Creu effeithiau atmosfferig
URN: SKSPSFX4
Sectorau Busnes (Cyfresi): Effeithiau Arbennig Ffisegol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
2024
Trosolwg
Mae'r safon hon a wnelo â'ch gallu i gynhyrchu effaith atmosfferig – mae'r rhain yn cynnwys glaw, gwynt, eira, rhew, niwl a mwg.
Bydd angen i chi feddu ar ddealltwriaeth drylwyr o'r gwahanol ddeunyddiau ac offer a ddefnyddir i greu effeithiau atmosfferig, pa rai sy'n addas ar gyfer pa leoliadau a meddu ar brofiad o’u defnyddio yn ddiogel ac effeithiol.
Mae'r safon hon ar eich cyfer chi os ydych chi'n creu effeithiau arbennig atmosfferig.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- creu effeithiau atmosfferig yn unol â dadansoddiad o'r sgript y cynhyrchiad a chyfyngiadau cyllideb
- defnyddio offer a deunyddiau sy’n addas i’r effeithiau atmosfferig gaiff eu cynhyrchu
- cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth iechyd, diogelwch ac amgylcheddol a’r gofynion rheoleiddio sy’n berthnasol i’r effeithiau
- cynnal mesurau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol a chadw dogfennau at ofynion rheoleiddio a deddfwriaeth
- ystyried pob agwedd o asesu risg a darparu dogfennaeth yn ôl yr angen
- cyflogi criw gyda’r sgiliau a’r profiad angenrheidiol ar gyfer y swydd
- cysylltu gyda’r cast a’r criw i rannu manylion yr effeithiau gaiff eu defnyddio
- cynnal diogelwch y cast a’r criw gan leihau cyswllt a chadw at lefelau cyswllt galwedigaethol (OEL) ar gyfer y deunyddiau gaiff eu defnyddio
- cysylltu gyda thrydydd barti a sefydliadau i sicrhau bod cyn lleied o darfu â phosibl ar wasanaethau cyhoeddus
- trefnu gwasanaeth gan y gwasanaethau brys yn ôl y gofyn
- darparu dewisiadau eraill o fewn cyllideb ac amserlen y cynhyrchiad pan nad oes modd cynhyrchu effeithiau i’r dyluniad neu gyllideb gwreiddiol
- cadarnhau y caiff setiau eu dychwelyd i’w cyflwr gofynnol, gan ddarparu dogfennaeth yn ôl yr angen
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y dadansoddiad sgript, gofynion y gyllideb a’r cynhyrchiad ar gyfer yr effaith atmosfferig sydd ei hangen
- sut i ddefnyddio offer a deunyddiau i greu effaith atmosfferig
- y deunyddiau cywir i’w defnyddio er mwyn efelychu eira, rhew, niwl a mwg
- effeithiau cyddwyso ar ddeunyddiau sensitif yn y set
- deddfwriaeth a goblygiadau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol wrth greu effeithiau atmosfferig fel OEL
- graddfa, a sut y bydd hyn yn edrych ar gamera wrth greu effaith
- effaith y bydd gan yr effeithiau atmosfferig yr ydych chi’n gweithio â nhw ar amgylchedd y lleoliad ac isadeiledd cyfleustodau presennol
- sut i leihau unrhyw amhariad ar yr amgylchedd a lleoliad
- pwysigrwydd hysbysu’r gwasanaethau brys pan fo angen
- sut i gyflogi arbenigwyr criw neu drydydd barti sydd â’r sgiliau gofynnol i gydweithio fel rhan o dîm
- y criw y mae angen cysylltu â nhw i sicrhau bod effeithiau’n ddiogel ac yn cael eu monitro yn ôl yr angen
- protocolau a deddfwriaethau i gydymffurfio â nhw wrth gynhyrchu effeithiau atmosfferig
- sut i lanhau a chael gwared ar ddeunyddiau gaiff eu defnyddio mewn effeithiau atmosfferig
- beth mae modd ei gyflawni trwy ôl-gynhyrchu ac effeithiau gweledol
- gyda phwy i gysylltu â nhw yn y cynhyrchiad i sicrhau bod y set yn cael ei dychwelyd i’w chyflwr gwreiddiol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
3
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSPSFX4
Galwedigaethau Perthnasol
Uwch Dechnegydd Effeithiau Arbennig , Technegydd Effeithiau Arbennig, Goruchwyliwr Effeithiau Arbennig, Swyddog Effeithiau Arbennig dan Hyfforddiant
Cod SOC
Geiriau Allweddol
effeithiau arbennig ffisegol; dylunio; cynllunio; effeithiau; creu; effaith atmosfferig; cynhyrchiad; gofynion diogelwch; dadansoddiad sgript; cyllideb; arbenigwr trydydd barti; asesiad risg; argyfwng;