Gweithio mewn ffordd ddiogel ac effeithiol mewn gweithdy
URN: SKSPSFX3
Sectorau Busnes (Cyfresi): Effeithiau Arbennig Ffisegol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
2024
Trosolwg
Mae’r safon hon a wnelo â gweithio yn effeithiol a diogel gan gydymffurfio â gofynion rheoleiddiol mewn amgylchedd gweithdy. Bydd yn cynnwys creu neu gynnal gofod gweithdy diogel all fod yn barhaol neu dros dro, a chynnal eich iechyd a diogelwch chi eich hun a’r criw rydych chi’n gweithio gyda nhw bob amser.
Mae hefyd yn golygu sicrhau bod y gofod yn lân, yn drefnus ac wedi’i reoli’n dda er mwyn cyflawni eich gwaith. Gall hyn hefyd gynnwys gosod gofod wedi’i logi er mwyn gallu cyflawni’r gwaith angenrheidiol yn effeithiol, gan gynnwys tacluso a dychwelyd y gofod i’w gyflwr gwreiddiol.
Mae'r safon hon ar gyfer y rhai sy'n gweithio mewn amgylchedd gweithdy.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cadarnhau bod gofod y gweithdy yn ddiogel ac nad oes modd i bobl heb awdurdod fynd yno o fewn lefel eich awdurdod
- gwirio bod yr amgylchedd weithio yn ddiogel ac yn cydymffurfio gyda deddfwriaeth a rheoliadau cyfredol
- cadarnhau y caiff offer a deunyddiau eu storio yn y lleoliadau penodol pan nad ydynt yn cael eu defnyddio
- cysylltu gyda staff y cynhyrchiad ynglŷn ag asesiad risg
- gwirio a chadarnhau bod yr holl gyfleustodau ac offer wedi’u gosod a’u defnyddio yn ddiogel, gan gydymffurfio gyda deddfwriaeth a rheoliadau iechyd a diogelwch
- monitro a chynnal dogfennaeth ddiogelwch yn y gweithdy yn unol â deddfwriaeth a gofynion rheoleiddio
- sicrhau bod holl systemau echdynnu mewn lle ac yn gweithredu mewn modd diogel a chydymffurfiol
- cadarnhau, drwy gysylltu gyda’r tîm cynhyrchu, bod lefelau digonol o yswiriant mewn lle
- darparu dogfennaeth yswiriant pan fo angen
- gwirio a chadarnhau y caiff offer ei gynnal i’r safonau gofynnol
- cadarnhau bod cofnodion cynnal a chadw offer yn gyflawn ac yn gyfredol, gan ddarparu tystysgrifau profion
- darparu systemau ailgylchu a gwaredu gwastraff priodol yn unol deddfwriaeth, cynaliadwyedd ag ymarfer amgylcheddol cyfredol
- defnyddio cyfarpar diogelu personol (PPE) i sicrhau iechyd a diogelwch eich hun ac eraill yn y gweithdy
- cofnodi pob agwedd o asesu risg a rheoli risg gan ddarparu dogfennaeth yn ôl yr angen
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- pwysigrwydd bod yn gyfarwydd â’r offer yn yr ardal waith
- yr offer sy’n ddiogel i chi eu defnyddio yn eich rôl chi yn y maes gwaith
- lleoliad cyflenwadau cyfleustodau, pa mor addas ydyn nhw a’u diogelwch
- sut i lwytho a dadlwytho offer trwm yn ddiogel
- sut i gysylltu gyda’r tîm cynhyrchu ynghylch asesiadau risg a’u heffaith ar y gofod gweithdy
- mesurau iechyd a diogelwch sy’n berthnasol wrth weithio mewn amgylchedd gweithdy
- y ddeddfwriaeth a’r gofynion rheoleiddiol y mae angen cydymffurfio â nhw
- trefniadau trydanol adeilad ac effaith hyn ar y gwaith gaiff ei gynnal yno
- offer echdynnu llwch, mwg ac aer sydd mewn lle yn y gweithdy
- sut i sicrhau bod deunyddiau yn cael eu storio’n ddiogel yn y gweithdy
- diogelwch yr adeilad er mwyn sicrhau nad oes modd i’r cyhoedd gael mynediad ar unrhyw adeg
- sut i greu ardaloedd gwaith diogel o fewn y gweithdy, megis peryglon baglu a thâp rhwystr
- sut i adnabod a storio sylweddau peryglus yn gywir
- sut i greu a rheoli’r gofod gweithdy a sicrhau ei fod yn parhau yn lân ac yn drefnus bob amser
- pwy sy’n gyfrifol am gynnal a chadw’r offer a chofnodion cynnal a chadw
- pwysigrwydd defnyddio cyfarpar diogelu personol (PPE) mewn amgylchedd gweithdy
- sut i reoli gwaredu gwastraff ac ailgylchu yn unol â deddfwriaeth, cynaliadwyedd ac ymarfer amgylcheddol cyfredol
- y gofynion yswiriant gwahanol ar gyfer gofod gweithdy parhaol a dros dro
- sut i egluro beth sydd wedi’i gynnwys ym mholisi’r cynhyrchiad neu gwmni
- sut mae eich gweithredoedd chi ac eraill yn cyfrannu at drefniant y gofod gweithdy
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
3
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSPSFX3
Galwedigaethau Perthnasol
Uwch Dechnegydd Effeithiau Arbennig , Technegydd Effeithiau Arbennig, Swyddog Effeithiau Arbennig dan Hyfforddiant, Arolygydd Effeithiau Arbennig
Cod SOC
Geiriau Allweddol
effeithiau arbennig ffisegol; dylunio; cynllunio; effeithiau; gweithdy; cynhyrchiad; iechyd a diogelwch; rheoli risg; dadansoddiad sgript; cyllideb; cynaliadwyedd; deddfwriaeth;