Cynorthwyo gyda dilyniant y gwisgoedd
URN: SKSQ12
Sectorau Busnes (Suites): Gwisgoedd
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
30 Maw 2021
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â'ch gallu i gynorthwyo gyda dilyniant y gwisgoedd a sicrhau caiff dilyniant ei gynnal yn gyson ar y set.
* *
Gallai hyn ymwneud â sicrhau bod y gwisgoedd yn cyd-fynd gyda'r fanyleb dylunio drwy gydol y saethiad, sicrhau bod gwisgoedd y perfformwyr yn gyson gyda'r tro blaenorol dilyniannol, cytuno ar addasiadau yn sgil digwyddiadau heb eu sgriptio yn ystod saethu, sicrhau cyn lleied â phosib o amhariadau i amserlen y cynhyrchiad a chadw cofnodion dilyniant manwl gywir.
Mae'n debyg y byddai'r safon hon yn berthnasol i oruchwylwyr gwisgoedd, gweithwyr gwisgoedd wrth gefn a chynorthwywyr wardrob.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwirio gwisgoedd y perfformwyr o gymharu â dadansoddiad y gwisgoedd
- sicrhau bod gwisgoedd y perfformwyr yn bodloni'r cyfarwyddyd dylunio cyn cychwyn saethu a hefyd yn cyd-fynd â'r tro blaenorol dilyniannol
- sicrhau nad ydy gwisg y perfformiwr wedi'i golli neu ei ddifrodi erbyn diwedd y saethiad a'i bod yn dal i fodloni'r cyfarwyddyd dylunio
- talu sylw i fanylion y wisg drwy gydol y saethiad a'i diwygio os oes angen
- cytuno ar newidiadau pan mae angen altro'r wisg yn sgil digwyddiadau heb eu sgriptio yn ystod y saethiad
- ymgynghori gyda'r person / pobl berthnasol i adnabod yr adnoddau a'r cyfarpar priodol i gofnodi dilyniant
- lleihau amhariad ar amserlen y cynhyrchiad pan fyddwch yn gwisgo neu'n ail-wisgo perfformwyr i sicrhau bod dilyniant
- cydymffurfio gyda'r arferion ar y set wrth gynnal dilyniant gan gynnwys rheolau ynghylch defnyddio ffonau symudol neu ddulliau cyfathrebu eraill
- caffael a chofnodi gwybodaeth dilyniant gan ffynonellau perthnasol pan na fyddwch yn bresennol ar gyfer tro
- cofnodi manylion gwigoedd perthnasol yn defnyddio adnoddau digidol pan fo'n bosib
- ymgynghori gyda'r goruchwyliwr ynghylch y gweithrediadau priodol pan fo effeithiau arbennig yn peri trafferthion iechyd a diogelwch
- cydymffurfio gyda rheolau a gweithdrefnau cyfrinachedd y cynhyrchiad
- cadw cofnodion cyflawn, diweddar, cywir a hygyrch o fanylion dilyniant gwisgoedd
- cyfathrebu'n eglur gyda staff y cynhyrchiad ac adrannau neu unigolion perthnasol eraill
- cydymffurfio gyda'r ddeddfwriaeth a'r canllawiau iechyd a diogelwch bob amser
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gofynion o ran gwisgoedd y cyfarwyddyd dylunio
- sut i wirio gwisg y perfformwyr o gymharu gyda'r cyfarwyddyd
- gweithdrefnau arferion 'ar set' y diwydiant
- y person perthnasol i wirio cynnal dilyniant / neu gytuno ar newidiadau i wisgoedd gyda nhw
- sut i fonitro newidiadau i sgriptiau ac asesu effaith posib hyn ar ofynion y gwisgoedd
- dulliau ar gyfer cofnodi a storio gwybodaeth dilyniant
- sut i dynnu lluniau neu fideos sy'n cofnodi manylion gwisgoedd
- mynediad i'r cofnodion dilyniant blaenorol neu gyfredol
- gweithdrefnau a rheolau cyfrinachedd y cynhyrchiad
- protocol cyfathrebu'r cynhyrchiad
- cyfrifoldebau statudol ynghlwm â'r deddfwriaethau a'r rheoliadau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2025
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSQ18
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig a Galwedigaethau Technegol, Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â’r Cyfryngau
Cod SOC
3417
Geiriau Allweddol
Gwisg; wardrob; cynorthwyo; cyfrannu; dilyniant; cydweddu; dylunio; perfformiwr; gwisgo; saethiad; dilyniannol; tro; addasiadau; heb eu sgriptio; digwyddiadau; saethu; cynhyrchiad; amserlen; cywir; cofnodion