Creu effeithiau mecanyddol

URN: SKSPSFX8
Sectorau Busnes (Cyfresi): Effeithiau Arbennig Ffisegol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Wedi'i gymeradwyo: 2024

Trosolwg

Mae’r safon hon a wnelo â chreu effeithiau mecanyddol, gan gynnwys defnyddio animatroneg.
 
Mae’n tybio bod gennych y wybodaeth angenrheidiol i weithio yn y maes hwn o beirianneg fecanyddol. Mae hefyd yn tybio fod gennych ddealltwriaeth o effeithiau arbennig ffisegol a’r rhan y gall peirianneg fecanyddol ei chwarae yn y maes gwaith hwn.
 
Mae’r safon hon ar gyfer y rhai sy’n creu effeithiau arbennig mecanyddol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. creu effeithiau mecanyddol sy’n cwrdd â gofynion y brîff, cyllideb a chynhyrchiad
  2. cydweithio gydag adrannau eraill
  3. dehongli cynlluniau neu ddelweddiadau wedi’u darparu gan y cynhyrchiad i greu effeithiau
  4. darparu dyluniadau neu ddogfennaeth ar gyfer effeithiau
  5. canfod deunyddiau sydd eu hangen ar gyfer cynhyrchu effeithiau mecanyddol
  6. cynnal iechyd a diogelwch y cast a’r criw
  7. cadarnhau bod yr holl waith mecanyddol yn cwrdd â phrotocolau diogelwch presennol a darparu dogfennaeth ar eu cyfer
  8. rhoi system glir ar waith ar gyfer gweithredu ciwiau gan ddefnyddio rigiau
  9. defnyddio ystod eang o dechnegau a dulliau i gyflawni effeithiau mecanyddol penodol
  10. cofnodi profion gan ddarparu’r ddogfennaeth angenrheidiol i’r tîm cynhyrchu at ddibenion adborth
  11. darparu dewisiadau a dyluniadau eraill os nad oes modd cynhyrchu’r effeithiau o fewn y dyluniad, cyllideb neu amserlen gwreiddiol
  12. cysylltu gydag adrannau eraill i sicrhau bod cerbydau wedi’u paratoi mewn ffyrdd sy’n lleihau risg
  13. cadarnhau bod mesurau diogelwch priodol a dogfennaeth angenrheidiol mewn lle wrth weithio gyda llestri pwysedd a falfiau pibelli
  14. cofnodi pob agwedd o asesu risg a rheoli risg

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y dadansoddiad sgript, gofynion y gyllideb a’r cynhyrchiad ar gyfer effeithiau mecanyddol
  2. sut i ddarllen a deall lluniau a manylebau technegol
  3. egwyddorion peirianneg fecanyddol fel niwmateg, hydroleg, graddau materol a’u priodweddau
  4. sut i ddefnyddio peirianneg fecanyddol i greu propiau, effeithiau a styntiau cynhyrchu
  5. deunyddiau adeiladu ac ystod eang o dechnegau, gan gynnwys sut i ddewis dulliau gosod a chysylltu priodol
  6. technolegau traddodiadol ac arloesol ar gyfer torri a siapio
  7. mecaneg hylif
  8. cyfrifo grymoedd a phryd bydd angen i arbenigwr gymeradwyo cyfrifiadau e.e. peiriannydd strwythurol
  9. dyluniad gwahanol fecanweithiau
  10. moduron, gyriannau, eu rhannau cynigol a sut caiff pob un ei ddefnyddio i gynhyrchu effeithiau
  11. sut mae mecanweithiau torri a rhyddhau yn gweithio a’r protocolau diogelwch wrth eu defnyddio
  12. gwybodaeth am daflegrynau a’u taflwybrau
  13. sut caiff effeithiau mecanyddol eu gweithredu a sut maent yn ymateb mewn gwahanol amgylcheddau, gan gynnwys dan ddŵr
  14. sut i weithredu effeithiau mecanyddol o fewn protocolau iechyd a diogelwch, gan gadw at safonau a deddfwriaeth gyfredol y diwydiant
  15. sut i weithio’n ddiogel o uchder
  16. y ddeddfwriaeth a’r mesurau diogelwch ar gyfer gweithio gyda llestri pwysedd a falfiau pibelli rheoledig
  17. rigiau camerâu a sut mae modd eu defnyddio
  18. sut i ddefnyddio cewyll rholio a pharatoi cerbydau ar gyfer styntiau
  19. technolegau cyfredol a rhai sy’n dod i’r amlwg a sut mae modd defnyddio’r rhain i greu effeithiau mecanyddol
  20. sut gall Dylunio â Chymorth Cyfrifiadur (CAD), Gweithgynhyrchu â Chymorth Cyfrifiadur (CAM) ac argraffu 3D weithio gyda’i gilydd i ddylunio a chynhyrchu modelau mecanyddol
  21. y prosesau gweithgynhyrchu gaiff eu defnyddio mewn mecaneg, gan gynnwys weldio codio
  22. beth mae modd ei gyflawni trwy ôl-gynhyrchu ac effeithiau gweledol ar gyfer yr effeithiau gofynnol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSPSFX8

Galwedigaethau Perthnasol

Uwch Dechnegydd Effeithiau Arbennig, Technegydd Effeithiau Arbennig, Swyddog Effeithiau Arbennig dan Hyfforddiant, Arolygydd Effeithiau Arbennig

Cod SOC


Geiriau Allweddol

mecanyddol; animatroneg; effeithiau arbennig ffisegol; dylunio; cynllunio; hydroleg; grym; dadansoddiad sgript; cyllideb; cynhyrchiad; iechyd a diogelwch; CAD; CAM;