Ymchwilio’r cysyniad dylunio gwisgoedd

URN: SKSQ1
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gwisgoedd
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 2020

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â'ch gallu i ymchwilio agweddau creadigol, agweddau ymarferol a dichonoldeb syniad neu gysyniad i lywio gwaith dylunio gwisgoedd.

Gallai ymwneud â deall gofynion y cynhyrchiad, ymchwilio'r dyluniad arfaethedig, manteisio ar amryw ffynonellau, archwilio agweddau ymarferol y dyluniad, gwirio ydy'r adnoddau priodol ar gael a datblygu'r cysyniad dylunio.

Mae'n debyg y byddai'r safon hon yn berthnasol i ddylunwyr, goruchwylwyr a rheolwyr gwisgoedd, cynorthwywyr gwisgoedd, gwneuthurwyr gwisgoedd a chynorthwywyr wardrob.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​dadansoddi a dewis strategaethau ymchwil effeithiol
  2. asesu graddfa a'r math o gynhyrchiad ynghyd â'i arddull weledol cyffredinol
  3. ymchwilio yn unol â'r cyfarwyddyd a gofynion y cynhyrchiad
  4. casglu a chydgasglu gwybodaeth am gyfnod neu ffurf y cynhyrchiad
  5. adnabod dewisiadau creadigol y cyfarwyddwr a'r perfformwyr
  6. cydnabod syniadau'r perfformwyr am y cymeriad a'r ffordd caiff ei gyfleu
  7. sicrhau bod y cysyniad dylunio gwisgoedd yn cydymffurfio gyda swyddogaeth, steil a diben y wisg
  8. y deunyddiau, y personél a’r technegau gwneuthur gofynnol
  9. adnabod yr adnoddau hanfodol i greu'r dyluniad
  10. amcangyfrif y gost a'r raddfa amser er mwyn gwneud y wisg
  11. rhannu'r wybodaeth a'r cysyniad dylunio gyda'r tîm cynhyrchu/adrannau neu unigolion eraill
  12. trin a thrafod a chytuno ar newidiadau gofynnol i'r cysyniad dylunio
  13. cydymffurfio gyda rheolau a gofynion cyfrinachedd y cynhyrchiad
  14. adnabod cyflenwyr sy'n meddu ar y sgiliau technegol ac arbenigol i gyflawni'r cysyniad dylunio gan gadw at gyllideb a therfynau amser y cynhyrchiad
  15. canfod ffynonellau eraill o gyflenwadau pan nad oes modd i'r cyflenwyr cyfredol fodloni'r gofynion
  16. cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth a'r canllawiau iechyd a diogelwch bob amser

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. arddull weledol / ffurf y cynhyrchiad
  2. cyfyngiadau amser a chyllidebol y cynhyrchiad
  3. gofynion y cysyniad dylunio gwreiddiol
  4. ymarfer gorau'n ymwneud ag ymchwilio gwybodaeth
  5. y mathau o ddillad roedd pobl yn eu gwisgo ar gyfer ffurf / cyfnod hanesyddol cynhyrchiad o'r fath 
  6. sut byddai personoliaeth a gweithgareddau corfforol cymeriadau yn effeithio ar ddyluniad y gwisgoedd
  7. dewisiadau creadigol pobl berthnasol eraill fel y cyfarwyddwr a'r perfformwyr eu hunain
  8. y deunyddiau, y personél a’r technegau gwneuthur gofynnol
  9.  cost arfaethedig y deunyddiau, y personél gwisgoedd a'r gost i gynhyrchu'r dyluniad
  10. cyflenwyr dibynadwy gyda'r gallu i greu/cyflawni'r cysyniad dylunio gofynnol
  11. rheolau a gofynion cyfrinachedd y cynhyrchiad
  12.  sut i gyflwyno a rhannu gwybodaeth yn eglur ac mewn ffordd sensitif
  13. cyfrifoldebau statudol ynghlwm â'r deddfwriaethau a'r rheoliadau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSQ7

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig a Galwedigaethau Technegol, Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Celfyddydau Perfformio, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â’r Cyfryngau

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

Gwisg; wardrob; ymchwil; dylunio; cysyniad; creadigol; dylunwyr; perfformwyr; cyfarwyddwyr; adnoddau