Creu effeithiau ffurfiau bychain
Trosolwg
Mae’r safon hon a wnelo â chreu effeithiau ffurfiau bychain.
Bydd angen dealltwriaeth o offer camera, gan gynnwys lensys, fformatau a mowntiau, a chysylltu’n agos gyda’r Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth i ddeall sut caiff ffurfiau bychain eu ffilmio.
Bydd hefyd yn gofyn ichi ddeall gwaith adeiladu, technegau trin digidol ac effeithiau gweledol.
Mae’n tybio fod gennych ddealltwriaeth o byrotechneg ac yn gallu gweithio’n agos gydag aelodau’r tîm pyrotechneg i gyflawni’r effaith yn ddiogel ac effeithlon.
Bydd yn gofyn ichi gysylltu gyda’r gwneuthurwyr priodol ac mewn rhai achosion defnyddio Dylunio â Chymorth Cyfrifiadur (CAD), Gweithgynhyrchu â Chymorth Cyfrifiadur (CAM) neu argraffwyr 3D i gynhyrchu modelau gofynnol.
Mae’r safon hon ar gyfer y rhai sy’n cynhyrchu effeithiau arbennig ffurfiau bychain.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- creu effeithiau ffurfiau bychain sy’n cwrdd â gofynion y brîff, cyllideb a’r cynhyrchiad
- ymgynghori gyda phenaethiaid adrannau perthnasol i gadarnhau bod effeithiau ffurfiau bychain sydd wedi’u cwblhau yn cwrdd â’r gofynion
- cysylltu gyda staff cynhyrchu perthnasol ac awdurdodau gorfodi i sicrhau bod effeithiau yn ddiogel ac yn cydymffurfio â’r gyfraith
- darparu dogfennaeth sy’n manylu sut caiff effeithiau ffurfiau bychain eu dylunio a’u cyflawni
- cadarnhau bod ffurfiau bychain wedi’u gwneud a’u graddio i gwrdd â gofynion y cynhyrchiad
- sicrhau bod unrhyw ddogfennaeth angenrheidiol wedi’u creu a’u cadw yn unol â rheoliadau
- canfod deunyddiau sydd eu hangen ar gyfer y ffurfiau bychain gaiff eu cynhyrchu
- cynnal iechyd a diogelwch y cast a’r criw
- cydweithio gyda thechnegwyr pyrotechnig i greu effeithiau pyrotechnig sy’n cwrdd â gofynion diogelwch a gofynion y cynhyrchiad
- cysylltu gyda thechnegwyr CAD, CAM neu argraffu 3D i gynhyrchu unrhyw fodelau sydd eu hangen yn unol â gofynion y cynhyrchiad
- cofnodi pob agwedd o asesu risg a rheoli risg
- darparu dewisiadau eraill o fewn cyllideb ac amserlen y cynhyrchiad os nad oes modd cynhyrchu’r effeithiau i’r dyluniad neu gyllideb gwreiddiol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y dadansoddiad sgript, gofynion cyllideb a’r cynhyrchiad ar gyfer effeithiau ffurfiau bychain
- deddfwriaeth iechyd a diogelwch a safonau’r diwydiant ar gyfer creu effeithiau ffurfiau bychain
- cyflymder ffilm, fformatau fframiau a chymarebau
- gwahanol fathau o gamerâu a’u manteision ac anfanteision
- sut i ddefnyddio camerâu a’u hoffer ategol
- onglau lens a’r egwyddorion sylfaenol sy’n gysylltiedig â’r rhain
- mowntiau camerâu a sut maent yn wahanol i’w gilydd
- pwysigrwydd graddfa a phersbectif a sut caiff y rhain eu defnyddio i gyflawni effeithiau gwahanol
- sut i ddarllen lluniau sydd wedi’u cynhyrchu gan gyfrifiaduron, technegau trin digidol a lluniadau technegol
- deunyddiau addas a sut i’w cael, i’w defnyddio ar effeithiau ffurfiau bychain
- sut mae modd creu modelau celfi digidol a’u hallbynnu i’r broses gwneud, boed yn fewnol neu yn allanol
- pyrotechneg, dŵr a thân a sut maent yn cael eu graddio i’w defnyddio ar ffurfiau bychain
- beth mae modd ei gyflawni drwy ôl-gynhyrchu ac effeithiau gweledol ar gyfer yr effaith sy’n ofynnol