Gweithredu effeithiau arbennig ffisegol ar gynhyrchiad
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â'ch gallu chi i weithredu effeithiau arbennig ffisegol. Mae'n cymryd yn ganiataol eich bod chi eisoes yn gwybod sut i ddefnyddio'r deunyddiau gofynnol. Bydd angen i chi friffio pobl ar elfennau'r dyluniad a'r gofynion diogelwch, a sicrhau fod yr offer a'r deunyddiau'n addas i'w pwrpas ac yn cael eu rheoli'n briodol.
Bydd yn ymwneud ag adnabod penaethiaid adrannau allweddol y bydd angen i chi gysylltu â nhw i gynhyrchu effeithiau mewn dull diogel a chyfreithiol gydymffurfiol.
Dylid defnyddio'r Safon hon ochr yn ochr ag unrhyw rai o'r rhai a restrir isod:
Bydd yn golygu adnabod penaethiaid adrannau allweddol y bydd angen i chi gysylltu â nhw i greu effeithiau mewn dull diogel a chyfreithiol gydymffurfiol.
Dylid defnyddio'r Safon hon ochr yn ochr ag unrhyw un o'r safonau a restrir isod:
PSFX04 Creu effeithiau atmosfferig
PSFX05 Creu effeithiau tân ymarferol
PSFX06 Creu effeithiau bychain
PSFX08 Creu effeithiau mecanyddol
PSFX09 Creu propiau effeithiau arbennig ffisegol
PSFX10 Creu effeithiau ffrwydrol a phyrotechnig
Mae'r safon hon ar eich cyfer chi os ydych chi'n gweithredu effeithiau arbennig ffisegol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cysylltu â phobl briodol i sicrhau fod yr holl wybodaeth ddiogelwch berthnasol ar gyfer effeithiau arbennig ffisegol yn cael eu cyfathrebu i bob aelod perthnasol o'r cast a'r criw
- sicrhau fod pawb yn glynu wrth y canllawiau diogelwch bob amser
- darparu cyfeiriadau prawf darluniadol a fideo i'r tîm cynhyrchu yn unol â gofynion cynhyrchu
- cyflogi criw cymwys sy'n meddu ar sgiliau a phrofiad perthnasol ar gyfer y gwaith
- cyfathrebu coreograffi golygfa i'r bobl berthnasol i helpu'u dealltwriaeth ac arfer ddiogel
- hyfforddi cast a chriw ar sut y bydd effeithiau'n cael eu cyflawni mewn modd sy'n helpu'u dealltwriaeth ac sy'n hybu arfer ddiogel, gan arddangos elfennau pan fo hynny'n briodol
- sicrhau fod pob aelod o'r criw effeithiau arbennig yn deall ei rôl wrth weithredu effeithiau
- darparu offer a deunyddiau ar gyfer eu defnyddio mewn effeithiau arbennig ffisegol sy'n addas ar gyfer eu pwrpas ac mewn cyflwr priodol a chydymffurfiol
- ymateb i unrhyw newidiadau cyllidebol neu amserlen mewn dull cadarnhaol gan gyfathrebu unrhyw newidiadau i bawb perthnasol
- cysylltu â phobl briodol i sicrhau fod cerbydau'n cael eu rheoli'n effeithiol ar gyfer effeithiau arbennig ar set yn unol â gofynion cynhyrchu a diogelwch
- dogfennu pob agwedd ar asesu risg a rheoli risg mewn fformatau priodol
- defnyddio gwybodaeth ddibynadwy i werthuso'r defnydd o effeithiau arbennig ffisegol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- rheoliadau a deddfwriaeth iechyd a diogelwch sy'n berthnasol i'r effeithiau arbennig ffisegol yr ydych chi'n gweithio gyda nhw
- sut i gysylltu'n effeithiol â phenaethiaid adran, cast, criw, yswirwyr ac awdurdodau gorfodi priodol
- y modd o sicrhau fod diogelwch y cast a'r criw yn cael ei gynnal bob amser, yn y gweithdy ac ar y set
- pwysigrwydd peidio â chael cast a chriw'n newid neu'n addasu offer i siwtio pwrpas arbennig heb ganiatâd yr adran effeithiau arbennig
- sut i ddehongli coreograffiaeth golygfa, manylebau sgript yn unol ag arferion diogel
- yr hyn sydd ei angen er mwyn hwyluso darparu effeithiau'n llwyddiannus a diogel
- sut i brofi a chofnodi canlyniadau ar gamera
- â phwy i gysylltu o'r tîm cynhyrchu, gan gynnwys yr adran lleoliadau, am reoli cerbydau ar set
- y caniatâd a'r gymeradwyaeth angenrheidiol gan awdurdodau a sefydliadau perthnasol y mae'n rhaid eu cael a sut i fynd o gwmpas gwneud hynny
- prosesau ar gyfer paratoi offer a deunyddiau i greu effeithiau
- sut i gyflogi unigolion neu drydydd parti arbenigol cymwys i weithio ar y cyd mewn tîm
- sut i ymateb yn effeithiol ac effeithlon i newidiadau mewn cyllideb neu amserlen a pham fod hynny'n bwysig.