu dychwelyd wedi'u difrodi
- labelu gwisgoedd gyda'r manylion perthnasol a'u cyflwyno ar gyfer eu trwsio
- adnabod, categoreiddio a threfnu eitemau i'w glanhau
- gwirio bod gwisgoedd wedi'u dychwelyd, eu trwsio a'u glanhau fel eu bod mewn cyflwr addas i'w storio
- storio gwisgoedd wedi'u dychwelyd yn y man dynodedig
- cydymffurfio gyda'r rheolau a'r gofynion cyfrinachedd
- cyfathrebu'n eglur gyda chydweithwyr a chleientiaid bob amser
- cydymffurfio gyda'r rheolau a'r rheoliadau iechyd a diogelwch bob amser
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. steiliau gwisgoedd ac edrychiadau cyffredinol gwahanol ffurfiau a chyfnodau hanesyddol 2. y cyfarwyddyd dylunio a gofynion y cynhyrchiad 3. yr ystod o wisgoedd mewn stoc 4. graddfeydd amser a'r amserlenni yn ymwneud â gofynion gwisgoedd 5. effaith technoleg, mewn cynyrchiadau ffilm a theledu, ar wisgoedd 6. sut i gydosod gwisgoedd ar gyfer archeb 7. systemau archebu gwisgoedd 8. prosesu archebion gwisgoedd a'r cofnodion angenrheidiol 9. amodau a thelerau yn ymwneud â llogi a dychwelyd gwisgoedd 10. prosesau cynnal a chadw gwisgoedd 11. gwybodaeth ofynnol ar labeli a'r gweithdrefnau pacio diogel 12. ymwybyddiaeth o gostau, gan gynnwys y costau ynghlwm ag unrhyw ddifrod, costau trwsio a dirwyon 13. rheolau a'r gofynion o ran cyfrinachedd 14. y protocol cyfathrebu gyda chleientiaid, staff y cynhyrchiad a chydweithwyr 15. cyfrifoldebau statudol ynghlwm â'r deddfwriaethau a'r rheoliadau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol |
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2025
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSQ16
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig a Galwedigaethau Technegol, Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â’r Cyfryngau
Cod SOC
3417
Geiriau Allweddol
archebion gwisgoedd; cofnod; label; pacio; system archebu; llogi a dychwelyd gwisgoedd