Creu celfi effeithiau arbennig ffisegol
Trosolwg
Mae’r safon hon a wnelo â chreu celfi i’w defnyddio mewn effeithiau arbennig ffisegol.
Bydd gofyn ichi ymchwilio i unrhyw ddyluniadau, cadw o fewn cyfnod y dyluniad ac unrhyw baramedrau eraill o ddilysrwydd sydd wedi’u pennu gan y cynhyrchiad. Bydd hefyd yn gofyn am wybodaeth am ddeunyddiau mae modd eu defnyddio, fel atgynyrchiadau bwydydd, celfi meddal, celfi hanesyddol a modelau gwyddonol.
Bydd angen ichi nodi deunyddiau a gofynion adeiladu, dod o hyd i ddeunyddiau a chreu celfi sy’n cwrdd â’r gofynion. Er mwyn gwneud hyn, bydd angen ichi ddeall egwyddorion mowldio, cerflunio a cherfio. Bydd hefyd angen ichi ddangos gwybodaeth o weithio gydag ystod eang o ddeunyddiau gan gynnwys plastr, GRP, resin, rwber, polystyren a sbwng a gallu cymhwyso’r technegau mowldio, cerflunio a cherfio priodol i’r rhain.
Mae’r safon hon ar gyfer y rhai sy’n creu celfi effeithiau arbennig.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- creu celfi effeithiau arbennig sy’n cwrdd â gofynion y brîff, cyllideb a’r cynhyrchiad
- nodi deunyddiau a gofynion adeiladu, gan gynnwys eu cynyddu neu eu lleihau er mwyn cwrdd â’r gofynion
- dod o hyd i’r deunyddiau sydd eu hangen ar gyfer y celfi gaiff eu cynhyrchu
- darparu dogfennaeth sy’n manylu ar y deunyddiau, y cydrannau a’r technegau gaiff eu defnyddio i gynhyrchu celfi i’r bobl berthnasol
- creu celfi yn unol â ffotograffau, darluniau, brasluniau neu ddelweddiadau gaiff eu darparu
- paratoi fframweithiau sy’n addas i’w modelu
- creu modelau a brasluniau 3D ar raddfa addas ac o ddeunyddiau addas i brofi’r dyluniadau
- cynhyrchu cynhyrchion maint llawn sy’n ystyried unrhyw addasiadau sydd eu hangen o ganlyniad i brofion
- dod o hyd i a defnyddio celfi toradwy i gwrdd â gofynion y cynhyrchiad
- cofnodi pob agwedd o asesu risg a rheoli risg
- cyflawni'ch gwaith yn unol â gofynion iechyd a diogelwch, gan ddilyn camau gweithredu os na fydd eraill yn dilyn gofynion diogelwch
- cynnal diogelwch y cast a’r criw
- darparu dewisiadau eraill o fewn cyllideb ac amserlen y cynhyrchiad os nad oes modd cynhyrchu celfi i’r dyluniad neu gyllideb gwreiddiol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ymchwilio i wybodaeth ffynhonnell ddigonol i greu celfi effeithiau arbennig ffisegol
- defnydd darluniadau, brasluniau, ffotograffau a delweddau wrth fanylu ar ddeunyddiau a gofynion adeiladu a sut i’w cynhyrchu
- dadansoddiad sgript, cyllideb ac amserlen ar gyfer celfi effeithiau arbennig ffisegol
- y gwahanol ddeunyddiau a thechnegau gaiff eu defnyddio wrth fodelu a cherflunio ar gyfer celfi effeithiau arbennig byw, a sut mae modd eu defnyddio ar y cyd er mwyn mowldio a chastio
- egwyddorion modelu, castio a mowldio o ddarnau gwreiddiol
- sut i greu patrymau o gelfi gwreiddiol
- sut i ddod o hyd i a defnyddio celfi toradwy i greu effeithiau fel gwrthrychau sydd wedi torri
- sut caiff mecanweithiau mewnol gaiff eu defnyddio mewn modelau neu gelfi eu defnyddio i greu effeithiau
- anatomeg ddynol ac anifeiliaid
- technegau a deunyddiau castio byw a’r ystyriaethau diogelwch sydd ynghlwm
- y broses ddylunio, yn bennaf sut i drosi cyfeirnod 2D yn wrthrych 3D
- sut mae animatroneg yn gweithio ar y cyd â’r broses fodelu
- y gwahanol fathau o ddymis i’w defnyddio; rhai difywyd, rhai sy’n gallu symud, rhai oedolion, babis, plant ac anifeiliaid
- egwyddorion gosod gwallt a’r gorffeniad
- egwyddorion gorffeniad gwaith paentio neu liwio
- sut i gynhyrchu fframwaith i gefnogi ffurf o fodel gan ddefnyddio deunyddiau sy’n briodol i’r dasg
- pa adrannau sydd angen cyswllt rheolaidd i sicrhau y caiff modelau a chelfi eu defnyddio yn effeithiol ac yn ddiogel
- y dulliau o raddio celfi presennol i greu modelau mwy/llai
- beth mae modd ei gyflawni trwy ôl-gynhyrchu ac effeithiau gweledol ar gyfer yr effaith benodol