Creu effaith brosthetig
URN: SKSPSFX7
Sectorau Busnes (Cyfresi): Effeithiau Arbennig Ffisegol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Wedi'i gymeradwyo:
2024
Trosolwg
Mae’r safon hon a wnelo â chreu prosthetig i’w ddefnyddio mewn cynhyrchiad.
Mae’n ofynnol bod gennych chi’r wybodaeth a’r gallu i greu prosthetigau a dealltwriaeth drylwyr o’r peryglon sydd ynghlwm.
Mae angen ichi allu cynllunio, cerfio, mowldio, rhedeg a gosod prosthetigau. Bydd angen ichi weithio mewn cydweithrediad â gwahanol staff cynhyrchu, yn bennaf gydag adrannau gwisgoedd, celfi a styntiau er mwyn cyflawni’r effaith benodol.
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n creu a gosod prosthetigau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cysylltu gyda phobl ac adrannau priodol ynghylch anghenion prosthetig
- ymchwilio i effeithiau prosthetig go iawn a phriodol
- creu prosthetigau sy’n cwrdd â’r brîff, cyllideb a gofynion cynhyrchu
- paratoi creiddiau a chastiau sy’n addas i weithio â nhw
- gwneud gwaith mowldio a chastio terfynol ar ddarnau prosthetig gan ddefnyddio deunyddiau priodol er mwyn cwrdd â gofynion y cynhyrchiad
- darparu dogfennaeth sy’n amlinellu gweithdrefnau diogelwch angenrheidiol
- cynnal diogelwch y cast a’r criw
- cael gafael ar a defnyddio celfi toradwy yn ôl y gofyn
- sicrhau bod unrhyw fygydau tân gaiff eu defnyddio wedi’u gwneud o drwch penodol ac yn hawdd eu rhyddhau
- cysylltu a gweithio mewn cydweithrediad gyda phobl berthnasol i sicrhau bod pob effaith brosthetig yn ddiogel
- monitro pobl sy’n defnyddio prosthetigau er mwyn sicrhau nad oes adweithiau alergaidd, newidiadau eithafol yn nhymheredd y corff neu effaith ar eu gallu i weithio’n hawdd
- gweithredu heb oedi ac yn unol â chyfarwyddiadau iechyd a diogelwch os bydd digwyddiad sy’n gysylltiedig â phrosthetig yn digwydd ar set neu mewn gweithdy
- tynnu prosthetigau yn unol â gofynion diogelwch
- darparu dewisiadau eraill yn unol â gofynion y cynhyrchiad a’r gyllideb os nad oes modd cynhyrchu prosthetigau i’r dyluniad neu gyllideb gwreiddiol
- cofnodi pob agwedd o asesiad risg a rheoli risg
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gyda phwy i gysylltu yn y cynhyrchiad, ac yn arbennig adrannau gwisgoedd, celfi, effeithiau arbennig a styntiau ynglŷn â’r prosthetigau sydd eu hangen a’r gofynion diogelwch ar eu cyfer
- toriadau, sgraffiniadau, briwiau a’r corff
- sut i ddefnyddio cynnyrch gwaed ffug a rigiau gwaed
- tymheredd cywir y corff i’w gynnal wrth ddefnyddio gwisgoedd creaduriaid
- sut i sicrhau bod prosthetigau penodol yn wir ac yn cwrdd â gofynion y cynhyrchiad
- technegau penodol i’w defnyddio ar gyfer prosthetigau heneiddio
- y prosesau mae’n rhaid eu cynnal er mwyn cyflawni sganiau digidol neu gastiau byw a’r deunyddiau sydd eu hangen ar gyfer hyn
- deunydd a thechnegau cerfio, mowldio a chastio
- pwysigrwydd mygydau tân a’u gwneuthuriad er mwyn eu defnyddio mewn stỳnt llosgi corff
- cyflenwadau ac offer aer
- canlyniadau posibl o beidio â defnyddio deunyddiau yn briodol neu gywir a’r mesurau i’w dilyn ar unwaith
- adweithiau alergaidd posibl all ddigwydd wrth ddefnyddio prosthetigau, sut i’w hadnabod a sut i weithredu o ganlyniad
- sut i gynnal profion eang mewn amgylchedd gweithdy addas a phwysigrwydd cofnodi neu wneud fideo o bob prawf er mwyn osgoi unrhyw berygl diangen
- sut i dynnu colur a/neu brosthetig yn ddiogel
- animatroneg a’u defnydd wrth greu prosthetig effeithiau arbennig
- defnydd celfi toradwy fel gwydr a chelfi seramig
- beth mae modd ei gyflawni trwy ôl-gynhyrchu ac effeithiau arbennig ar gyfer yr effaith ofynnol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
3
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSPSFX7
Galwedigaethau Perthnasol
Uwch Dechnegydd Effeithiau Arbennig, Technegydd Effeithiau Arbennig, Swyddog Effeithiau Arbennig dan Hyfforddiant, Arolygydd Effeithiau Arbennig
Cod SOC
Geiriau Allweddol
effeithiau arbennig ffisegol; dylunio; cynllunio, effeithiau; creu; effaith brosthetig; celfi; cynhyrchiad; dadansoddi sgript; cyllideb; rheoli risg; asesu risg; adwaith;