Cynllunio a dylunio effeithiau arbennig ffisegol

URN: SKSPSFX2
Sectorau Busnes (Cyfresi): Effeithiau Arbennig Ffisegol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 2024

Trosolwg

Mae’r safon hon a wnelo â chynllunio a dylunio effeithiau arbennig ffisegol.
Bydd yn cynnwys creu a datblygu effaith, gwybod pa ddeunyddiau sydd fwyaf priodol a chyfleu’r wybodaeth angenrheidiol i’r tîm cynhyrchu.
 
Bydd arnoch chi angen cydweithio gydag ystod o adrannau cynhyrchu er mwyn dylunio’r effaith a chynllunio ar gyfer ei gweithredu. Bydd arnoch chi hefyd angen cydweithio gyda’ch tîm ac unrhyw drydydd barti fel criwiau tân preifat i sicrhau bod effeithiau’n cael eu gweithredu yn ddiogel, yn gywir ac yn effeithiol.
 
Mae’r safon hon ar gyfer y rhai sy’n cynllunio ac yn dylunio effeithiau arbennig ffisegol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. dylunio effeithiau arbennig ffisegol sy’n cwrdd â gofynion y brîff, cyllideb a chynhyrchiad
  2. cydweithio gydag adrannau eraill a staff allweddol wrth ddylunio a chynllunio effeithiau arbennig ffisegol
  3. gwneud arolwg o, rhagchwilio a chofnodi lleoliadau i gadarnhau a ydynt yn addas ar gyfer yr effeithiau dan sylw
  4. cynllunio a chyflwyno manylebau dylunio ar gyfer effeithiau arbennig ffisegol mewn fformatau penodol
  5. gwirio a chadarnhau pob agwedd o ddyluniadau a bod eu gweithrediad yn cwrdd â deddfwriaeth a rheoliadau iechyd a diogelwch
  6. asesu’r risgiau sydd ynghlwm a neilltuo rhagofalon priodol i’w gwrthsefyll
  7. darparu dogfennau diogelwch cyflawn yn ôl yr angen
  8. rhoi cyngor ac arweiniad i’r tîm cynhyrchu ar bob agwedd o iechyd a diogelwch ar gyfer effeithiau
  9. cadarnhau bod dyluniadau yn ymgorffori pob agwedd allweddol o effeithiau, gan gynnwys mecaneg, cemegau a deunyddiau i’w defnyddio
  10. cysylltu gyda chynhyrchwyr celfi a deunyddiau i sicrhau bod pob rhan yn addas ar gyfer yr effeithiau arfaethedig
  11. gwirio a chadarnhau bod unrhyw gymeradwyaeth angenrheidiol wedi’i cheisio a’i chadarnhau gan y tîm cynhyrchu
  12. gwirio a chadarnhau y caiff unrhyw brofion eu cynnal yn unol â safonau diogelwch a’u bod wedi’u cofnodi
  13. cofnodi pob agwedd o asesu risg a rheoli risg gan ddarparu dogfennaeth yn ôl yr angen
  14. awgrymu a darparu dyluniadau eraill, o fewn cyllideb ac amserlen y cynhyrchiad, pan nad oes modd defnyddio’r rhai gwreiddiol
  15. cyfathrebu pob agwedd o ddyluniadau i’r bobl berthnasol ar eich tîm ac i’r tîm cynhyrchu
  16. cyflogi criw gyda’r sgiliau a’r profiad angenrheidiol ar gyfer y gwaith
  17. darparu dogfennaeth a chyfarwyddiadau sy’n ddigon manwl i aelodau’r tîm gynhyrchu effeithiau
  18. ystyried cynaliadwyedd ac effaith amgylcheddol yr effeithiau
  19. cadarnhau y caiff lleoliadau eu dychwelyd i gyflwr diogel unwaith bydd effeithiau arbennig ffisegol wedi’u cyflawni

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i ymchwilio a chynllunio elfennau a deunyddiau gofynnol ar gyfer dyluniadau
  2. sut i asesu’r hyn fydd ei angen o ran deunyddiau i greu effeithiau, sut byddant yn cael effaith ar effeithiau a’r rhesymeg dros eu defnyddio
  3. mecaneg effeithiau dan sylw a sut i’w hail-greu yn argyhoeddiadol mewn modd sy’n cwrdd â deddfwriaeth diogelwch
  4. manteision asesu lleoliadau lle bo hynny’n bosibl cyn eu gweithredu
  5. sut i symleiddio’r broses effeithiau arbennig ffisegol
  6. gwahanol fformatau camera a manylebau technegol sydd ar gael gan gynnwys gwahanol lensys, fformatau, egwyddorion fframio a chymarebau, mowntiau, onglau ffilmio, dyfnder maes, egwyddorion safbwyntiau a chyfyngiadau graddfa
  7. polisïau a gofynion cyfreithiol y cynhyrchiad, gan gynnwys iechyd a diogelwch, yswiriant, cyllidebau ac amserlenni a sut mae’r rhain yn cael effaith ar effeithiau arbennig ffisegol
  8. mesurau i’w rhoi mewn lle i sicrhau bod effeithiau’n cael eu gweithredu yn ddiogel, yn gywir ac yn effeithiol
  9. sut i gynhyrchu a gweithredu celfi a deunyddiau gweithredol
  10. sut i ddefnyddio dymis difywyd a rhai sy’n symud a’r fecaneg sy’n gysylltiedig â defnyddio’r rhain
  11. sut i greu modelau a chynyddu neu leihau’r elfennau presennol
  12. sut i ddefnyddio tafluniadau ffotograffig, dulliau graddio, sganio digidol, argraffu a phrototeipio cyflym, deunyddiau a phrosesau
  13. yr heriau o brofi effeithiau dan amodau gweithdy a sut mae modd ailadrodd hyn mewn stiwdio ac ar leoliad
  14. sut mae perfformwyr stỳnt yn gweithio a’r paramedrau diogelwch y mae’n rhaid iddynt weithredu ynddynt
  15. hierarchaeth y cynhyrchiad a phwy sydd angen derbyn gwybodaeth ac ar ba gam o’r broses ddylunio
  16. amserlen, cyllideb, cyfyngiadau a chynlluniau eich adran chi yn ogystal ag anghenion adrannau eraill
  17. y prosesau i’w dilyn i dderbyn cymeradwyaeth ar gyfer effeithiau arbennig ffisegol yn ystod y cynhyrchiad
  18. sut i gyflogi criw sydd â’r sgiliau a’r profiad angenrheidiol gan gynnwys arbenigwyr o drydydd barti i gydweithio o fewn tîm
  19. beth mae modd ei gyflawni trwy ôl-gynhyrchu ac effeithiau gweledol ar gyfer yr effaith ofynnol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSPSFX2

Galwedigaethau Perthnasol

Uwch Dechnegydd Effeithiau Arbennig , Technegydd Effeithiau Arbennig, Swyddog Effeithiau Arbennig dan Hyfforddiant, Arolygydd Effeithiau Arbennig

Cod SOC


Geiriau Allweddol

effeithiau arbennig ffisegol; asesiad risg; dylunio; cynllunio; dadansoddiad sgript; cyllideb; amserlen; cyfathrebu;