Cynorthwyo gyda gwisgoedd ar y set
URN: SKSQ10
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gwisgoedd
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
2021
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â'ch gallu i gefnogi a chynorthwyo gyda dilyniant. Gallai hyn ymwneud â chynnig cymorth wrth gefn gyda gwisgoedd yn ystod saethiad, cydymffurfio gyda'r arferion ar y set, cydosod pecyn gweithio priodol a chynorthwyo gyda threfnu'r gwisgoedd.
Mae'n debyg y byddai'r safon hon yn berthnasol i oruchwylwyr gwisgoedd, cynorthwywyr gwisgoedd, gweithwyr gwisgoedd wrth gefn, cynorthwywyr wardrob a gwneuthurwyr gwisgoedd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwirio a chadarnhau gofynion y cynhyrchiad gan gynnwys trefn y cynhyrchiad, y taflenni galwadau a'r amserlen
- dod o hyd i wisgoedd a sicrhau eu bod wedi gosod yn y man priodol i'r perfformwyr allu eu cyrraedd yn ddidrafferth
- cydosod pecyn gwaith effeithiol
- adnabod y lleoliad, y tywydd disgwyliedig a'r dillad gwaith priodol fel dillad dal dŵr a dillad cynnes
- cynorthwyo gyda'r dillad a'r ategolion ar gyfer perfformwyr wrth gefn
- cydymffurfio gyda'r arferion ar y set gan gynnwys rheolau ynghylch defnyddio ffonau symudol neu ddulliau cyfathrebu eraill
- sicrhau bod man cyfleus ar gyfer newid gwisgoedd
- cynorthwyo gyda gwisgo perfformwyr a'u cynghori ar sut i ddodi a gwisgo gwisgoedd
- cyfathrebu gydag adrannau eraill a allai effeithio ar y gwisgoedd fel yr adran gwallt a cholur
- gosod microffonau radio effeithiau arbennig o'r golwg ac yn ddiogel
- goruchwylio manylion a dilyniant gwisgoedd ac addasu'r gwisgoedd ar y perfformwyr pan fo'n briodol
- monitro'r gwisgoedd am unrhyw ddifrod ac, os yn bosib, mynd ati i addasu'r gwisgoedd yn gynnil pan fo'n briodol
- monitro 'edrychiad' y wisg a'i haddasu'n gynnil pan fo'n briodol
- cynnal gwaith addasu a thrwsio munud olaf ac adnabod dillad sydd angen gwaith trwsio cymhleth neu driniaeth arbenigol
- rheoli a chofnodi dosbarthu a chasglu ategolion
- cydweithio gydag adrannau eraill fel rhan o dîm
- cydymffurfio gyda rheolau cyfrinachedd y cynhyrchiad
- cyfathrebu'n effeithiol gyda staff y cynhyrchiad ac adrannau neu unigolion perthnasol eraill
- cydymffurfio gyda'r deddfwriaethau, polisïau a'r canllawiau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- amserlen / dilyniant / trefn / taflenni galwadau'r cynhyrchiad
- yr eitemau gofynnol ar gyfer pecyn gwaith effeithiol
- arferion gofynnol wrth weithio ar y set
- sut i osod microffonau radio effeithiau arbennig
- effaith adrannau eraill ar y gwisgoedd h.y. gwallt, colur, styntiau, sain
- rheolau cysylltiedig â'r defnydd o ffonau symudol neu ddulliau cyfathrebu eraill
- sut i fanteisio ar ragolygon y tywydd pan fyddwch ar leoliad a dewis dillad ac ategolion priodol ar gyfer perfformwyr sydd wrth gefn
- technegau trwsio ac addasu sylfaenol
- sut i ddodi a gwisgo gwisgoedd a sut i rannu'r cyngor gydag eraill
- ymwybyddiaeth o effeithiau unrhyw amhariadau yn ystod saethiad
- rheolau a chymalau cyfrinachedd y cynhyrchiad
- staff y cynhyrchiad a'r adrannau ynghlwm ynghyd â'r protocol cyfathrebu
- cyfrifoldebau statudol ynghlwm â'r deddfwriaethau iechyd, diogelwch, COSHH ac amgylcheddol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2025
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSQ24
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig a Galwedigaethau Technegol, Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â’r Cyfryngau
Cod SOC
3417
Geiriau Allweddol
Gwisg; wardrob; cynorthwyo; ar y set; wrth gefn; saethiad; arferion a moesau; pecyn gwaith; trefnu; trwsiadau; addasiadau; dilyniant; dillad cynnes; dillad; hetiau; menig; ategolion; cofnodi; gemwaith; perfformwyr