Creu effeithiau tân ymarferol

URN: SKSPSFX5
Sectorau Busnes (Cyfresi): Effeithiau Arbennig Ffisegol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 2024

Trosolwg

Mae’r safon hon a wnelo â dylunio a chynhyrchu effeithiau tân ymarferol.
Mae’n gofyn am wybodaeth am ddulliau tanio a diffodd a’r rheolaeth iechyd a diogelwch sy’n gysylltiedig â’r gwaith. Mae’n rhaid ichi fod yn gwbl ymwybodol o’r gweithdrefnau a’r protocolau sy’n ymwneud â thanio, rheoli a diffodd tân ymarferol.
 
Nid yw’r safon hon yn ymwneud â phelenni tân ffrwydrol; mae’r rhain yn dod o dan nawdd pyrotechneg.
 
Mae’r safon hon ar gyfer y rhai sy’n cynhyrchu effeithiau arbennig tân ymarferol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. creu effeithiau tân ymarferol sy’n cwrdd â gofynion y brîff, cyllideb a chynhyrchiad
  2. gwneud arolwg o, rhagchwilio a chofnodi lleoliadau i gadarnhau a ydynt yn addas ar gyfer effeithiau tân
  3. defnyddio’r deunyddiau mwyaf addas i greu effeithiau tân
  4. trafod a chytuno ar bob agwedd o ddyluniadau gyda staff cynhyrchu allweddol
  5. rhannu gwybodaeth glir gyda’r holl adrannau sy’n ymwneud ag effeithiau
  6. dod o hyd i, prynu, cludo a storio deunyddiau gaiff eu rheoleiddio yn unol â deddfwriaeth a rheoliadau cyfredol
  7. ystyried cynaliadwyedd ac effaith amgylcheddol yr effeithiau
  8. rhoi arweiniad ar bob agwedd o iechyd a diogelwch yr effeithiau a’u deunyddiau i benaethiaid adrannau perthnasol a’r tîm cynhyrchu
  9. cadarnhau bod darpariaeth ddigonol ar gyfer diogelwch y cast a’r criw yn unol â deddfwriaeth a gofynion rheoleiddiol gan gynnwys yswiriant tân, arwahaniad canfod tân, cyfnodau gwylio tân
  10. cyflogi criw gyda’r sgiliau a’r profiad angenrheidiol ar gyfer y gwaith
  11. cadw cofnodion o’r deunyddiau gaiff eu defnyddio a’r trefniadau cludo a storio yn ôl yr angen
  12. cysylltu gyda chyrff perthnasol ac awdurdodau gorfodi i sicrhau glyniant wrth ddeddfwriaeth a rheoliadau
  13. cynghori pobl berthnasol pan fydd angen defnyddio cyfarpar diogelu personol (PPE)
  14. gwirio a chadarnhau bod yswiriant tân addas a chymwys mewn lle
  15. cofnodi pob agwedd o asesu risg a rheoli risg gan ddarparu dogfennaeth yn ôl yr angen
  16. gwirio a chadarnhau bod yr holl ddeunyddiau gaiff eu defnyddio yn cael eu gwaredu yn unol â gofynion cyfreithiol a gofynion y cynhyrchiad
  17. cadarnhau bod lleoliadau yn cael eu dychwelyd i’w cyflwr penodol
  18. darparu dewisiadau eraill o fewn cyllideb ac amserlen y cynhyrchiad pan nad oes modd cynhyrchu effeithiau i’r dyluniad neu gyllideb gwreiddiol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y dadansoddiad o'r sgript, cyllideb ac amserlen ar gyfer yr effeithiau tân
  2. yr ystod eang o effeithiau tân ymarferol a sut i’w cyflawni
  3. camau i’w dilyn i greu stỳnt llosgi corff
  4. deddfwriaeth, rheoliadau a safonau iechyd a diogelwch presennol ar gyfer creu effeithiau tân ymarferol
  5. rôl yr adran gelf ac adeiladu wrth greu setiau gwrth-fflam
  6. yr amgylchedd lle caiff yr effaith ei phrofi a’i gweithredu
  7. gofynion atal a gwrthsefyll tân
  8. gwahanol ddulliau o danio a diffodd tân
  9. profion echdynnu mwg ac awyru sy’n ofynnol
  10. priodweddau gwahanol ddeunyddiau fflamadwy sydd ar gael, sut i’w defnyddio a’u hanfanteision
  11. sut mae modd dod o hyd i neu gynhyrchu deunyddiau fflamadwy
  12. sut i ddefnyddio pibelli dŵr, cysylltiadau a falfiau a dyfeisiadau allfeydd ar gyfer effeithiau tân
  13. gweithdrefnau cywir ar gyfer cludo a storio deunyddiau fflamadwy
  14. sut i rannu manylion gweithdrefnau gwacáu a chynnal llwybrau dianc rhag ofn y bydd argyfwng neu ddamwain
  15. sut i ganfod tân a’i gadw ar wahân
  16. gwahanol offer gaiff eu defnyddio ar gyfer tanau ar wahanol raddfeydd
  17. safleoedd gweithredu diogel ar gyfer y cast a’r criw
  18. lefelau priodol o staff effeithiau arbennig i sicrhau diogelwch y cast a’r criw
  19. sut i gyflogi criw gyda’r sgiliau a’r profiad angenrheidiol gynnwys arbenigwyr drydydd parti i gydweithio o fewn tîm
  20. pa eitemau o gyfarpar diogelu personol (PPE) sydd angen eu dosbarthu ac i bwy
  21. pwysigrwydd cysylltu gyda swyddogion tân lleol a phryd mae angen gwneud hynny
  22. pwysigrwydd cynnal gwyliadwriaeth dân
  23. sut i fonitro lefelau CO2 a gollyngiadau posibl
  24. beth mae modd ei gyflawni trwy ôl-gynhyrchu ac effeithiau gweledol ar gyfer yr effeithiau gofynnol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSPSFX5

Galwedigaethau Perthnasol

Uwch Dechnegydd Effeithiau Arbennig , Technegydd Effeithiau Arbennig, Swyddog Effeithiau Arbennig dan Hyfforddiant, Arolygydd Effeithiau Arbennig

Cod SOC


Geiriau Allweddol

effeithiau arbennig ffisegol; dylunio; cynllunio; effeithiau; creu; effaith dân ymarferol; PPE; cynhyrchiad; gofynion diogelwch; dadansoddiad sgript; cyllideb; arbenigwr trydydd parti; asesiad risg; argyfwng;