Cynorthwyo gyda gwisgo gefeilliaid styntiau
URN: SKSQ11
Sectorau Busnes (Suites): Gwisgoedd
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
2021
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â'ch gallu i ymgyfuno a chydweddu gwisgoedd styntiau gyda gwisgoedd arferol pan fyddwch yn gwisgo'r perfformwyr. Gallai ymwneud â ffitio gwisgoedd styntiau, cyfarwyddo'r perfformwyr ynghylch diben a defnydd y gwisgoedd styntiau a chadarnhau bod yr agweddau iechyd a diogelwch wedi'u bodloni gyda'r bobl berthnasol.
Mae'n debyg y byddai'r safon hon yn berthnasol i oruchwylwyr gwisgoedd, cynorthwywyr gwisgoedd, gweithwyr gwisgoedd wrth gefn a chynorthwywyr wardrob.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- adnabod gofynion y cynhyrchiad yn ymwneud â gwisgoedd styntiau
- adolygu asesiadau risg a'r cyfarwyddiadau iechyd a diogelwch
- cyfathrebu gyda chydlynwyr gweithrediadau styntiau ac adnabod gofynion penodol gwisgoedd styntiau
- sicrhau bod y gwisgoedd styntiau'n ddiogel ac wedi'u gweithredu'n gywir
- cydweithio gyda'r adran styntiau i gyfarwyddo'r perfformiwr ynghylch y wisg styntiau gofynnol
- cytuno ar ffyrdd priodol o guddio gwisgoedd ac ategolion styntiau
- gweithredu a gwirio rigio ar wisgoedd / effeithiau arbennig pan fyddwch yn gwisgo'r perfformwyr a'u tynnu pan fyddwch yn tynnu'r wisg oddi ar y perfformwyr
- sicrhau bod y gwisgoedd o'r maint cywir ar gyfer y gefell styntiau a'u bod yn addas i'w gwisgo am ben y gwisgoedd styntiau
- gwirio bod manylion y wisg styntiau'r un fath â'r wisg wreiddiol a'i diwygio os oes angen
- cynorthwyo'r perfformiwr i wisgo a thynnu eu gwisg
- cyd-drefnu'r wisg styntiau gyda'r wisg arferol a'i roi am y perfformiwr
- sicrhau bod y perfformwyr yn gyfforddus ac yn gallu symud yn ystwyth yn y wisg a
- cadarnhau oes angen dyblygu unrhyw wisgoedd neu eitemau
- gwirio faint o weithiau y mae disgwyl i'r perfformiwr newid eu gwisg
- adnabod a datrys unrhyw drafferthion gyda'r wisg arferol a'r wisg styntiau
- paratoi newid gwisgoedd gan ddwyn i ystyriaeth amserlen y perfformiad a'r amser sydd ar gael i berfformwyr allu newid
- trefnu amser newid ychwanegol lle'n briodol
- cofnodi eitemau coll ar unwaith
- sicrhau caiff gwisgoedd eu storio'n gywir a'u diogelu yn ystod egwylion y cynhyrchiad
- adrodd am unrhyw waith gwasanaethu neu drwsio angenrheidiol cyn defnydd nesaf y wisg
- cydymffurfio gyda rheolau cyfrinachedd y cynhyrchiad
- cyfathrebu gyda gweddill staff y cynhyrchiad ac adrannau neu unigolion perthnasol eraill
- cydymffurfio gyda'r deddfwriaethau, polisïau a'r canllawiau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- cyfrifoldebau iechyd a diogelwch yr adran styntiau
- eich cyfrifoldebau iechyd a diogelwch personol chi
- gofynion ac amserlen gwisgoedd y cynhyrchiad
- asesiadau risg a'u gofynion
- sut i drin a gweithio gyda gwisgoedd styntiau heb beryglu diogelwch unrhyw un
- pwysigrwydd ymdrin â gwisgoedd styntiau rydych wedi eich hyfforddi i ymdrin â nhw yn unig
- gofynion o ran gwisgoedd y cyfarwyddyd dylunio
- y gwisgoedd lluosog neu'r eitemau gofynnol
- maint yr efell styntiau o gymharu gyda maint y perfformiwr
- trafferthion cyffredin yn ymwneud â'r gwisgoedd ynghyd â'r datrysiadau arfaethedig
- y gweithrediadau priodol pan fo gwisgoedd wedi'u difrodi
- gofynion o ran gwisgo a thynnu'r gwisgoedd
- technegau i guddio gwisgoedd ac ategolion styntiau
- cyfyngiadau amser amserlen y cynhyrchiad
- y nifer o newidiadau gwisgoedd a'r ategolion gofynnol
- difrod arfaethedig i wisgoedd yn ystod styntiau
- rheolau cyfrinachedd y cynhyrchiad
- staff cynhyrchu a'r adrannau ynghlwm ynghyd â'r protocol cyfathrebu
- cyfrifoldebau statudol ynghlwm â'r ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2025
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSQ25
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig a Galwedigaethau Technegol, Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â’r Cyfryngau
Cod SOC
3417
Geiriau Allweddol
Gwisg; wardrob; gwisgo; stynt; gefeilliaid; perfformwyr; cyd-drefnu; cyfarwyddyd; iechyd; diogelwch;