Goruchwylio a chynnal dilyniant y gwisgoedd
URN: SKSQ13
Sectorau Busnes (Suites): Gwisgoedd
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
30 Maw 2021
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â'ch gallu i reoli a goruchwylio dilyniant y gwisgoedd. Gallai ymwneud â sicrhau bod gwisgoedd yn cydymffurfio gyda'r cyfarwyddyd dylunio ar gychwyn saethiad, rheoli cydweithwyr iau, gosod a chynnal gwybodaeth dilyniant, sicrhau bod gwisgoedd yn ymddangos fel yr oedden nhw ar ddiwedd tro blaenorol, gweithredu camau adfer pan fo digwyddiadau wedi neu heb eu sgriptio'n digwydd, cyflwyno a chytuno ar weithrediadau gyda'r gwneuthurwyr penderfyniadau a gwirio cofnodion dilyniant sydd wedi'u cwblhau.
Mae’n debyg y byddai’r safon hon yn berthnasol i oruchwylwyr neu reolwyr gwisgoedd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- adolygu sgript, amserlen, cyfarwyddyd dylunio a dadansoddiad gwisgoedd y cynhyrchiad
- sicrhau bod y gwisgoedd a'r ategolion yn cydymffurfio gyda'r edrychiad cyffredinol sy'n ofynnol
- llunio cynllun ar ddilyniant gwisgoedd
- gwirio gwedd perfformwyr o gymharu gyda dadansoddiad dilyniant y gwisgoedd
- sefydlu, rhannu a chynnal y broses cofnodi dilyniant
- cymeradwyo gwisgoedd y perfformwyr ar gychwyn saethiadau
- monitro gwisgoedd y perfformwyr drwy gydol y cynhyrchiad
- gofalu bod y wisg ar gychwyn tro newydd yn ymddangos yr un fath â'r wisg ar ddiwedd y tro blaenorol
- amcan digwyddiadau sydd wedi a heb eu sgriptio a allai effeithio ar wisgoedd y perfformwyr
- cadarnhau newidiadau gofynnol i wisgoedd yn sgil digwyddiadau heb eu sgriptio yn ystod saethu
- sicrhau caiff newidiadau eu cymeradwyo a'u gweithredu yn unol â'r sgript
- cydymffurfio gyda'r arferion ar y set pan fyddwch yn cynnal dilyniant gan gynnwys rheolau yn ymwneud â defnyddio ffonau symudol neu ddulliau cyfathrebu eraill
- cyfarwyddo'r staff ar y cynhyrchiad, yr arferion ar y set a'r prosesau dilyniant
- cynnig adnoddau digonol ar gyfer llunio cofnodion dilyniant dibynadwy cyn cychwyn, a drwy gydol, y saethiad
- monitro dilyniant ar y set drwy gydol y cynhyrchiad
- sicrhau caiff gwybodaeth dilyniant ei chasglu'n brydlon heb ymyrraeth
- cadarnhau bod y manylion dilyniant gan ffynonellau dibynadwy pan na fyddwch yn bresennol ar gyfer tro
- gwirio a chymeradwyo cofnodion dilyniant y gwisgoedd sydd wedi'u cwblhau
- sicrhau bod modd i chi a'r staff perthnasol fwrw golwg ar y cofnodion
- sicrhau bod pawb yn
cydymffurfio gyda’r rheolau a’r gweithdrefnau cyfrinachedd - cyfathrebu'n effeithiol gyda staff y cynhyrchiad ac adrannau neu unigolion perthnasol eraill
- cydymffurfio gyda'r ddeddfwriaeth a'r canllawiau iechyd a diogelwch bob amser
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sgript, amserlen, cyfarwyddyd dylunio a dadansoddiad gwisgoedd y cynhyrchiad ynghyd â'r goblygiadau dilyniant
- llunio, ffurfio a chynnal gwybodaeth dilyniant
- asesu edrychiad gwisgoedd drwy gydol y cynhyrchiad
- sut i adnabod a rhagweld digwyddiadau sydd wedi a heb eu sgriptio a allai effeithio ar ofynion y gwisgoedd neu gyflwr y gwisgoedd
- sut i roi gwybod am newidiadau i wisgoedd a sut i'w cyflawni
- ymddygiad ac arferion ar y set
- adnoddau a'r cyfarpar cofnodi
- dulliau i gofnodi a chynnal manylion dilyniant
- sut i gyflwyno cyfarwyddiadau ac arweiniad i gydweithwyr iau
- rheolau a'r gweithdrefnau cyfrinachedd
- staff cynhyrchu a'r adrannau ynghlwm ynghyd â'r protocol cyfathrebu
- cyfrifoldebau statudol ynghlwm â'r deddfwriaethau a'r rheoliadau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2025
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSQ19
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig a Galwedigaethau Technegol, Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â’r Cyfryngau
Cod SOC
3417
Geiriau Allweddol
Gwisg; wardrob; goruchwylio; cynnal; dilyniant; manylebau; saethiad; ymwybyddiaeth; cydweithwyr; dilyniannol; tro; golwg; wedi’i sgriptio; heb ei sgriptio; digwyddiadau; cofnodion