Creu effeithiau ffrwydrol a phyrotechnig

URN: SKSPSFX10
Sectorau Busnes (Suites): Effeithiau Arbennig Ffisegol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 01 Maw 2017

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn ymwneud â'ch gallu chi i gynllunio a chreu effaith ffrwydrol neu byrotechnig yn ddiogel. Fe all ymwneud â thanio ffrwydron unigol neu luosog a phrofi cylchedau.

Mae'n cymryd yn ganiataol fod gennych brofiad o effeithiau arbennig ffisegol yn barod a bod angen i chi gymhwyso'r profiad hwn i'r maes arbenigedd penodol hwn yn eich gwaith.

Bydd angen i chi wybod am y peryglon sydd ynghlwm â defnyddio deunyddiau ffrwydrol gwahanol, y dulliau tanio a diffodd a'r rheolaeth iechyd a diogelwch sydd ynghlwm â'r maes gwaith hwn.

Mae'r Safon hon ar eich cyfer chi os ydych chi'n creu effeithiau arbennig ffrwydrol neu byrotechnig.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. creu effeithiau ffrwydrol a phyrotechnig yn unol â manyleb cynhyrchu a chyfyngiadau cyllidebol
  2. adnabod a defnyddio technegau pyrotechnig neu ffrwydrol sydd fwyaf priodol ar gyfer y gwaith
  3. ffynonellu, pwrcasu, storio a symud deunyddiau ffrwydrol a phyrotechnig mewn modd sy'n cydymffurfio â deddfwriaeth gyfredol
  4. darparu a chadw dogfennaeth angenrheidiol mewn fformatau disgwyliedig
  5. cyfrifo cerrynt, foltedd, gwrthiant, ynni, gyda chylcheddau cyfochrog a chyfresol gan ddefnyddio gwybodaeth gywir
  6. dewis a defnyddio systemau tanio a ffynonellau cynnau sy'n briodol i'r gwaith
  7. paratoi ffrwydron mewn morteri i gynyddu neu leihau effeithiau ffrwydrol
  8. dylunio cymysgeddau cemegol a ffrwydrol sy'n ail-greu'r raddfa faintioli a ddymunir
  9. dogfennu pob agwedd ar reoli ac asesu risg mewn fformatau priodol
  10. sicrhau fod parthau diogelwch wedi cael eu nodi a bod pawb yn glynu atynt
  11. cyfathrebu gyda'r cast a'r criw i gynnal diogelwch bob amser
  12. sicrhau fod Offer Diogelu Personol (PPE) yn cael ei ddefnyddio gan bawb yn ôl galw'r gwaith 
  13. atal saethiad ar unwaith pan ystyriwch ei bod hi'n rhy beryglus i barhau
  14. nodi pob anghenraid diogelwch gyda safle tanio clir a llinell weld glir
  15. creu effeithiau sy'n bodloni gofynion cyfarwyddwyr
  16. defnyddio gwybodaeth ddibynadwy i asesu effaith effeithiau ar y lleoliad a'i amgylchedd
  17. cysylltu ag awdurdodau gorfodi i sicrhau fod pob protocol cyfreithiol wedi cael ei gadw
  18. sicrhau fod pob deunydd a ddefnyddir y cael eu gwaredu'n unol â'r gofynion cyfreithiol a chynhyrchu
  19. sicrhau fod lleoliadau'n cael eu hadfer i gyflwr diogel
  20. sicrhau fod gwarant tân addas a chymwys yn bresennol
  21. darparu atebion amgen o fewn y gyllideb a'r amserlen pan na ellir cynhyrchu effeithiau yn unol â'r dyluniad neu'r gyllideb wreiddiol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. manyleb y sgript, cyllideb ac amserlen ar gyfer yr effaith ffisegol arbennig
  2. rheoliadau a deddfwriaeth iechyd a diogelwch sy'n berthnasol i ddeunyddiau ffrwydrol a phyrotechneg gan gynnwys: storio, trwyddedu, symud, pwrcasu a thrwyddedu i weithgynhyrchu
  3. awdurdodau gorfodi a chyrff perthnasol eraill y bydd angen i chi gysylltu â nhw a'r protocolau cyfreithiol y bydd angen i chi gydymffurfio â nhw wrth ddefnyddio ffrwydron
  4. sut i drawsnewid syniad mewn sgript yn rhywbeth go iawn drwy ddefnyddio ffrwydron a phyrotechnig
  5. y peryglon sy'n ymwneud â defnyddio mathau gwahanol o ddeunyddiau ffrwydrol a'r cynnyrch sydd ar gael yn fasnachol, a sut y gellir eu defnyddio
  6. egwyddorion cyffredinol defnyddio'r grym lleiaf i gyflawni effaith weledol
  7. diogelwch sylfaenol sy'n ymwneud â defnyddio ffrwydron gan gynnwys: dulliau dechrau, osgoi dechrau anfwriadol, storio addas, arferion trin a gweithio diogel
  8. sut i gyfathrebu'n effeithiol â'r tîm cynhyrchu a phob adran berthnasol
  9. y cyflymderau ffilm mwyaf priodol i'w defnyddio ar gyfer yr effaith, yn enwedig yn achos pethau bychain a graddau maintioli gwahanol
  10. sut i greu argraff o effaith maint llawn gyda phethau bychain
  11. ystyriaethau amgylcheddol ac effaith ar leoliad yn ystod y gwaith profi a'r gwaith terfynol 
  12. sut i ddylunio cylchedau trydanol i'w defnyddio gydag offer pyrotechnig
  13. sut i ddefnyddio morteri i gyfyngu ar ffrwydradau a'u cyfeirio, ac i reoli egni
  14. sut i wisgo ffrwydrad i ychwanegu effaith weledol
  15. y modd y bydd bwledi'n taro pobl a gwrthrychau
  16. adeiladwaith a deunyddiau arbenigol mewn gwaith pyrotechnig bychan
  17. sut i reoli a goruchwylio effaith ar set
  18. safleoedd gweithredu diogel ar gyfer criwiau effeithiau arbennig ar set
  19. sut i wneud setiau'n ddiogel ar ôl i effaith ddigwydd
  20. gweithdrefn delio â cham-danio a gwneud yn ddiogel
  21. y mathau gwahanol o ddillad diogelwch ac Offer Diogelu Personol (PPE) ar gyfer cast a chriw
  22. sut i sicrhau bod y camera wedi'i ddiogelu'n briodol
  23. sut i weithredu mewn argyfwng neu ddamwain
  24. pethau y gellid o bosib eu defnyddio yn lle pyrotechnegau, a phryd y gellir eu gweithredu, gan gynnwys: morteri aer, trawiadau bwledi llinell awyr, a rigiau mecanyddol
  25. sut i gysylltu gyda'r gwasanaethau tân a pharamedig, a sut i'w cynghori
  26. y lefelau priodol o staff effeithiau arbennig fydd eu hangen i sicrhau diogelwch y cast a'r criw ar bob adeg

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative Skillset

URN gwreiddiol

SKSSFX10

Galwedigaethau Perthnasol

Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Gweithwyr Proffesiynol Effeithiau Arbennig Ffisegol , Uwch Dechnegydd Effeithiau Arbennig , Hyfforddai Effeithiau Arbennig , Technegydd Effeithiau Arbennig, Goruchwyliwr Effeithiau Arbennig

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Effeithiau Arbennig Ffisegol, Dylunio, Cynllunio, Effaith tân ymarferol, Pyrotechnegau, Cyllidebau, Datgymalu